Hygyrchedd

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni wyneb yn wyneb

Os ydych yn fyddar neu'n drwm eich clyw, gallwn ddarparu cyfieithydd iaith arwyddion ar gyfer unrhyw apwyntiadau sydd gennych chi. Mae dolen sain symudol ar gael hefyd. Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn gwneud yr apwyntiad.

Os ydych yn defnyddio ffôn testun, gallwch ffonio unrhyw rif o fewn y Cyngor drwy wasgu 18001 cyn y rhif.

Wrth ymweld â'r Hwb / Canolfan Gwasanaeth Cwsmer, mae gan bob canolfan ddrysau awtomatig yn y fynedfa ac mae'r holl wasanaethau ar gael ar y llawr gwaelod.

Cael gwybod sut i gysylltu â ni.