Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A – Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Pryd i wneud cais
- Ar ba oed y gall plant ddechrau ysgol gynradd?
- Derbyn i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol a Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Lleoedd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/newid ysgol y tu allan i’r trefniadau derbyn arferol (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Hysbysiad am gynnig o le mewn ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cynradd neu uwchradd cymunedol / gwirfoddol a reolir
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B – Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Profiadau Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Arholiadau Cyhoeddus
- Gwahardd disgyblion
- Gweithgareddau Ysgolion
- Dyddiad Gadael Ysgol
- Cyrff Llywodraethu Ysgolion
- ADRAN C – Gwasanaethau i Ddisgyblion
- Cyngor Sir Caerfyrddin – Polisi Cludiant Ysgol
- Prydau Ysgol a Grant Hanfodion Ysgol
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)
- Y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion
- Cronfeydd Ymddiriedolaeth
- Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
- Y Cynnig Gofal Plant
- Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles
- Datblygu Cynaliadwy ac Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Adran D – Crynodeb o Ysgolion a Disgyblion
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol, Gwirfoddol Cymorthedig a Gwirfoddol Rheoledig
- Ysgolion Uwchardd a Ysgolion Uwchardd Gymorthedig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
ADRAN C – Gwasanaethau i Ddisgyblion
Diwallu Anghenion Addysgol Ychwanegol
Mae system newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer diwallu anghenion plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi cael ei gweithredu ers Medi 2021.
Mae hyn yn golygu system fwy hyblyg ac ymatebol o ran diwallu anghenion, mewn system addysg gynhwysol ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.
- Mae anghenion yn cael eu nodi'n gynnar, eu diwallu'n gyflym ac mae pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyrraedd ei botensial.
- Mae gweithwyr proffesiynol yn fedrus ac yn hyderus o ran nodi anghenion a datblygu strategaethau i helpu dysgwyr i oresgyn eu rhwystrau i ddysgu.
- Mae dysgwyr yn derbyn dysgu wedi'i bersonoli ac maen nhw a’u rhieni/gofalwyr yn bartneriaid cyfartal yn eu dysgu (Dull sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn).
Bydd y Côd ADY gorfodol ar gyfer y system newydd yn cynnwys plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed. Mae hyn yn golygu y bydd gan y blynyddoedd cynnar a cholegau addysg bellach ddyletswyddau o dan y Ddeddf, ond nid yw hyn yn cynnwys addysg uwch na phrentisiaethau.
Bydd pob plentyn a pherson ifanc sydd ag Angen Dysgu Ychwanegol (ADY) a nodwyd sy'n gofyn am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol yn cael Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Bydd y Cynllun Datblygu Unigol yn disodli'r holl gynlluniau unigol eraill. Bydd Cynlluniau Datblygu Unigol ar gyfer plant o dan oedran ysgol gorfodol sydd eu hangen h.y. yn y blynyddoedd cynnar, yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol.
Bydd pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i sicrhau y darperir Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol yn Gymraeg, os bydd angen.
1 - Nodi Anghenion
Mae gan rai plant anawsterau dysgu a/neu anabledd sy’n golygu bod angen darpariaeth ar eu cyfer fel y gallant ddysgu’n effeithiol.
Caiff hyd at 20% o blant a phobl ifanc ryw fath o anawsterau dysgu. Gall ysgolion gefnogi'r rhan fwyaf o anghenion y dysgwyr hyn a chytunir ar y ddarpariaeth gan gadw at fodel 'Proses Gwneud Penderfyniadau'. Mae'r model hwn yn sicrhau bod plant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr yn cael eu cynnwys ym mhob cam o'r gwaith o gynllunio ac adolygu'r ddarpariaeth sydd ei hangen i gefnogi anghenion y dysgwyr.
Mae gan tua 1% o blant a phobl ifanc anghenion cymhleth a pharhaus sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Lleol ddarparu darpariaeth ychwanegol sy'n ategu'r ddarpariaeth ddysgu gyffredinol ac ychwanegol y mae'r ysgol yn ei darparu.
Mae llawer o'r plant sydd ag anghenion cymhleth a pharhaus yn cael eu nodi'n gynnar drwy weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'i gilydd ar y cyd â'r rhieni. Mae hyn yn golygu bod modd llunio cynlluniau i ddarparu ymateb cynnar i ddiwallu anghenion o'r fath ac i ddarparu cymorth.
2 - Asesu
Mae gweithwyr proffesiynol yn monitro cynnydd yr holl blant a phobl ifanc a thrafodir unrhyw bryderon gyda'r rhieni mewn cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn y rhan fwyaf o achosion, eir i'r afael â'r pryderon hyn drwy gynnig Darpariaeth Ddysgu Gyffredinol yr ysgol, sydd ar gael i bob dysgwr.
Bydd Darpariaeth Ddysgu Gyffredinol yr ysgol yn cynnwys:
- addysgu a dysgu da;
- strategaethau addysgu i gefnogi anghenion dysgwyr sy'n dod i'r amlwg neu anghenion a nodwyd;
Lle nad yw plant a phobl ifanc yn gwneud cynnydd mesuradwy, er gwaethaf Darpariaeth Ddysgu Gyffredinol yr ysgol, efallai y bydd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol ar y dysgwyr i gefnogi eu hanghenion. Gall y Cydlynydd ADY geisio cynnwys gweithwyr proffesiynol eraill fel athrawon ymgynghorol, athrawon cefnogi ymddygiad, gwasanaethau iechyd a seicolegwyr addysg a phlant i helpu i nodi'r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol.
Mae'r gweithwyr proffesiynol hyn yn rhoi cyngor, arweiniad a chymorth i'r disgybl, y rhieni, yr athrawon a'r Cydlynydd ADY. Gall pryderon o'r fath arwain at nodi dysgwr fel un sydd â Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol a pharatoi Cynllun Datblygu Unigol. Os nad yw'r ysgol yn gallu adnabod yr ADY, nodi'r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol sydd ei angen neu'n rhesymol sicrhau'r ddarpariaeth yna gall gyfeirio at yr Awdurdod Lleol i'w hystyried.
Mewn ymateb i gais o'r fath, mae'r Awdurdod Lleol yn ceisio gwybodaeth gan:
- Y rhieni
- Y plentyn
- Yr ysgol
- Athrawon dosbarth
- Cydlynydd ADY
- Staff cymorth
Gall yr Awdurdod Lleol ofyn am wybodaeth ychwanegol neu gymorth arall gan bobl berthnasol i gyflawni eu swyddogaethau.
Gall y bobl berthnasol gynnwys:
- Y Seicolegydd Addysg a Phlant
- Y Ffisiotherapydd
- Pobl Broffesiynol ym Maes Iechyd e.e. Pediatregydd
- Y Therapydd Iaith a Lleferydd
- Y Therapydd Galwedigaethol
- Gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol
- Unrhyw asiantaeth arall y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ymwneud â hi
Mae'r Panel ADY yn ystyried anghenion y dysgwr a'r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol sydd ei hangen. Yn dibynnu ar y penderfyniad, gall yr awdurdod lleol wneud un o'r canlynol:
- Rhoi cyfarwyddyd i’r ysgol baratoi a chynnal y Cynllun Datblygu Unigol, neu;
- Paratoi'r Cynllun Datblygu Unigol a rhoi cyfarwyddyd i'r ysgol ei gynnal neu;
- Paratoi a chynnal y Cynllun Datblygu Unigol
Mae'r Cynllun Datblygu Unigol yn ddogfen gyfreithiol sy'n nodi ac yn mesur y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i'w darparu. Pan fo Cynllun Datblygu Unigol yn enwi ysgol benodol, mae'n rhaid derbyn y disgybl i’r ysgol a enwir yn y Cynllun Datblygu Unigol.
Dim ond yr Awdurdod Lleol sy'n gallu enwi ysgol benodol ar y Cynllun Datblygu Unigol.
3 - Darpariaeth
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn disodli Deddf Anabledd a Gwahaniaethu 1995. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn cysoni cyfraith gwahaniaethu ac yn darparu fframwaith deddfwriaethol wedi’i ddiweddaru, sy’n symlach ac yn gryfach i warchod hawliau unigolion ac i hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb. Mae gan ysgolion ac awdurdodau lleol ddyletswydd i ddarparu addasiadau rhesymol ar gyfer disgyblion anabl ers 2002, yn wreiddiol o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac, o fis Hydref 2010, o dan y Ddeddf. Mae'r Awdurdod Lleol wedi datblygu Strategaeth Gynhwysiant i sicrhau, lle bynnag y bo'n bosibl, y gellir diwallu anghenion plant a phobl ifanc ag ADY mewn lleoliad prif ffrwd. Mae manylion y dull hwn wedi'u nodi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
Bydd anghenion y rhan fwyaf o blant sydd â Chynlluniau Datblygu Unigol yn cael eu diwallu mewn ysgolion prif ffrwd.
Mae'r rhan fwyaf yn cael cymorth ychwanegol yn eu hystafell ddosbarth prif ffrwd. Mae rhai plant sydd ag anawsterau ychwanegol cymhleth yn cael cymorth ychwanegol oddi wrth staff mewn unedau arbenigol a chanolfannau adnoddau sy'n gysylltiedig ag ysgolion prif ffrwd.
4 - Gweithio mewn Partneriaeth
Mae Addysg a Gwasanaethau Plant yn dilyn dull partneriaeth o weithio gyda rhieni disgyblion sydd ag ADY. Gall rhieni gyfrannu i'r bartneriaeth hon drwy:
- Siarad â Phennaeth a Chydlynydd ADY eu hysgol leol, cymryd rhan yn yr asesiad o anghenion, cynllunio ymyriadau a thrafodaethau gyda'r gweithwyr proffesiynol.
- Cysylltu â'r Awdurdod Lleol a thrafod gydag un o'n Swyddogion Cyswllt Teuluol.
- Cysylltu â’r Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni a ddarperir gan SNAP Cymru ar 01554 777566 neu drwy e-bostio carm@snapcymru.org
Mae Sir Gaerfyrddin wedi integreiddio'i gwasanaethau Cynhwysiant (Addysg) ac Anabledd (Gofal Cymdeithasol) er mwyn cynnig gwasanaethau gwell i blant a'u teuluoedd.
Mae cyfleoedd rheolaidd i rieni gael gwybodaeth, newyddlenni a chyfarfodydd gyda Swyddogion Cynhwysiant i'w galluogi i drafod a chydweithio â'r Adran.
Pan fydd gan blant a phobl ifanc anghenion cymhleth, mae'n bosibl y byddant hwy a'u teuluoedd yn cael cymorth gan un o weithwyr allweddol y Tîm Anableddau Plant er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hasesu, a bod gwasanaethau yn cael eu nodi a'u hadolygu'n rheolaidd.
Mae hyn yn fodd i sicrhau cysondeb o ran diwallu anghenion cymhleth ym mhob sefydliad.
Sefydliadau Anghenion Addysgol Ychwanegol
Mae gan Sir Gaerfyrddin amrywiaeth o sefydliadau arbenigol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion addysgol ychwanegol a bydd Panel Cynhwysiant y Sir yn cymeradwyo lleoliadau yn y mannau hyn. I gael gwybodaeth ynghylch pob sefydliad, cysylltwch â'r Rheolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol (Rhif ffôn: 01267 246451) a fydd hefyd yn ymateb i ymholiadau ynghylch y lleoliadau.