Sgamiau - peidiwch â chael eich twyllo

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/03/2024

Gall unrhyw un gael ei ddal gan sgam. Maent yn cyrraedd drwy'r post, drwy e-bost, dros y ffôn ac ar garreg y drws. Yn syml iawn, twyll yw'r rhan fwyaf o sgamiau, a throseddwyr yw'r rheiny sy'n eu cyflawni.

Ymhlith y sgamiau mwyaf cyffredin y mae sgamiau loteri dros y ffôn, swîps, taliadau gan y llywodraeth a phethau eraill sy'n dod drwy'r post - maent i gyd yn addo taliad mawr ond, wrth gwrs, mae trap, sef y ffi rydych yn ei thalu o flaen llaw.

Mae canlyniadau'r sgamiau hyn ar unigolion a'u teuluoedd a'u dibynyddion yn hynod ddifrifol. Mae llawer o bobl yn teimlo o dan fygythiad ac yn pryderu am eu diogelwch personol, mae'n cael effaith niweidiol ar iechyd a lles, a gall y goblygiadau ariannol fod yn drychinebus.

Os ydych chi neu un o'ch teulu wedi cael eich twyllo gan sgam, mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi gwybod am y mater i Cyngor ar Bopeth.

I gael cyngor a chanllawiau am sgamiau, ewch i'r dolenni isod.