Dod yn Fasnachwr

Rydym yn ymfalchïo bod ein marchnadoedd wrth galon ein cymunedau ac mae gennym hanes cryf o gefnogi masnachwyr; o'u helpu i ddechrau yn ein marchnadoedd i gefnogi datblygiad a thwf busnes. Mae gennym hefyd amrywiaeth eang o stondinau ac unedau ar gael ar draws y sir.

Unedau sydd ar gael

Mae gennym ni amrywiaeth o unedau a siopau dan do o wahanol feintiau ar gael ym marchnadoedd dan do Caerfyrddin a Llanelli a gellir gweld unrhyw unedau sydd ar gael ar dudalennau eiddo'r Cyngor. Dewiswch I Osod i weld yr unedau sydd ar gael.

Os ydych newydd ddechrau masnachu neu os yw'n well gennych farchnad Awyr Agored, rhowch gynnig ar Farchnadoedd Sir Gaerfyrddin. Mae'n ffordd wych, gost-effeithiol o sefydlu syniad busnes mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol.

Mae yna farchnadoedd awyr agored yn:

  • Caerfyrddin
  • Llandeilo
  • Llanelli
  • Rhydaman

Mae’r gost i fynychu un o’r marchnadoedd awyr agored a weithredir gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn amrywio yn ôl maint y stondin. 

Os bydd ymholiad i fynychu'r farchnad awyr agored yn llwyddiannus a bod partïon â diddordeb wedi cofrestru a darparu'r holl wybodaeth berthnasol byddant yn derbyn cadarnhad eu bod wedi cael trwydded i fasnachu yn y farchnad awyr agored. Nid oes angen i fasnachwyr achlysurol gyflwyno ffurflen gofrestru bob tro y maent am fynychu'r farchnad oni bai bod y math o fusnes yn newid.

Dod yn Fasnachwr

P'un a ydych yn ceisio mynediad achlysurol i un o'n marchnadoedd awyr agored, neu os hoffech ddod yn fasnachwr marchnad rheolaidd yn un o'n marchnadoedd dan do, bydd y wybodaeth isod yn eich helpu i wneud cais i ddod yn fasnachwr marchnad. 

Rhaid i bob masnachwr sy'n dymuno mynychu marchnadoedd awyr agored a weithredir gan Gyngor Sir Caerfyrddin:

Darparu modd addas i fasnachu yn y farchnad. Bydd hwn naill ai'n gasebo neu'n gerbyd addas. Gweler Meddiannu Llain Marchnad – Marchnad Awyr Agored Yn agor mewn tab newydd.

Meddu ar yswiriant busnes priodol. Gweler Yswiriant Busnes ar gyfer Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin Yn agor mewn tab newydd.

Darparu asesiad risg priodol ar gyfer masnachu yn y farchnad. Meddu ar dystysgrifau cyfredol gan gontractwyr cofrestredig ar gyfer unrhyw offer trydanol neu nwy i'w defnyddio wrth fynychu'r farchnad. Gweler Gweithio'n Ddiogel ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin Yn agor mewn tab newydd.

Lle maent yn fusnes bwyd, wedi cofrestru gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn gallu darparu tystiolaeth o sgôr Diogelwch Bwyd o 3 neu uwch. Gweler Diogelwch Bwyd ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin Yn agor mewn tab newydd.

Mae masnachwyr a hoffai werthu alcohol yn destun cyfyngiadau. Gweler Gwerthu Alcohol ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin Yn agor mewn tab newydd.

Y gost ar hyn o bryd i rentu llain yn un o'r marchnadoedd awyr agored a ddarperir gan Gyngor Sir Caerfyrddin yw £10 am bob 3 metr sgwâr. Bydd y costau’n cynyddu yn ôl nifer y stondinau arhent sy’n cael eiu adolygu o bryd i’w gilydd.

Bydd costau gweithio o wagen arlwyo yn cael eu hasesu gan y Cyngor ac yn dibynnu ar faint y cerbyd. Mae holl daliadau’r farchnad yn daladwy ar ddiwrnod y digwyddiad neu mewn rhai achosion ymlaen llaw yn dibynnu ar natur y digwyddiad. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os bydd taliadau yn daladwy ymlaen llaw.

Bydd pob cais i fynychu'r farchnad awyr agored yn cael ei ystyried gan y Cyngor yn unol â'i bolisi dyrannu er mwyn annog amrywiaeth a chystadleuaeth deg ynghyd â cheisio osgoi gorgyflenwad pan fydd argaeledd stondinau wedi'i gyfyngu gan yr ardal sydd ar gael. Gweler Dyrannu Stondinau Marchnadoedd Awyr Agored (gan gynnwys digwyddiadau) Yn agor mewn tab newydd.

Gwneud cais i gael stondin mewn marchnad awyr agored Opens in a new tab

 

Mae'r Cyngor yn cynnal marchnadoedd dan do yn Llanelli a Chaerfyrddin ac mae gan bob marchnad siopau a stondinau o wahanol feintiau.

Mae’r marchnadoedd dan do yn cynnig cyfle i fasnachwyr annibynnol newydd a phresennol werthu amrywiaeth o nwyddau, cynnyrch a gwasanaethau. 

Gellir gweld yr holl stondinau/siopau gwag ym Marchnadoedd Dan Do Caerfyrddin neu Lanelli yn ein hadran Eiddo’r Cyngor a thrwy ddewis yr opsiwn ‘I’w Osod’. 

Dyrennir stondinau marchnad a siopau trwy broses dendro. Mae'r broses yn mynnu bod darpar fasnachwyr yn cyflwyno cynigion gan ddyfynnu lefel y rhent y maent yn dymuno ei gynnig. Yn amodol ar dderbyn y bid bydd y cynigydd wedyn yn cael Cytundeb Tenantiaeth ac yn gorfod talu rhent bob chwarter.  

Dylai masnachwyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais am stondin neu siop wag ofyn am ffurflen dendro gan swyddfa'r farchnad. Bydd y ffurflen yn crynhoi'r wybodaeth allweddol am yr eiddo ac yn cynnwys gwahoddiad i dendro neu nodi'r rhent chwarterol y mae'r cynigydd yn barod i'w dalu. Gall swyddfa'r farchnad helpu hefyd os oes unrhyw ymholiadau pellach ynghylch yr eiddo neu delerau deiliadaeth. 

Rhaid dychwelyd tendrau mewn amlenni swyddogol (a ddarperir) erbyn amser a dyddiad penodol. 

Byddai'r eiddo fel arfer yn cael ei ddyrannu i'r cynigydd uchaf, fodd bynnag efallai y bydd amgylchiadau pan nad yw hyn yn bosibl neu'n briodol. Nid oes rheidrwydd ar y Cyngor i dderbyn y tendr uchaf (nac unrhyw dendr). Ystyriaethau eraill sy'n berthnasol i'r dyraniad yw; 

  • yr angen am ddewis i ddenu amrywiaeth o gwsmeriaid 
  • yr angen am amrywiaeth i sicrhau bod y farchnad yn ddiddorol
  • osgoi dyblygu diangen a gor-gynrychiolaeth
  • a dal i annog cystadleuaeth deg rhwng masnachwyr i gynnal ansawdd

I derfynu Cytundeb Tenantiaeth rhaid i'r tenant roi tri mis o rybudd ysgrifenedig o'r bwriad i adael.  

Sylwer: Ym Marchnad Caerfyrddin mae yna hefyd faes marchnad achlysurol lle mae telerau penodol yn berthnasol. Gweler Masnachu ym Marchnad Dan Do Caerfyrddin (Stondin Gwib Achlysurol).

Materion eraill i'w hystyried ar gyfer Masnachu Dan Do  

Yswiriant Busnes - Rhaid i denantiaid gael yswiriant busnes priodol. Gweler Yswiriant Busnes ar gyfer Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin Yn agor mewn tab newydd.

Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus – Rhaid i bob Busnes gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus yn unol â gofynion yswiriant Cyngor Sir Caerfyrddin. 

Asesiad Risg – Rhaid i denantiaid ddarparu asesiad risg priodol ar gyfer masnachu yn y farchnad. Rhaid i bob tenant hefyd gael ei arferion diogel eu hunain o fewn yr Asesiad Risg. Gweler Gweithio'n Ddiogel ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin Yn agor mewn tab newydd.

Tystysgrifau – Rhaid i denantiaid feddu ar dystysgrifau dilys cyfredol ar gyfer unrhyw offer trydanol neu nwy i'w defnyddio wrth fynychu'r farchnad. Gweithio'n Ddiogel ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin Yn agor mewn tab newydd

Glendid Bwyd – Rhaid i gynhyrchwyr a gwerthwyr bwyd fod wedi'u cofrestru gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd a darparu tystiolaeth o sgôr Diogelwch Bwyd o 3 neu uwch y mae'n rhaid ei harddangos. Gweler Diogelwch Bwyd ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin Yn agor mewn tab newydd.

Alcohol - Mae masnachwyr sy'n gwerthu alcohol yn ddarostyngedig i gyfyngiadau. Gweler Gwerthu Alcohol ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin Yn agor mewn tab newydd.

Bydd disgwyl i bob masnachwr ddarparu naill ai gasebo neu gerbyd arlwyo addas ar gyfer masnachu yn y farchnad awyr agored.

Bydd disgwyl i bob masnachwr ddarparu unrhyw offer arall sydd ei angen i fasnachu naill ai o gasebo neu gerbyd arlwyo addas. 

Awgrymir bod pwysau yn cael eu rhoi ar waelod pob gasebo ar gyfer pob marchnad. Mae'n ofynnol bod pwysau yn cael eu rhoi ar waelod pob gasebo yn ystod gwyntoedd cymedrol/uchel, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Dylai pob gasebo fod o adeiladwaith cadarn i wrthsefyll tywydd garw. Gweler y Polisi Tywydd Garw Yn agor mewn tab newydd.

Dylai pob gasebo a cherbyd arlwyo gael eu cynnal a’u cadw’n briodol a chael eu cynnwys yn yr asesiad risg busnes. Gweler Gweithio'n Ddiogel ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin Yn agor mewn tab newydd.

Er mwyn annog cymysgedd addas o gynnyrch ac amrywiaeth ymhlith masnachwyr bydd y rhan fwyaf o ddefnyddiau yn gyfyngedig o ran nifer a byddai hyn fel arfer yn golygu cyfyngiad o ddau fesul math.  

Fodd bynnag, yn achos digwyddiadau marchnad neu wyliau a drefnir, bydd y terfyn yn cael ei ymestyn yn unol â maint y digwyddiad. Yn achos Marchnadoedd Bwyd Misol cyfyngir y nifer i dri 

Bydd angen cyflwyno cais i fasnachu ar rai digwyddiadau yn ddigon cynnar i wirio addasrwydd yr ymgeisydd. Yn achos rhai digwyddiadau marchnad awyr agored rhaid cyflwyno ceisiadau o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Bydd y ceisiadau a gyflwynir yn ddiweddarach, a'r rhai a gyflwynir ar gyfer busnesau tebyg yn cael eu rhoi ar restr wrth gefn. Mae’n bosibl y gofynnir i’r rhai sydd ar y rhestr wrth gefn fod yn bresennol os oes lle ar gael ar ôl i rywun dynnu’n ôl neu os yw rheolwr y digwyddiad yn fodlon y gellir ymestyn y cyfyngiad ar fusnesau tebyg.

Cyfrifoldeb pob masnachwr marchnad awyr agored unigol yw cadw yswiriant priodol yn unol â'r gofynion a ddarperir gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Rhaid i bob masnachwr gael yr Yswiriant Busnes canlynol i fasnachu naill ai yn y marchnadoedd dan do neu yn yr awyr agored yn Sir Gaerfyrddin. 

  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ag isafswm gwerth o £5,000,000
  • Yswiriant Atebolrwydd Cynnyrch gydag isafswm gwerth o £5,000,000
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr o leiafswm gwerth o £5,000,000

Gellir cael yswiriant trwy fod yn aelod o'r Ffederasiwn Masnachwyr Marchnad Cenedlaethol (NMTF) Yn agor mewn tab newydd neu drwy frocer yswiriant o'ch dewis.

Mae'n ofynnol i bob masnachwr sy'n mynychu naill ai'r marchnadoedd dan do neu awyr agored a weithredir gan Gyngor Sir Caerfyrddin gael asesiad risg Yn agor mewn tab newydd priodol. 

Bydd yr Asesiad Risg yn nodi peryglon, risgiau a mesurau rheoli er mwyn amddiffyn y rhai sydd mewn perygl rhag niwed. 

Mae'r Asesiadau Risg yn ofyniad cyfreithiol a byddant yn ychwanegol at unrhyw ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith sy'n berthnasol i'r busnes.  

Mae'n ofynnol i fasnachwyr ddarparu dogfennaeth cydymffurfio diogelwch ar gyfer unrhyw offer a ddefnyddir yn y farchnad. 

Rhaid i'r holl offer trydanol fod â marc CE, rhaid bod profion teclynnau cludadwy (PAT) wedi'u cynnal arnynt a rhaid bod ganddynt dystysgrif  gyfredol gan gontractwr cofrestredig NICEIC Yn agor mewn tab newydd. Dylai'r offer hefyd gael prawf PAT.

Rhaid i bob offer nwy ddangos y marc CE a rhaid iddo feddu ar Dystysgrif Diogelwch Nwy gyfredol.

Nid oes gan neuadd y farchnad dan do drwydded ar gyfer gwerthu neu yfed Alcohol.

Rhaid i fusnesau unigol gael trwydded ar wahân ar gyfer gwerthu alcohol yn y farchnad dan do ac yn yr awyr agored. Rhaid i Reolwr y Dref a'r Farchnad neu Reolwr Cynorthwyol y Farchnad hefyd gytuno ar werthiant alcohol yn ystod y cam o wneud y cais, a rhaid i hyn fod yn gydnaws â’r cyfuniad o denantiaid.

Rhaid i werthiant alcohol yn y farchnad awyr agored gael ei gymeradwyo gan Reolwr y Dref a'r Farchnad neu Reolwr Cynorthwyol y Farchnad ar gyfer pob digwyddiad a chael ei gefnogi gan hysbysiad Digwyddiad Dros Dro lle nad yw'r digwyddiad wedi'i gefnogi gan drwydded safle.

Sylwer: Nid oes gan Gyngor Sir Caerfyrddin Drwydded Safle ar gyfer digwyddiadau marchnad awyr agored. Os yw'r digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan drydydd parti, dylai'r masnachwr wirio a oes gan drefnydd y digwyddiad Drwydded Safle cyn gwneud cais am hysbysiad digwyddiad dros dro.

Oni bai bod cadarnhad penodol fel rhan o ddigwyddiad, nid yw'r farchnad awyr agored yn caniatáu gwerthu alcohol i'w yfed ar y safle.

Sylwer y gallai cais i werthu alcohol arwain at gostau ychwanegol

Rhaid i fusnesau bwyd fod wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor lle maent yn byw.

Rhaid arddangos sgoriau Hylendid Bwyd drwy'r amser. 

Dylai masnachwyr roi eu sgôr wrth wneud cais, dim ond ceisiadau gan fusnesau bwyd sydd â sgôr hylendid o 3 ac uwch yr ydym yn eu derbyn. 

Os ydych yn fusnes bwyd newydd byddwn yn derbyn cais wrth i chi wneud cais am eich sgôr hylendid.

Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, gallwch gofrestru gyda ni ar-lein.

Na, rhaid i'r masnachwr ddarparu ei gyflenwad trydan a nwy ei hun.

Rhaid i'r holl offer trydanol fod â marc CE, rhaid bod profion teclynnau cludadwy (PAT) wedi'u cynnal arnynt a rhaid bod ganddynt dystysgrif  gyfredol gan gontractwr cofrestredig NICEIC Yn agor mewn tab newydd. Dylai'r offer hefyd gael prawf PAT.

Rhaid i bob offer nwy ddangos y marc CE a rhaid iddo feddu ar Dystysgrif Diogelwch Nwy gyfredol.

 

Bydd y Cyngor yn monitro y tywydd lleol a rhagolygon ar gyfer rhybuddion tywydd garw. Bydd y penderfyniad i weithredu, canslo neu gau'r farchnad yn cael ei wneud pan ystyrir bod y tywydd a ragwelir neu'r tywydd gwirioneddol yn peri risg. Mae’r risg yn yr achos hwn yn ymwneud â niwed i’r cyhoedd, masnachwyr, staff y Cyngor neu achosi difrod i offer neu eiddo cyfagos. 

Gwyntoedd Cryfion

Fel y soniwyd uchod , mae angen i gasebos fod o adeiladwaith cadarn i wrthsefyll amodau gwyntog ac yn gyffredinol ni ellir defnyddio gasebos domestig mewn gwyntoedd o 27 mya neu fwy. 

Bydd y rhan fwyaf o gasebos proffesiynol yn goddef hyrddiau cyflymder gwynt o hyd at 40mya ac mae'n ofynnol i fasnachwyr wirio cyngor y gwneuthurwr i sicrhau cydymffurfiaeth.

Yn gyffredinol, gall stondinau marchnad traddodiadol wedi'u hadeiladu o fframiau dur ar ffurf sgwariau oddef cyflymder gwynt uwch ond mae angen eu dal i lawr gan bwysau o hyd - gweler y wybodaeth isod.. Disgwylir i'r holl fasnachwyr ddilyn cyngor y gwneuthurwr ac efallai y gofynnir iddynt ddarparu gwybodaeth sy'n cadarnhau perfformiad y stondinau a ddefnyddiwyd. 

Mae cyflymder y gwynt yn cael ei fonitro gan y Cyngor cyn diwrnod y farchnad. 

Mae'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i'r amodau tywydd amrywiol fel a ganlyn; 

Ar gyfer hyrddiadau gwynt rhwng 26-40 mya - Dim ond Gasebos neu Strwythurau Gradd Proffesiynol a ganiateir

  • Codi/datgymalu i ddigwydd o dan system gweithio diogel gweithredu arferol(o leiaf ddau berson i bob stondin) 
  • Rhaid defnyddio pwysau digonol, neu debyg, i sicrhau gasebos/strwythurau
  • Dylid gosod pwysau ar goesau’r stondin lle rhagwelir hyrddiau gwynt o 26 - 40mya 
  • Yn syth ar ôl i'r coesau gasebo gael eu hagor a'u hymestyn, dylid codi'r coesau 
  • Wrth ddatgymalu, dylai pwysau aros yn eu lle tra bod y coesau'n cael eu gostwng 
  • Mae canopïau yn cael eu gadael heb eu clymu wrth godi/datgymalu 

Ar gyfer hyrddiau gwynt mwy na 40 mya

  • Strwythurau marchnad proffesiynol a ganiateir yn unig 
  • Caniateir Cerbydau/Trelars Arlwyo os ystyrir eu bod yn ddiogel mewn gwyntoedd cryfion 

Bydd asesiad deinamig yn cael ei wneud ar fore diwrnod y farchnad. Os yw hyrddiau cyflymder gwynt yn cael eu hystyried yn ormodol ar gyfer y math o gasebo neu strwythur a ddefnyddir gall y masnachwr roi'r gorau i fasnachu neu rhag cael mynediad i gyntedd y farchnad. Yn yr un modd, os ystyrir bod strwythur y stondin yn beryglus, neu os nad oes darpariaeth ar gyfer y pwysau priodol yna efallai na chaniateir i fasnachwyr fynychu'r farchnad.

Os bydd cyflymder gwynt yn cynyddu yn ystod y dydd gall y Cyngor gau'r farchnad yn gynnar. 

Eira

  • Os bydd eira trwm, storm eira neu luwchfeydd  yn ystod amser agor y farchnad, bydd gan y Cyngor yr hawl i ganslo neu gau’r farchnad yn gynnar. 
  • Bydd hyn yn digwydd pan ystyrir ei bod yn ddiogel gwneud hynny yn dilyn asesiad risg deinamig

Glaw Trwm

  • Os bydd glaw trwm a bod tebygolrwydd o lifogydd yn ystod amser agor y farchnad, bydd gan reolwr y farchnad yr hawl i ganslo neu gau’r farchnad yn gynnar
  • Bydd hyn yn digwydd pan ystyrir ei bod yn ddiogel gwneud hynny yn dilyn asesiad risg deinamig

Niwyl Dwys

  • Os bydd gwelededd yn cael ei leihau i lai na 50 metr yn ystod amser agor y farchnad (oherwydd niwl trwchus), bydd gan reolwr y farchnad yr hawl i ganslo neu gau'r farchnad yn gynnar 
  • Bydd hyn yn digwydd pan ystyrir ei bod yn ddiogel gwneud hynny yn dilyn asesiad risg deinamig

Gwres Eithafol

  • Dylai manwerthwyr sicrhau bod ganddyn nhw gyfleusterau storio bwyd sy’n addas i’w defnyddio mewn gwres eithafol a’u bod nhw’n gallu cydymffurfio â safonau Iechyd yr Amgylchedd

Pwysig 

Rhaid i’r holl fasnachu fod yn unol â thelerau ac amodau’r Cyngor ar gyfer masnachu yn y farchnad ac i’r gofynion a nodir yn y cam cofrestru. 

Yn achos tywydd garw, mae'r masnachwr yn gyfrifol am ei ddiogelwch ei hun ac am ddiogelwch eraill yn y farchnad. Yn achos tywydd garw, dylai masnachwyr wirio a yw’r farchnad ar agor cyn mynychu, bod eu hyswiriant busnes yn darparu yswiriant digonol ar gyfer yr amodau a bod yr holl offer yn cael ei ddefnyddio yn unol â chyngor y gwneuthurwr.

Os bydd y farchnad yn cau o ganlyniad i dywydd garw, ni fydd unrhyw iawndal yn cael ei dalu i fasnachwyr am y golled economaidd.

Ar achlysuron pan fo Cyngor Sir Caerfyrddin yn penderfynu cau’r farchnad yn gynnar oherwydd tywydd garw, ni chodir unrhyw ffioedd marchnad os gwneir y penderfyniad i gau cyn 10AM.

Llwythwch mwy