Cyflenwyr band eang yn Sir Gâr

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/04/2024

Mae pump o gyflenwyr wrthi'n adeiladu seilwaith yn Sir Gâr. Pan fo modd, mae ein timau’n gweithio’n agos gyda nhw i gefnogi eu cyflwyniad masnachol ac unrhyw gynlluniau talebau cymunedol y maent yn eu cyflawni.

Wrth i gysylltedd gwell ddod yn hanfodol ar gyfer bron pob cartref a busnes, mae'r farchnad yn agor a bellach mae mwy a mwy o opsiynau ar gael i ddefnyddwyr, gan olygu byd mwy cystadleuol. Mae’r cyflenwyr mwy newydd hyn wedi cael y llysenw ‘Altnets’ wedi’i dalfyrru o ‘Alternative Networks’. Mae'r cwmnïau hyn yn llai o ran maint ac yn tueddu i weithio'n fwy rhanbarthol, felly gallant fod yn llai adnabyddus yn aml. Gall Altnets fod yn ffactor pwysig i ddarparu cysylltedd mewn ardaloedd gwledig, ond rydych yr un mor debygol o ddod o hyd i altnets mewn trefi a dinasoedd hefyd.

Nid yw rhai altnets wedi agor eu rhwydwaith i Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISPs) eraill eto sy'n golygu eu bod yn gyfrifol am adeiladu'r rhwydwaith a'r unig opsiwn sydd ar gael ar gyfer eich gwasanaeth rhyngrwyd.

Rydym wedi rhestru'r holl gyflenwyr rydym yn gweithio gyda nhw ar draws Sir Gâr, ac mae gwybodaeth am y pecynnau y maent yn eu cynnig ar eu gwefannau.