Datblygiadau tai wedi’u cwblhau
Dros y 10 mlynedd nesaf, byddwn yn datblygu dros 900 o dai Cyngor newydd
Dylan, Llanelli
Mae Dylan ger canol tref Llanelli ac mae o fewn taith 5 munud yn y car i Barc Trostre.
Dylan yw un o ddatblygiadau tai newydd cyntaf y Cyngor. Mae’r datblygiad hwn yn darparu 32 o dai Cyngor newydd ychwanegol ac mae’n cynnwys:
- 22 tŷ â dwy ystafell wely
- 4 byngalo â dwy ystafell wely
- 6 thŷ â phedair ystafell wely
Mae’r tai’n effeithlon o ran ynni ac mae ganddynt filiau ynni is ar gyfer y tenantiaid. Maent yn dai o safon, sydd hefyd yn helpu i leihau allyriadau carbon i’r amgylchedd a gwella iechyd a llesiant.
Rydym hefyd yn profi’r dechnoleg arloesol ddiweddaraf o ran carbon isel yn nau o’n tai. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu ein safonau dylunio yn y dyfodol.

Garreglwyd, Pen-bre
Gerllaw tref glan y môr Porth Tywyn, lai na phum munud yn y car o un o’r atyniadau gorau i ymwelwyr yng Nghymru, sef Parc Gwledig Pen-bre, gyda’i draeth arobryn, Cefn Sidan a’i 500 erw o goetir.
Mae Garreglwyd yn darparu 14 o dai Cyngor newydd ychwanegol ac mae’n cynnwys:
- 12 tŷ â dwy ystafell wely
- 2 dŷ â dwy ystafell wely
Mae’r tai’n effeithlon o ran ynni a bydd y biliau ynni’n llai ar gyfer y tenantiaid. Maent yn dai o safon, sydd hefyd yn helpu i leihau allyriadau carbon i’r amgylchedd a gwella iechyd a llesiant.
Gwneud cais am gartref
Ewch i’n hadran Gwneud cais am gartref i ddarganfod sut i wneud hyn.