Nam ar y golwg
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Yng Nghymru mae gan tua 0.2% o boblogaeth yr ysgol nam sylweddol ar eu golwg. Nam ar y golwg yw lle na ellir cywiro golwg yn llawn drwy wisgo sbectol/lensys.
Fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu y gall fod gan gynifer â 10% o ddysgwyr wall plygiannol heb ei ddatgelu - sy'n golygu bod amhariad ar eu gallu i ddysgu a chymryd rhan weithredol mewn gwersi oherwydd nad ydynt yn gweld optometrydd ac yn gwisgo sbectol. Felly, efallai y bydd dysgu hyd at 3 phlentyn ym mhob dosbarth yn cael ei effeithio gan olwg wannach heb ei datgelu.
Arwyddion o nam ar y golwg mewn plant:
- Colli sylw a chanolbwyntio.
- Meddwl yn crwydro’n aml.
- Llawysgrifen wael.
- Yn drwsgl.
- Diffyg cyswllt llygaid.
- Colli lle wrth ddarllen.
- Anawsterau wrth barchu gofod personol plant eraill.
- Yn blino'n gyflym.
- Angen mwy o amser nag eraill i gwblhau tasgau.
- Yn ei chael hi'n anodd darllen print mân.
- Yn ei chael hi'n anodd darllen o'r bwrdd gwyn.
- Cwyno'n aml am ben tost.
- Yn rhwbio'u llygaid yn aml.
- Yn ei chael hi'n anodd copïo.
- Dibynnu'n fawr ar gefnogaeth cymheiriaid i gwblhau tasgau / mynd o gwmpas.
- Yn ei chael hi'n anodd dehongli lluniadau / lluniau os nad yw'r gwrthgyferbyniad yn dda.
Sut bydd yr ysgol yn helpu?
Gall athrawon helpu plant sydd â cholled golwg mewn ystafelloedd dosbarth drwy:
- Sicrhau mannau dysgu ysgogol a deunyddiau cwricwlwm hawdd eu defnyddio
- Cynnal asesiadau risg mewn perthynas â mannau dysgu er mwyn sicrhau diogelwch dysgwyr â nam ar eu golwg
- Sicrhau bod print clir ar ddeunydd darllen (Arial, maint ffont 14) a'i fod ar bapur A4, a hynny fan lleiaf (bydd angen print mwy ar rai plant)
- Gwahaniaethu – gan gynnwys offer a thechnegau dysgu amgen
- Goleuadau/bleinds priodol i ddiwallu anghenion plant unigol
- Sicrhau amgylchedd dirwystr, lle mae offer yn cael ei storio mewn mannau hawdd eu cyrraedd
- Newid ac addasu deunyddiau addysgol
- Meddwl am leoedd eistedd
- Cael hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch anghenion dysgwyr unigol.
Dylai plant, pobl ifanc, rhieni neu ofalwyr siarad â'r ysgol i ddechrau os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am olwg y dysgwr.
Mae gan yr Awdurdod Lleol Athrawon Cymwysedig Plant â Nam ar y Golwg a gwasanaeth Arbenigol Symudedd / Sefydlu sydd ar gael i asesu a chefnogi anghenion eich plentyn yn ôl y gofyn. Gweler y Ddarpariaeth Arbenigol.
Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.
Rheolwr y Gwasanaeth Namau Synhwyraidd: Catherine Williams, e-bost: CWilliams@sirgar.gov.uk 01267 246406
Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi