Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Ar ba oed y gall plant ddechrau ysgol gynradd?

Y Blynyddoedd Cynnar - Darpariaeth i blant 3 oed

Beth yw'r Blynyddoedd Cynnar?

Mae addysg y Blynyddoedd Cynnar yn ddarpariaeth anstatudol sydd ar gael i blant 3 oed. Rhaid gwneud cais am le yn ysgolion Sir Gaerfyrddin h.y. ar gyfer categorïau (i) a (ii) isod erbyn y dyddiad cau - Gweler yr Amserlen ar gyfer Cyflwyno Cais.

Ble mae addysg ran-amser i'w chael?

Mae hawl gan bob plentyn 3 blwydd oed i gael lleoliad am ddim am 10 awr yr wythnos mewn sefydliad cofrestredig trwy’r Grŵp Hawliau Bore Oes o'r tymor yn dilyn ei drydydd pen-blwydd. Mae'r Awdurdod yn caniatáu i ddarparwyr nas cynhelir ddefnyddio adeiladau ysgolion lle bynnag y bo hynny'n ymarferol.

Mae sawl math o ddarpariaeth:

  1. Ysgol Feithrin – Ysgol Feithrin Rhydaman yw’r unig ysgol feithrin yn y Sir.
  2. Dosbarthiadau Meithrin/Blynyddoedd Cynnar mewn Ysgolion Cynradd (ysgolion 3-11 oed)
  3. Darpariaeth gan y sector nas cynhelir sy’n bartneriaid yn y Grŵp Hawliau Bore Oes, fel Blynyddoedd Cynnar Cymru, Mudiad Meithrin a darparwyr preifat. Gallwch ddod i wybod mwy o dan yr adran Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin yn y llyfryn hwn.

Pryd y gall disgybl ddechrau addysg ran-amser?

Fel rheol, derbynnir plant i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar mewn ysgolion lle mae'r ddarpariaeth honno ar gael yn rhan-amser ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd.

3ydd Pen-blwydd y Plentyn Tymor Derbyn
1 Medi tan 31 Rhagfyr Tymor y Gwanwyn
1 Ionawr tan 31 Mawrth Tymor yr Haf
1 Ebrill tan 31 Ebrill

Tymor yr Hydref

Nid oes gan rieni/gwarcheidwaid hawl i apelio os na chynigir lle i’w plentyn mewn lleoliad Blynyddoedd Cynnar o'u dewis.

Y DYDDIAD CAU I WNEUD CAIS AM LE RHAN-AMSER MEWN YSGOL FEITHRIN YW 31 GORFFENNAF 2026

Ni fydd gan blentyn y cynigir lle rhan-amser iddo/iddi mewn ysgol, hawl awtomatig i barhau i dderbyn addysg amser llawn. Rhaid cyflwyno cais ffurfiol i'r awdurdod derbyn cywir – gweler yr amserlen ar gyfer cyflwyno cais. s bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.

Addysg Amser Llawn - Plant 4 a 5 oed

Os nad oes darpariaeth y Blynyddoedd Cynnar mewn sefydliad a gynhelir, gall dysgwyr amser llawn gael eu derbyn i ysgolion cynradd yn ystod tymor yr ysgol yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed o ganlyniad i'r penderfyniad i ddileu'r polisi plant sy'n codi'n 4 oed.

Gweler yr Amserlen ar gyfer Cyflwyno Cais sy’n dangos dyddiadau dechrau a dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yn seiliedig ar ddyddiad geni.

4ydd Pen-blwydd y Plentyn Tymor Derbyn
1 Medi tan 31 Rhagyr Tymor y Gwanwyn
1 Ionawr tan 31 Mawrth Tymor yr Haf
1 Ebrill tan 31 Awst Tymor yr Hydref

Y DYDDIAD CAU I WNEUD CAIS AM LE AMSER LLAWN MEWN YSGOL GYNRADD YW 31 IONAWR 2026

Nid yw'r ysgol feithrin a'r darparwr blynyddoedd cynnar y mae'r disgybl yn eu mynychu yn fater sy'n cael ei ystyried wrth roi lleoedd. Mae ceisiadau'n seiliedig ar gyfeiriad cartref y disgybl.

 

Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.

Ni fydd unrhyw geisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau penodedig yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau wedi cael lle. Caiff y rhain eu hystyried fel Ceisiadau Hwyr fel y nodir yn y ddogfen hon.

Yn unol â Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gosodir terfyn o 30 o ddisgyblion fesul athro cymwysedig ar ddosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2, a elwir yn Ddeddfwriaeth ar Faint Dosbarthiadau Babanod.

Gofyniad cyfreithiol i ddechrau'r ysgol - y tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 5 oed

Yn unol â'r gyfraith mae'n rhaid i rieni drefnu bod eu plant yn derbyn addysg amser llawn ar ddechrau'r tymhorau canlynol:

5ydd Pen-blwydd y Plentyn

Y Tymor Derbyn
1 Medi tan 31 Rhagfyr Tymor y Gwanwyn
1 Ionawr tan 31 Mawrth Tymor yr Haf
1 Ebrill tan 31 Awst Tymor yr Hydref

Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau i wneud ceisiadau yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau sydd wedi dod i law cyn y dyddiad cau wedi cael lle.

Gall rhiant ohirio dyddiad derbyn plentyn i’r ysgol tan ddechrau’r tymor sy’n dilyn pumed pen-blwydd y plentyn cyhyd â bod y dyddiad hwnnw yn yr un flwyddyn ysgol â'r un maent wedi gwneud cais amdani.