Dod yn Fasnachwr

Diweddarwyd y dudalen ar: 19/10/2024

Rydym yn ymfalchïo bod ein marchnadoedd wrth galon ein cymunedau ac mae gennym hanes cryf o gefnogi masnachwyr; o'u helpu i ddechrau yn ein marchnadoedd i gefnogi datblygiad a thwf busnes. Mae gennym hefyd amrywiaeth eang o stondinau ac unedau ar gael ar draws y sir.

Unedau sydd ar gael

Mae gennym ni amrywiaeth o unedau a siopau dan do o wahanol feintiau ar gael ym marchnadoedd dan do Caerfyrddin a Llanelli a gellir gweld unrhyw unedau sydd ar gael ar dudalennau eiddo'r Cyngor. Dewiswch I Osod i weld yr unedau sydd ar gael.

Os ydych newydd ddechrau masnachu neu os yw'n well gennych farchnad Awyr Agored, rhowch gynnig ar Farchnadoedd Sir Gaerfyrddin. Mae'n ffordd wych, gost-effeithiol o sefydlu syniad busnes mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol.

Mae yna farchnadoedd awyr agored yn:

  • Caerfyrddin
  • Llandeilo
  • Llanelli
  • Rhydaman

Mae’r gost i fynychu un o’r marchnadoedd awyr agored a weithredir gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn amrywio yn ôl maint y stondin. 

Os bydd ymholiad i fynychu'r farchnad awyr agored yn llwyddiannus a bod partïon â diddordeb wedi cofrestru a darparu'r holl wybodaeth berthnasol byddant yn derbyn cadarnhad eu bod wedi cael trwydded i fasnachu yn y farchnad awyr agored. Nid oes angen i fasnachwyr achlysurol gyflwyno ffurflen gofrestru bob tro y maent am fynychu'r farchnad oni bai bod y math o fusnes yn newid.

Dod yn Fasnachwr

P'un a ydych yn ceisio mynediad achlysurol i un o'n marchnadoedd awyr agored, neu os hoffech ddod yn fasnachwr marchnad rheolaidd yn un o'n marchnadoedd dan do, bydd y wybodaeth isod yn eich helpu i wneud cais i ddod yn fasnachwr marchnad. 

Rhaid i bob masnachwr sy'n dymuno mynychu marchnadoedd awyr agored a weithredir gan Gyngor Sir Caerfyrddin:

Darparu modd addas i fasnachu yn y farchnad. Bydd hwn naill ai'n gasebo neu'n gerbyd addas. Gweler Meddiannu Llain Marchnad – Marchnad Awyr Agored.

Meddu ar yswiriant busnes priodol. Gweler Yswiriant Busnes ar gyfer Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin.

Darparu asesiad risg priodol ar gyfer masnachu yn y farchnad. Meddu ar dystysgrifau cyfredol gan gontractwyr cofrestredig ar gyfer unrhyw offer trydanol neu nwy i'w defnyddio wrth fynychu'r farchnad. Gweler Gweithio'n Ddiogel ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin.

Lle maent yn fusnes bwyd, wedi cofrestru gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn gallu darparu tystiolaeth o sgôr Diogelwch Bwyd o 3 neu uwch. Gweler Diogelwch Bwyd ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin.

Mae masnachwyr a hoffai werthu alcohol yn destun cyfyngiadau. Gweler Gwerthu Alcohol ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin.

Y gost ar hyn o bryd i rentu llain yn un o'r marchnadoedd awyr agored a ddarperir gan Gyngor Sir Caerfyrddin yw £10 am bob 3 metr sgwâr. Bydd y costau’n cynyddu yn ôl nifer y stondinau arhent sy’n cael eiu adolygu o bryd i’w gilydd.

Bydd costau gweithio o wagen arlwyo yn cael eu hasesu gan y Cyngor ac yn dibynnu ar faint y cerbyd. Mae holl daliadau’r farchnad yn daladwy ar ddiwrnod y digwyddiad neu mewn rhai achosion ymlaen llaw yn dibynnu ar natur y digwyddiad. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os bydd taliadau yn daladwy ymlaen llaw.

Bydd pob cais i fynychu'r farchnad awyr agored yn cael ei ystyried gan y Cyngor yn unol â'i bolisi dyrannu er mwyn annog amrywiaeth a chystadleuaeth deg ynghyd â cheisio osgoi gorgyflenwad pan fydd argaeledd stondinau wedi'i gyfyngu gan yr ardal sydd ar gael. Gweler Dyrannu Stondinau Marchnadoedd Awyr Agored (gan gynnwys digwyddiadau).

Gwneud cais i gael stondin mewn marchnad awyr agored

 

Mae'r Cyngor yn cynnal marchnadoedd dan do yn Llanelli a Chaerfyrddin ac mae gan bob marchnad siopau a stondinau o wahanol feintiau.

Mae’r marchnadoedd dan do yn cynnig cyfle i fasnachwyr annibynnol newydd a phresennol werthu amrywiaeth o nwyddau, cynnyrch a gwasanaethau. 

Gellir gweld yr holl stondinau/siopau gwag ym Marchnadoedd Dan Do Caerfyrddin neu Lanelli yn ein hadran Eiddo’r Cyngor a thrwy ddewis yr opsiwn ‘I’w Osod’. 

Dyrennir stondinau marchnad a siopau trwy broses dendro. Mae'r broses yn mynnu bod darpar fasnachwyr yn cyflwyno cynigion gan ddyfynnu lefel y rhent y maent yn dymuno ei gynnig. Yn amodol ar dderbyn y bid bydd y cynigydd wedyn yn cael Cytundeb Tenantiaeth ac yn gorfod talu rhent bob chwarter.  

Dylai masnachwyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais am stondin neu siop wag ofyn am ffurflen dendro gan swyddfa'r farchnad. Bydd y ffurflen yn crynhoi'r wybodaeth allweddol am yr eiddo ac yn cynnwys gwahoddiad i dendro neu nodi'r rhent chwarterol y mae'r cynigydd yn barod i'w dalu. Gall swyddfa'r farchnad helpu hefyd os oes unrhyw ymholiadau pellach ynghylch yr eiddo neu delerau deiliadaeth. 

Rhaid dychwelyd tendrau mewn amlenni swyddogol (a ddarperir) erbyn amser a dyddiad penodol. 

Byddai'r eiddo fel arfer yn cael ei ddyrannu i'r cynigydd uchaf, fodd bynnag efallai y bydd amgylchiadau pan nad yw hyn yn bosibl neu'n briodol. Nid oes rheidrwydd ar y Cyngor i dderbyn y tendr uchaf (nac unrhyw dendr). Ystyriaethau eraill sy'n berthnasol i'r dyraniad yw; 

  • yr angen am ddewis i ddenu amrywiaeth o gwsmeriaid 
  • yr angen am amrywiaeth i sicrhau bod y farchnad yn ddiddorol
  • osgoi dyblygu diangen a gor-gynrychiolaeth
  • a dal i annog cystadleuaeth deg rhwng masnachwyr i gynnal ansawdd

I derfynu Cytundeb Tenantiaeth rhaid i'r tenant roi tri mis o rybudd ysgrifenedig o'r bwriad i adael.  

Sylwer: Ym Marchnad Caerfyrddin mae yna hefyd faes marchnad achlysurol lle mae telerau penodol yn berthnasol. Gweler Masnachu ym Marchnad Dan Do Caerfyrddin (Stondin Gwib Achlysurol).

Materion eraill i'w hystyried ar gyfer Masnachu Dan Do  

Yswiriant Busnes - Rhaid i denantiaid gael yswiriant busnes priodol. Gweler Yswiriant Busnes ar gyfer Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin.

Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus – Rhaid i bob Busnes gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus yn unol â gofynion yswiriant Cyngor Sir Caerfyrddin. 

Asesiad Risg – Rhaid i denantiaid ddarparu asesiad risg priodol ar gyfer masnachu yn y farchnad. Rhaid i bob tenant hefyd gael ei arferion diogel eu hunain o fewn yr Asesiad Risg. Gweler Gweithio'n Ddiogel ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin.

Tystysgrifau – Rhaid i denantiaid feddu ar dystysgrifau dilys cyfredol ar gyfer unrhyw offer trydanol neu nwy i'w defnyddio wrth fynychu'r farchnad. Gweithio'n Ddiogel ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin

Glendid Bwyd – Rhaid i gynhyrchwyr a gwerthwyr bwyd fod wedi'u cofrestru gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd a darparu tystiolaeth o sgôr Diogelwch Bwyd o 3 neu uwch y mae'n rhaid ei harddangos. Gweler Diogelwch Bwyd ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin.

Alcohol - Mae masnachwyr sy'n gwerthu alcohol yn ddarostyngedig i gyfyngiadau. Gweler Gwerthu Alcohol ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin.

Bydd disgwyl i bob masnachwr ddarparu naill ai gasebo neu gerbyd arlwyo addas ar gyfer masnachu yn y farchnad awyr agored.

Bydd disgwyl i bob masnachwr ddarparu unrhyw offer arall sydd ei angen i fasnachu naill ai o gasebo neu gerbyd arlwyo addas. 

Awgrymir bod pwysau yn cael eu rhoi ar waelod pob gasebo ar gyfer pob marchnad. Mae'n ofynnol bod pwysau yn cael eu rhoi ar waelod pob gasebo yn ystod gwyntoedd cymedrol/uchel, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Dylai pob gasebo fod o adeiladwaith cadarn i wrthsefyll tywydd garw. Gweler y Polisi Tywydd Garw.

Dylai pob gasebo a cherbyd arlwyo gael eu cynnal a’u cadw’n briodol a chael eu cynnwys yn yr asesiad risg busnes. Gweler Gweithio'n Ddiogel ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin.

Er mwyn annog cymysgedd addas o gynnyrch ac amrywiaeth ymhlith masnachwyr bydd y rhan fwyaf o ddefnyddiau yn gyfyngedig o ran nifer a byddai hyn fel arfer yn golygu cyfyngiad o ddau fesul math.  

Fodd bynnag, yn achos digwyddiadau marchnad neu wyliau a drefnir, bydd y terfyn yn cael ei ymestyn yn unol â maint y digwyddiad. Yn achos Marchnadoedd Bwyd Misol cyfyngir y nifer i dri 

Bydd angen cyflwyno cais i fasnachu ar rai digwyddiadau yn ddigon cynnar i wirio addasrwydd yr ymgeisydd. Yn achos rhai digwyddiadau marchnad awyr agored rhaid cyflwyno ceisiadau o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Bydd y ceisiadau a gyflwynir yn ddiweddarach, a'r rhai a gyflwynir ar gyfer busnesau tebyg yn cael eu rhoi ar restr wrth gefn. Mae’n bosibl y gofynnir i’r rhai sydd ar y rhestr wrth gefn fod yn bresennol os oes lle ar gael ar ôl i rywun dynnu’n ôl neu os yw rheolwr y digwyddiad yn fodlon y gellir ymestyn y cyfyngiad ar fusnesau tebyg.

Cyfrifoldeb pob masnachwr marchnad awyr agored unigol yw cadw yswiriant priodol yn unol â'r gofynion a ddarperir gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Rhaid i bob masnachwr gael yr Yswiriant Busnes canlynol i fasnachu naill ai yn y marchnadoedd dan do neu yn yr awyr agored yn Sir Gaerfyrddin. 

  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ag isafswm gwerth o £5,000,000
  • Yswiriant Atebolrwydd Cynnyrch gydag isafswm gwerth o £5,000,000
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr o leiafswm gwerth o £5,000,000

Gellir cael yswiriant trwy fod yn aelod o'r Ffederasiwn Masnachwyr Marchnad Cenedlaethol (NMTF) neu drwy frocer yswiriant o'ch dewis.

Mae'n ofynnol i bob masnachwr sy'n mynychu naill ai'r marchnadoedd dan do neu awyr agored a weithredir gan Gyngor Sir Caerfyrddin gael asesiad risg priodol. 

Bydd yr Asesiad Risg yn nodi peryglon, risgiau a mesurau rheoli er mwyn amddiffyn y rhai sydd mewn perygl rhag niwed. 

Mae'r Asesiadau Risg yn ofyniad cyfreithiol a byddant yn ychwanegol at unrhyw ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith sy'n berthnasol i'r busnes.  

Mae'n ofynnol i fasnachwyr ddarparu dogfennaeth cydymffurfio diogelwch ar gyfer unrhyw offer a ddefnyddir yn y farchnad. 

Rhaid i'r holl offer trydanol fod â marc CE, rhaid bod profion teclynnau cludadwy (PAT) wedi'u cynnal arnynt a rhaid bod ganddynt dystysgrif  gyfredol gan gontractwr cofrestredig NICEIC. Dylai'r offer hefyd gael prawf PAT.

Rhaid i bob offer nwy ddangos y marc CE a rhaid iddo feddu ar Dystysgrif Diogelwch Nwy gyfredol.

Nid oes gan neuadd y farchnad dan do drwydded ar gyfer gwerthu neu yfed Alcohol.

Rhaid i fusnesau unigol gael trwydded ar wahân ar gyfer gwerthu alcohol yn y farchnad dan do ac yn yr awyr agored. Rhaid i Reolwr y Dref a'r Farchnad neu Reolwr Cynorthwyol y Farchnad hefyd gytuno ar werthiant alcohol yn ystod y cam o wneud y cais, a rhaid i hyn fod yn gydnaws â’r cyfuniad o denantiaid.

Rhaid i werthiant alcohol yn y farchnad awyr agored gael ei gymeradwyo gan Reolwr y Dref a'r Farchnad neu Reolwr Cynorthwyol y Farchnad ar gyfer pob digwyddiad a chael ei gefnogi gan hysbysiad Digwyddiad Dros Dro lle nad yw'r digwyddiad wedi'i gefnogi gan drwydded safle.

Sylwer: Nid oes gan Gyngor Sir Caerfyrddin Drwydded Safle ar gyfer digwyddiadau marchnad awyr agored. Os yw'r digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan drydydd parti, dylai'r masnachwr wirio a oes gan drefnydd y digwyddiad Drwydded Safle cyn gwneud cais am hysbysiad digwyddiad dros dro.

Oni bai bod cadarnhad penodol fel rhan o ddigwyddiad, nid yw'r farchnad awyr agored yn caniatáu gwerthu alcohol i'w yfed ar y safle.

Sylwer y gallai cais i werthu alcohol arwain at gostau ychwanegol

Rhaid i fusnesau bwyd fod wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor lle maent yn byw.

Rhaid arddangos sgoriau Hylendid Bwyd drwy'r amser. 

Dylai masnachwyr roi eu sgôr wrth wneud cais, dim ond ceisiadau gan fusnesau bwyd sydd â sgôr hylendid o 3 ac uwch yr ydym yn eu derbyn. 

Os ydych yn fusnes bwyd newydd byddwn yn derbyn cais wrth i chi wneud cais am eich sgôr hylendid.

Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, gallwch gofrestru gyda ni ar-lein.

Na, rhaid i'r masnachwr ddarparu ei gyflenwad trydan a nwy ei hun.

Rhaid i'r holl offer trydanol fod â marc CE, rhaid bod profion teclynnau cludadwy (PAT) wedi'u cynnal arnynt a rhaid bod ganddynt dystysgrif  gyfredol gan gontractwr cofrestredig NICEIC. Dylai'r offer hefyd gael prawf PAT.

Rhaid i bob offer nwy ddangos y marc CE a rhaid iddo feddu ar Dystysgrif Diogelwch Nwy gyfredol.

 

Bydd y Cyngor yn monitro y tywydd lleol a rhagolygon ar gyfer rhybuddion tywydd garw. Bydd y penderfyniad i weithredu, canslo neu gau'r farchnad yn cael ei wneud pan ystyrir bod y tywydd a ragwelir neu'r tywydd gwirioneddol yn peri risg. Mae’r risg yn yr achos hwn yn ymwneud â niwed i’r cyhoedd, masnachwyr, staff y Cyngor neu achosi difrod i offer neu eiddo cyfagos. 

Gwyntoedd Cryfion

Fel y soniwyd uchod , mae angen i gasebos fod o adeiladwaith cadarn i wrthsefyll amodau gwyntog ac yn gyffredinol ni ellir defnyddio gasebos domestig mewn gwyntoedd o 27 mya neu fwy. 

Bydd y rhan fwyaf o gasebos proffesiynol yn goddef hyrddiau cyflymder gwynt o hyd at 40mya ac mae'n ofynnol i fasnachwyr wirio cyngor y gwneuthurwr i sicrhau cydymffurfiaeth.

Yn gyffredinol, gall stondinau marchnad traddodiadol wedi'u hadeiladu o fframiau dur ar ffurf sgwariau oddef cyflymder gwynt uwch ond mae angen eu dal i lawr gan bwysau o hyd - gweler y wybodaeth isod.. Disgwylir i'r holl fasnachwyr ddilyn cyngor y gwneuthurwr ac efallai y gofynnir iddynt ddarparu gwybodaeth sy'n cadarnhau perfformiad y stondinau a ddefnyddiwyd. 

Mae cyflymder y gwynt yn cael ei fonitro gan y Cyngor cyn diwrnod y farchnad. 

Mae'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i'r amodau tywydd amrywiol fel a ganlyn; 

Ar gyfer hyrddiadau gwynt rhwng 26-40 mya - Dim ond Gasebos neu Strwythurau Gradd Proffesiynol a ganiateir

  • Codi/datgymalu i ddigwydd o dan system gweithio diogel gweithredu arferol(o leiaf ddau berson i bob stondin) 
  • Rhaid defnyddio pwysau digonol, neu debyg, i sicrhau gasebos/strwythurau
  • Dylid gosod pwysau ar goesau’r stondin lle rhagwelir hyrddiau gwynt o 26 - 40mya 
  • Yn syth ar ôl i'r coesau gasebo gael eu hagor a'u hymestyn, dylid codi'r coesau 
  • Wrth ddatgymalu, dylai pwysau aros yn eu lle tra bod y coesau'n cael eu gostwng 
  • Mae canopïau yn cael eu gadael heb eu clymu wrth godi/datgymalu 

Ar gyfer hyrddiau gwynt mwy na 40 mya

  • Strwythurau marchnad proffesiynol a ganiateir yn unig 
  • Caniateir Cerbydau/Trelars Arlwyo os ystyrir eu bod yn ddiogel mewn gwyntoedd cryfion 

Bydd asesiad deinamig yn cael ei wneud ar fore diwrnod y farchnad. Os yw hyrddiau cyflymder gwynt yn cael eu hystyried yn ormodol ar gyfer y math o gasebo neu strwythur a ddefnyddir gall y masnachwr roi'r gorau i fasnachu neu rhag cael mynediad i gyntedd y farchnad. Yn yr un modd, os ystyrir bod strwythur y stondin yn beryglus, neu os nad oes darpariaeth ar gyfer y pwysau priodol yna efallai na chaniateir i fasnachwyr fynychu'r farchnad.

Os bydd cyflymder gwynt yn cynyddu yn ystod y dydd gall y Cyngor gau'r farchnad yn gynnar. 

Eira

  • Os bydd eira trwm, storm eira neu luwchfeydd  yn ystod amser agor y farchnad, bydd gan y Cyngor yr hawl i ganslo neu gau’r farchnad yn gynnar. 
  • Bydd hyn yn digwydd pan ystyrir ei bod yn ddiogel gwneud hynny yn dilyn asesiad risg deinamig

Glaw Trwm

  • Os bydd glaw trwm a bod tebygolrwydd o lifogydd yn ystod amser agor y farchnad, bydd gan reolwr y farchnad yr hawl i ganslo neu gau’r farchnad yn gynnar
  • Bydd hyn yn digwydd pan ystyrir ei bod yn ddiogel gwneud hynny yn dilyn asesiad risg deinamig

Niwyl Dwys

  • Os bydd gwelededd yn cael ei leihau i lai na 50 metr yn ystod amser agor y farchnad (oherwydd niwl trwchus), bydd gan reolwr y farchnad yr hawl i ganslo neu gau'r farchnad yn gynnar 
  • Bydd hyn yn digwydd pan ystyrir ei bod yn ddiogel gwneud hynny yn dilyn asesiad risg deinamig

Gwres Eithafol

  • Dylai manwerthwyr sicrhau bod ganddyn nhw gyfleusterau storio bwyd sy’n addas i’w defnyddio mewn gwres eithafol a’u bod nhw’n gallu cydymffurfio â safonau Iechyd yr Amgylchedd

Pwysig 

Rhaid i’r holl fasnachu fod yn unol â thelerau ac amodau’r Cyngor ar gyfer masnachu yn y farchnad ac i’r gofynion a nodir yn y cam cofrestru. 

Yn achos tywydd garw, mae'r masnachwr yn gyfrifol am ei ddiogelwch ei hun ac am ddiogelwch eraill yn y farchnad. Yn achos tywydd garw, dylai masnachwyr wirio a yw’r farchnad ar agor cyn mynychu, bod eu hyswiriant busnes yn darparu yswiriant digonol ar gyfer yr amodau a bod yr holl offer yn cael ei ddefnyddio yn unol â chyngor y gwneuthurwr.

Os bydd y farchnad yn cau o ganlyniad i dywydd garw, ni fydd unrhyw iawndal yn cael ei dalu i fasnachwyr am y golled economaidd.

Ar achlysuron pan fo Cyngor Sir Caerfyrddin yn penderfynu cau’r farchnad yn gynnar oherwydd tywydd garw, ni chodir unrhyw ffioedd marchnad os gwneir y penderfyniad i gau cyn 10AM.

Mae marchnad Nwyddau Awyr Agored Caerfyrddin yn farchnad sy’n agored i bob math o fasnachwyr annibynnol sy’n gwerthu amrywiaeth o fwyd ffres, anrhegion, nwyddau a gwasanaethau. 

Mae marchnad Awyr Agored Caerfyrddin yn Rhodfa'r Farchnad, Heol Goch a Heol y Capel, canol tref Caerfyrddin. 

Cynhelir marchnad Awyr Agored Caerfyrddin bob dydd Mercher a dydd Sadwrn rhwng 8.30am a 5pm, a chynhelir marchnad cynhyrchwyr lleol ychwanegol bob dydd Gwener. Gweler Masnachu ym Marchnad Cynhyrchwyr Lleol Caerfyrddin.

Rhaid i fasnachwyr achlysurol fod yn bresennol yn y farchnad rhwng 7:15am a 8:00am a byddant yn cael stondin os bydd ar gael. 

Llwytho a dadlwytho

Gall masnachwyr gael mynediad i safle'r farchnad yn eu cerbydau o 6am i'w dadlwytho. Rhaid symud pob cerbyd o ardal y farchnad erbyn 8.30am. 

Gall masnachwyr ddychwelyd i'r safle i lwytho eu cerbydau am 5pm ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn. Dylai safle'r farchnad fod yn gwbl wag erbyn 6.30pm.

  • Rhoddir blaenoriaeth i'r cyhoedd.
  • Rhaid gyrru ar gyflymder uchaf o 5mya.
  • Defnyddio eich goleuadau rhybudd.
  • Bacio’n ôl gyda Bancsmon

Mae marchnad Nwyddau Awyr Agored Llanelli yn farchnad sy'n agored i bob math o fasnachwyr annibynnol sy'n gwerthu amrywiaeth o fwyd ffres, anrhegion, nwyddau a gwasanaethau.

Mae marchnad nwyddau Awyr Agored Llanelli yn Stryd Vaughan, Stryd Stepney canol tref Llanelli 

Cynhelir Marchnad Nwyddau Awyr Agored Llanelli bob dydd Iau a dydd Sadwrn rhwng 8.00am a 5pm

Rhaid i fasnachwyr achlysurol fod yn bresennol yn y farchnad rhwng 6:00am a 7:30am a byddant yn cael stondin os bydd ar gael. 

Llwytho a dadlwytho

Gall masnachwyr gael mynediad i safle'r farchnad yn eu cerbydau o 6am i'w dadlwytho. Rhaid symud pob cerbyd o ardal y farchnad erbyn 8.00am. 

Gall masnachwyr ddychwelyd i'r safle i lwytho eu cerbydau am 5pm ar ddydd Iau a dydd Sadwrn. Dylai safle'r farchnad fod yn gwbl wag erbyn 6.30pm.

  • Rhoddir blaenoriaeth i'r cyhoedd.
  • Rhaid gyrru ar gyflymder uchaf o 5mya.
  • Defnyddio eich goleuadau rhybudd.
  • Bacio’n ôl gyda Bancsmon

Mae marchnad Nwyddau Awyr Agored Rhydaman yn farchnad sy’n agored i bob math o fasnachwyr annibynnol sy’n gwerthu amrywiaeth o fwyd ffres, anrhegion, nwyddau a gwasanaethau.

Mae marchnad Nwyddau Awyr Agored Rhydaman yn Stryd y Cei, Rhydaman.

Cynhelir marchnad Nwyddau Awyr Agored Rhydaman bob dydd Gwener rhwng 8.00am a 5pm.

Rhaid i fasnachwyr achlysurol fod yn bresennol yn y farchnad rhwng 6:00am a 7:30am a byddant yn cael stondin os bydd ar gael.

 

Mae marchnad Nwyddau Awyr Agored Llandeilo yn farchnad sy’n agored i bob math o fasnachwyr annibynnol sy’n gwerthu amrywiaeth o fwyd ffres, anrhegion, nwyddau a gwasanaethau.

Mae marchnad Nwyddau Awyr Agored Llandeilo yn cael ei chynnal ym maes parcio cyhoeddus y tu ôl i Heol Rhosmaen, ger Llyfrgell Llandeilo.

Mae marchnad Nwyddau Awyr Agored Llandeilo yn cael ei chynnal bob dydd Gwener rhwng 8.00am a 5pm.

 

Mae marchnad Cynhyrchwyr Lleol Caerfyrddin yn farchnad ar gyfer cynhyrchwyr, tyfwyr a chrefftwyr lleol. Mae'r holl gynnyrch i fod yn eiddo i'r stondinwyr naill ai wedi'i dyfu neu wedi'i wneud ganddynt eu hunain. 

Mae marchnad Cynhyrchwyr Lleol Caerfyrddin yn Rhodfa'r Farchnad, Heol Goch a Heol y Capel, Caerfyrddin. 

Cynhelir marchnad Cynhyrchwyr Lleol Caerfyrddin bob dydd Gwener yng Nghanol Tref Caerfyrddin rhwng 8.30am a 3pm. 

Rhaid i fasnachwyr achlysurol fod yn bresennol yn y farchnad rhwng 7:15am a 8:00am a byddant yn cael stondin os bydd ar gael.

Llwytho a dadlwytho

Gall masnachwyr gael mynediad i safle'r farchnad yn eu cerbydau o 6am i'w dadlwytho. Rhaid symud pob cerbyd o ardal y farchnad erbyn 8.30am. 

Gall masnachwyr ddychwelyd i'r safle i lwytho eu cerbydau am 3pm ar ddydd Gwener. Dylai safle'r farchnad fod yn gwbl wag erbyn 5pm. 

  • Rhoddir blaenoriaeth i'r cyhoedd.
  • Rhaid gyrru ar gyflymder uchaf o 5mya.
  • Defnyddio eich goleuadau rhybudd.
  • Bacio’n ôl gyda Bancsmon

Os bydd lle, cynigir stondinau gwag ym Marchnad Caerfyrddin i fasnachwyr ar sail ‘gwib’ o dan ‘drwydded achlysurol’ wythnosol o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 9:30am a 4:30pm. (Gall masnachwyr hefyd fynychu dydd Llun heb unrhyw gost ychwanegol trwy drefniant ymlaen llaw) 

Gellir gosod yr holl eitemau yn y stondin o 8:00am ddydd Mawrth (neu ddydd Llun, trwy drefniant ymlaen llaw) a dylid eu symud cyn 5:00pm ar ddydd Sadwrn, a bydd mynediad i'r stondin yn cael ei ddarparu gan staff y farchnad.

Bydd argaeledd stondinau yn cael ei gadarnhau yn wythnosol yn unig.  

Y gost am stondin dros dro ym marchnad Caerfyrddin yw £30 yr wythnos fesul uned marchnad sengl. Mae rhai stondinau gwib yn fwy nag un uned a fydd yn arwain at gost uwch.

Rhaid i bob masnachwr sy’n dymuno mynychu’r farchnad dan do ar stondin achlysurol ‘Gwib’ a weithredir gan Gyngor Sir Caerfyrddin gofrestru i fynychu’r farchnad. 

Gall rheolwr y farchnad wrthod unrhyw gais i fynychu’r farchnad dan do ar sail ‘stondin gwib’ achlysurol lle nad yw’r busnes arfaethedig yn cefnogi’r bywiogrwydd, neu yr ystyrir ei fod yn anaddas ar gyfer y farchnad dan do.

Yn amodol ar argaeledd, cynigir stondin sionc ym Marchnad Dan Do Llanelli o dan 'drwydded achlysurol' ddyddiol.

Gellir defnyddio stondin sionc o 7.30am ond mae rhaid gadael cyn 5.00pm.

Bydd y stondin sionc yn cael ei chadarnhau yn ddyddiol yn unig.

Y gost am stondin sionc ym Marchnad Dan Do Llanelli yw £10 y dydd am bob 3 metr sgwâr. Os yw'r stondin sionc sydd ei hangen yn fwy na 3 metr sgwâr, efallai y bydd cost uwch yn cael ei gadarnhau gan Reolwr y Farchnad.

Rhaid i bob masnachwr sy'n dymuno dod i'r farchnad dan do ar sail 'stondin sionc' achlysurol gofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i ddod i'r farchnad.

Gall rheolwr y farchnad wrthod unrhyw gais i fynychu’r farchnad dan do ar sail ‘stondin sionc’ achlysurol lle nad yw’r busnes arfaethedig yn cefnogi’r bywiogrwydd, neu yr ystyrir ei fod yn anaddas ar gyfer y farchnad dan do.

Cerddoriaeth

Mae gan farchnadoedd Sir Gaerfyrddin drwydded i chwarae cerddoriaeth yn neuadd y farchnad.

Mae'n amod masnachu ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin bod gan bob masnachwr hawl i weithio yn y DU. Mae gwybodaeth am yr hawl i weithio yn y DU ar gael ar wefan Gov.uk.

Na. Gall masnachwyr barcio mewn unrhyw faes parcio cyhoeddus gan dalu'r gyfradd ddyddiol.

Cyn mynd ymlaen, dylech sicrhau bod gennych y dogfennau a'r wybodaeth ganlynol wrth law.

  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ag isafswm gwerth o £5,000,000
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr o leiafswm gwerth o £5,000,000 (os yw’n berthnasol)

Prawf o gyfeiriad, er enghraifft bil cyfleustodau diweddar neu gyfriflen banc

 

  • Os hoffech werthu bwyd mae'n rhaid i chi gyflwyno pob un o'r uchod, a rhaid bod gennych hefyd:
  • isafswm sgôr hylendid bwyd o 3.
  • hyfforddiant hylendid bwyd i lefel o leiaf Dyfarniad Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo

 

Os ydych yn defnyddio cerbyd arlwyo, efallai y bydd gofyn i chi ddarparu gwaith papur sy'n cydymffurfio â diogelwch, er enghraifft gwiriadau nwy a thrydan.

  • Rhaid i offer nwy gario'r marc CE a rhaid bod â Thystysgrif Diogelwch Nwy gyfredol
  • Rhaid i'r holl offer trydanol fod â marc CE, rhaid bod profion teclynnau cludadwy (PAT) wedi'u cynnal arnynt a rhaid bod ganddynt dystysgrif gyfredol gan gontractwr cofrestredig NICEIC.

Bydd angen i chi hefyd ddarparu Asesiad Risg cyfredol ar gyfer eich stondin - Lawrlwytho templed asesiad risg.

 

Cofrestrwch i fynychu Marchnadoedd Awyr Agored Sir Gaerfyrddin

 

Bydd gwybodaeth a gymerir o bob cofrestriad yn cael ei chadw ar gofnod er mwyn cyfeirio ati yn y dyfodol.

Mae'r prif ystyriaethau wrth ddyrannu stondinau marchnad yn cael eu llywodraethu gan nifer o ffactorau ac mae'r Cyngor yn ymwybodol o'r canlynol wrth geisio creu a chynnal marchnadoedd llwyddiannus yn y Sir; 

  • Yr angen i gynnig dewis 
  • Annog cystadleuaeth iach i gynnal bywiogrwydd y farchnad 
  • Osgoi gorgyflenwad o rai defnyddiau
  • Addasrwydd y tenant, darparu tystlythyrau masnach ac ariannol boddhaol 
  • Addasrwydd y stondin o ran maint a defnydd arfaethedig 
  • Mae rhai defnyddiau wedi’u gwahardd gan gynnwys hapchwarae, betio, gwerthu drylliau a gwerthu paraffinalia sy’n gysylltiedig â chyffuriau/anterthau cyfreithlon 
  • Mae argaeledd stondinau a siopau ar gyfer paratoi bwyd yn gyfyngedig i ardaloedd penodol lle mae ffaniau echdynnu allanol yn bresennol 
  • Ansawdd cynnig yr ymgeisydd 

Er bod siopau a stondinau'n cael eu dyrannu'n bennaf i'r cynigydd uchaf, mae yna achosion pan ystyrir ceisiadau ar feini prawf eraill. Byddai hyn yn bennaf yn wir pan gyflwynir cynigion o werthoedd cyfartal neu debyg a bod rhesymau cyfiawnadwy dros ystyried ffactorau eraill megis y rhai y cyfeirir atynt uchod. 

I raddau helaeth mae galw'r farchnad yn dylanwadu'n sylweddol ar y cymysgedd o denantiaid ond mae yna achosion pan fydd ystyriaethau eraill yn rhan o'r broses ddyrannu a gwneud penderfyniadau. Nid oes gan y Cyngor bolisi i greu neu orfodi cymysgedd tenantiaid penodol neu bendant ond mae angen parchu’r egwyddorion o ran dewis, cystadleuaeth a dirlawnder. 

Mae bywiogrwydd y farchnad yn dibynnu ar yr ystod eang o gynnyrch a gwasanaethau sydd ar gael i'r siopwr fel bod y farchnad yn opsiwn realistig i siopa ar-lein ac archfarchnadoedd. Er mwyn helpu i gyflawni hyn gellir gosod terfyn ar nifer y stondinau a ganiateir ar gyfer categori manwerthu penodol, gellir codi’r terfyn os oes rhesymau dilys dros wneud hynny.

Cyn mynd ymlaen, dylech sicrhau bod gennych y dogfennau a'r wybodaeth ganlynol wrth law.

Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ag isafswm gwerth o £5,000,000

Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr o leiafswm gwerth o £5,000,000 (os yw’n berthnasol)

prawf o hawl i weithio yn y DU, er enghraifft pasbort Prydeinig, cerdyn biometrig a gyhoeddwyd gan Asiantaeth Ffiniau'r DU neu dystysgrif geni.

 

Os hoffech werthu bwyd mae'n rhaid i chi gyflwyno pob un o'r uchod, a rhaid bod gennych hefyd:

isafswm sgôr hylendid bwyd o 3.

hyfforddiant hylendid bwyd i lefel o leiaf Dyfarniad Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo

 

Os ydych yn defnyddio offer arlwyo, efallai y bydd gofyn i chi ddarparu gwaith papur sy'n cydymffurfio â diogelwch, er enghraifft gwiriadau nwy a thrydan.

Ni chaniateir offer nwy yn y stondin dros dro yn neuadd y farchnad

Rhaid i'r holl offer trydanol fod â marc CE, rhaid bod profion teclynnau cludadwy (PAT) wedi'u cynnal arnynt a rhaid bod ganddynt dystysgrif gyfredol gan gontractwr cofrestredig NICEIC.

Bydd angen i chi hefyd ddarparu Asesiad Risg cyfredol ar gyfer eich stondin - Lawrlwytho templed asesiad risg.

 

Gwneud cais i gael stondin dros dro ym marchnad dan do Caerfyrddin

 

Bydd gwybodaeth a gymerir o bob cofrestriad yn cael ei chadw ar gofnod er mwyn cyfeirio ati yn y dyfodol.

 

Gallwch gofrestru i fynychu'r farchnad dan do ar sail 'stondin sionc' achlysurol ar-lein.

Cyn parhau, dylech sicrhau bod gennych y dogfennau a'r wybodaeth ganlynol wrth law.

  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ag isafswm gwerth o £5,000,000
  • Yswiriant Atebolrwydd Cynnyrch gydag isafswm gwerth o £5,000,000
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr o leiafswm gwerth o £5,000,000 (os yw’n berthnasol)

Yn ystod y broses gofrestru, bydd gofyn i chi gadarnhau bod gennych hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma.

Os hoffech werthu bwyd, mae'n rhaid i chi hefyd gael:

  • Isafswm sgôr hylendid bwyd o 3 gan yr asiantaeth safonau bwyd.

Os ydych chi'n defnyddio unrhyw offer trydanol, bydd gofyn i chi ddarparu gwaith papur cydymffurfiaeth o ran diogelwch.

Bydd angen i chi hefyd ddarparu Asesiad Risg cyfredol ar gyfer eich stondin - Lawrlwytho templed asesiad risg.

Bydd gwybodaeth a gymerir o'r holl gofrestriadau yn cael ei chadw ar gofnod ar gyfer y dyfodol ac mae'n drosglwyddadwy i'r marchnadoedd achlysurol awyr agored.

Bydd gwybodaeth a gymerir o bob cofrestriad yn cael ei chadw ar gofnod er mwyn cyfeirio ati yn y dyfodol.

Llwythwch mwy