Beth am ymweld â'r farchnad dan do a'r farchnad awyr agored arbennig yn Llanelli?
Mae marchnad y dref yn enwog am ei gwasanaeth cwsmeriaid croesawgar a chyfeillgar a'r dewis helaeth. Mae'n lle diddorol iawn sy'n cynnig cyfuniad o nwyddau traddodiadol a newydd.
Mae'r lle yn llawn diwylliant Cymreig, pentyrrau lliwgar o lysiau a ffrwythau ffres, stondinau diddorol, defnyddiol a rhesymol eu pris. Gall siopwyr fanteisio ar y dewis a'r amrywiaeth enfawr o nwyddau sy'n cael eu cynnig yma.
Peidiwch ag oedi - dewch i weld beth sydd gan farchnad ryfeddol Llanelli i'w chynnig i chi heddiw.