Manteision bod yn ddwyieithog
Diweddarwyd y dudalen ar: 18/09/2026
Yn Sir Gaerfyrddin y nod yw i bob plentyn gael y cyfle i adael yr ysgol a bod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae mwy a mwy o gyflogwyr ledled y sir a Chymru gyfan yn awyddus i recriwtio staff sy'n gallu gweithio'n gyfforddus yn y ddwy iaith.
Mae dwyieithrwydd yn cryfhau’r galluoedd gwybyddol – mae pobl ddwyieithog yn tueddu bod yn fwy creadigol a hyblyg. Maent yn tueddu i fod â meddwl mwy agored, ac maent hefyd yn ei chael yn haws canolbwyntio ar amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
Mae ymchwil yn dangos y gall dysgu a defnyddio dwy iaith ddod â llawer o fanteision, gan gynnwys:
- Sgiliau cyfathrebu a llythrennedd cryf yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Mwy o hyder a hyblygrwydd gwybyddol
- Gwell sgiliau datrys problemau a meddwl yn greadigol
- Mynediad at ystod ehangach o gyfleoedd addysgol, diwylliannol a chymdeithasol
- Mwy o gyfleoedd gyrfa yng Nghymru a thu hwnt
Yn bwysig, nid yw dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn effeithio ar allu plentyn i ddysgu Saesneg. Mae disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dod yn siaradwyr Saesneg rhugl tra'n ennill y fantais ychwanegol o siarad Cymraeg.
Agor Drysau i'r Dyfodol
Mae sgiliau Cymraeg yn cael eu gwerthfawrogi fwyfwy gan gyflogwyr ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys addysg, gofal iechyd, llywodraeth leol, busnes a'r diwydiannau creadigol. Trwy ddewis addysg cyfrwng Cymraeg, rydych yn rhoi sgil ychwanegol i'ch plentyn a all fod o fudd iddo drwy gydol ei fywyd a'i yrfa.
Iaith am Oes
Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn ymwneud â mwy na dysgu iaith. Mae'n rhoi'r cyfle i blant ddod yn rhan o dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru wrth eu paratoi ar gyfer byd amlieithog.
Drwy ddewis addysg cyfrwng Cymraeg, rydych yn rhoi'r cyfle i'ch plentyn fyw, dysgu a ffynnu yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan agor drysau heddiw ac yn y dyfodol.
Ac mae gallu siarad dwy iaith yn helpu mewn ffyrdd eraill hefyd...
Addysg
- Mae plant dwyieithog yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus mewn addysg. Maent yn tueddu i gyflawni’n well mewn tasgau
- Mae pobl ddwyieithog yn ei gweld yn haws i ddysgu ieithoedd ychwanegol
- Mae plant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn gwneud gystal, os nad gwell, yn Saesneg â phlant sy’n cael addysg Saesneg
Tystiolaeth: Adroddiad Estyn - Saesneg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 (.pdf) | Erthygl 'The Times' 11.4.17
Gyrfa
- Mae siarad dwy iaith yn rhoi sgil arall i’w roi ar eich ffurflen gais
- Ar gyfartaledd, mae pobl ddwyieithog yn ennill 11% o gyflog ychwanegol
- Mae angen gweithluoedd dwyieithog ar gyflogwyr yng Nghymru, gan fod angen darparu gwasanaethau’n ddwyieithog
Tystiolaeth: Welsh speakers 'more likely to get top qualifications and jobs'
Iechyd
- Mae ymchwil yn dangos bod dwyieithrwydd yn gohirio dechreuad Dementia a symptomau eraill clefyd Alzheimer
Tystiolaeth: Delaying the onset of Alzheimer disease | 'Bilingual people twice as likely to recover from a stroke'
Bywyd
- Mae siarad dwy iaith yn ehangu eich gorwelion
- Mae medru’r iaith Gymraeg yn rhoi mynediad i agweddau helaeth ar ddiwylliant, hanes a hunaniaeth Cymru
- Mae medru’r Gymraeg yn allwedd i fywyd cymunedol cyfoethog
- Mae medru’r Gymraeg yn rhoi hunaniaeth gadarn ac ymdeimlad o berthyn
- Mae medru newid o un iaith i’r llall yn hyderus yn magu hyder a balchder yn yr unigolyn
- Gall pobl aml-ieithog fod yn fwy goddefgar tuag at ddiwylliannau eraill
Tystiolaeth: Adroddiad ar fanteision dwyieithrwydd 'The Advantages of Bilingualism in Welsh and English' gan Yr Athro Colin Baker
