Nam ar y golwg a'r clyw

Diweddarwyd y dudalen ar: 26/07/2023

Mae amryw o wasanaethau yn darparu cyngor a chefnogaeth ar fyw'n annibynnol ar gyfer oedolion sydd â nam ar y synhwyrau. Rydyn ni’n cynnig cymorth ac arweiniad i oedolion sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, sydd:

  • â nam ar y golwg, nam ar y clyw, neu'r ddau
  • yn gofalu am bobl sydd â nam ar y golwg neu ar y clyw..

Sut allwn ni eich cefnogi?

Drwy weithio gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill yn Sir Gaerfyrddin gallwn eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Bydd hyn yn dechrau gyda thrafodaeth am eich anghenion gofal a chefnogaeth, a gall gynnwys cyfarpar ac addasiadau i'ch cartref.

Er enghraifft, os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw efallai y byddwch yn cael problemau rhwystredig yn y cartref. Efallai bod angen i chi droi sain y teledu’n uchel, neu efallai na fyddwch bob amser yn clywed y ffôn neu gloch y drws. Gall system alw sy'n dirgrynu neu sydd â golau sy'n fflachio ddweud wrthych fod rhywun wrth y drws neu fod y ffôn yn canu.

Os oes gennych broblem gweld, mae gennym weithwyr arbenigol - Swyddogion Adfer - i bobl â nam ar eu golwg, a gallan nhw roi gwybodaeth a chyngor ichi ynghylch cael eich cofrestru fel un sydd â nam ar y olwg neu sydd â nam difrifol ar y golwg. Gallwn helpu i hybu eich hyder drwy ddarparu hyfforddiant o ran symudedd i’ch galluogi i deithio’n ddiogel, a darparu sgiliau bywyd bob dydd i’ch galluogi i barhau gyda'ch tasgau o ddydd i ddydd. Mae modd cael benthyg offer a all fod o gymorth i chi gyda’ch nam ar y golwg. Gallwn ddysgu ffyrdd gwahanol o gyfathrebu ichi a rhoi therapi golwg gwan ichi gyda'r chwyddwydrau newydd a ragnodwyd ichi.

Cael gwasanaethau

Os ydych yn ei chael yn anodd cael gwasanaethau oherwydd nam ar eich synhwyrau mae gennym staff hyfforddedig a allai’ch helpu chi.

Os bydd angen, gallwn eich helpu i gael Dehonglydd Iaith Arwyddion, Gwefus-Lefarydd, neu fath arall ar gymorth cyfathrebu mewn unrhyw apwyntiadau pwysig sydd gennych. Mae gwasanaeth gwaith cymdeithasol mewn iaith arwyddion ar gael hefyd.

Os ydych yn aml yn cael anawsterau gyda chyfathrebu, gallwn roi fanylion o fudiadau eraill sydd yn roi cyngor ynghylch unrhyw fudd-daliadau y gallai fod gennych hawl iddyn nhw.

GWNEUD CAIS AM ASESIAD