Gwella eich sgiliau digidol

Diweddarwyd y dudalen ar: 18/04/2024

Gyda’r ystod o dechnoleg, meddalwedd ac offer sydd ar gael i ni, mae meddu ar sgiliau digidol da yn bwysicach nag erioed. Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch llethu â phosibiliadau'r byd digidol neu os hoffech ddysgu mwy, dyma amrywiaeth o sefydliadau sy'n cynnig adnoddau a all helpu i wella unigolion, busnesau a chymunedau.