Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn gosod dyletswydd arnom i adolygu ac i asesu ansawdd yr aer yn ein hardal o bryd i'w gilydd. Mae rhai llygryddion allweddol y dylid eu hystyried, ac fe'u nodir yn y ddeddfwriaeth. Mae gan bob un o'r llygryddion allweddol safon y mae’n rhaid ei bodloni. Pennwyd lefelau ar gyfer y safonau (amcanion) a seiliwyd ar wybodaeth wyddonol gyfredol, gyda'r bwriad o ddiogelu iechyd a'r amgylchedd. Mae'r Amcanion Ansawdd Aer i'w gweld yn Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010.
Rydym yn cyflwyno adroddiadau rheolaidd i Lywodraeth Cymru ynghylch ansawdd yr aer yn Sir Gaerfyrddin. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch adroddiadau ansawdd aer ar gael ar wefan DEFRA. Mae holl Awdurdodau Lleol Cymru yn diweddaru manylion eu lleoliadau monitro a chanlyniadau eu samplo ar wefan Fforwm Ansawdd Aer Cymru.
Rydym wedi nodi mai'r llygrydd allweddol mwyaf perthnasol i Sir Gaerfyrddin yw Nitrogen Deuocsid (NO2). Prif ffynhonnell allyriadau NO2 yn Sir Gaerfyrddin yw traffig ar y ffyrdd. Rydym wedi datblygu rhwydwaith monitro sy'n dilyn rhai o'n ffyrdd prysuraf a'r strydoedd lle ceir y nifer mwyaf o dagfeydd.
Mae'r Cyngor Sir hefyd yn parhau i sicrhau bod trigolion yn gallu mwynhau amgylchedd naturiol hardd y Sir gyda llwybrau cerdded a beicio yn cael eu diweddaru yn ogystal â phrosiectau newydd mawr fel Llwybr Dyffryn Tywi sef llwybr aml-ddefnydd llawn golygfeydd sy'n cysylltu Caerfyrddin a Llandeilo.
Gyda cymorth ariannol gan Cronfa Gymorth i Reoli Ansawdd Aer Lleol yn 2023 a 2024, mae tîm Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor wedi sefydlu monitro amser real sy'n darparu data ar Nitrogen Deuocsid a gronynnau yn y tri ardal rheoli ansawdd aer.
Fentrau Ysgol
Mae swyddogion wedi bod yn ymweld ysgolion yn Sir Gaerfyrddin i cefnogi disgyblion ysgolion i gyflwyno ystod o fentrau a phrosiectau sy'n tynnu sylw at fanteision iechyd a llesiant aer glân.
Mae'r cynlluniau wedi cynnwys mynediad i 2,500 o ddisgyblion ysgolion cynradd i'r traciwr teithio, ffordd hwyliog o roi bathodynnau am ddefnyddio dulliau di-fodur i gyrraedd yr ysgol. Mae hyn eisoes wedi arwain at 130,692 o deithiau’n cael eu cofnodi gan ddisgyblion y flwyddyn academaidd 2024/25 yn unig, monitro ansawdd aer amser real a phantomeim rhyngweithiol sydd wedi ymweld ag 20 ysgol i gyfathrebu sut y gallwn ni i gyd gyfrannu at aer glân ac amgylchedd iach.
Cysylltwch â ni
Cyfeiriad:
Iechyd yr Amgylchedd
Ty Parcyrhun
Ffordd Y Rhyd
Rhydaman
Sir Gaerfyrddin
SA18 3FB
E-bost:
Ffôn: