Adnewyddu Canol Trefi
Yn yr adran hon
- Rhagarweiniad
- Cymhwysedd
- Y Grant
- Meini Prawf Asesu
- Gwaith/costau cymwys & Gwaith anghymwys
- Datganiad o Gymorth Ariannol
Gwaith/costau cymwys & Gwaith anghymwys
Bydd yr adeilad sy'n destun y cais yn cael ei asesu i sicrhau y byddai'r gwaith arfaethedig drwy'r grant yn gwella esthetig gweledol yr adeilad.
Bydd gwaith cymwys yn cynnwys gwaith i'r tu allan a chwrtil adeiladau masnachol. Rhaid i'r ymgeisydd sicrhau, gan ddefnyddio cyngor proffesiynol priodol yn ôl yr angen, fod y gwaith arfaethedig yn dechnegol addas, bod ganddo uniondeb strwythurol, a'i fod wedi sicrhau pob caniatâd a thrwydded statudol priodol lle bo'n berthnasol. Mae gwaith i'r lloriau uchaf yn gymwys ar yr amod bod y llawr gwaelod yn cael ei ddefnyddio'n fasnachol. Mae enghreifftiau o wariant cymwys wedi'i gynnwys isod:
Mae enghreifftiau o wariant cymwys yn cynnwys;
- Addurno ffasâd adeilad
- Glanhau cwteri
- Cyfnewid cwteri / pibellau wedi'u difrodi
- Adnewyddu rendro
- Trin / cyfnewid ffenestri
Gwaith/costau anghymwys
Mae’r rhain yn cynnwys: -
- Ni fydd prosiectau preswyl yn gymwys am yr arian hwn.
- Unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r prosiect cyn cael caniatâd.
- Ffioedd cyfreithiwr
- Ffioedd statudol gan gynnwys cynllunio, newid defnydd, caniatâd adeilad rhestredig ac ati
- Gwaith nad yw'n cyfrannu at welliant gweledol yr eiddo.
- Gwaith na fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i wella'r amgylchedd yn gyffredinol yn yr ardal, er enghraifft gwaith i weddluniau eiddo na fydd y cyhoedd yn eu gweld.
- Unrhyw waith nad yw wedi cael ei gaffael yn unol â rheolau caffael trydydd parti.