Grant Ymchwil A Datblygu

3. Cymhwysedd

Ariennir Grant Ymchwil a Datblygu Sir Gaerfyrddin gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'i ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac oherwydd hynny dim ond ar gael i fusnesau presennol o fewn y sectorau cymwys sydd wedi ei leoli o fewn Sir Gaerfyrddin.

Bydd y grant ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng mis Mawrth 2023 ac Awst 2024 neu hyd nes y bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn

Mae cymorth wedi'i anelu'n bennaf at fusnesau sy'n bodoli eisoes a fydd yn gwasanaethu'r sectorau twf a sylfaen canlynol, neu'n gweithredu ynddynt:

  • Deunyddiau uwch a Gweithgynhyrchu;
  • Adeiladu;
  • Diwydiannau Creadigol;
  • Ynni a'r Amgylchedd;
  • Gwasanaethau Cyllid a Phroffesiynol;
  • Technoleg Gwybodaeth a Thelathrebu;
  • Gwyddorau Bywyd;
  • Bwyd a Diod;
  • Twristiaeth
  • Adwerthu
  • Gofal

Fodd bynnag, caiff ceisiadau eu hystyried fesul achos gan ddibynnu ar eu cyfraniadau a'u gwerth posibl i'r economi leol, e.e. creu swyddi yng nghanol trefi, ardaloedd gwledig, cyswllt â phrosiectau strategol allweddol megis Yr Egin a Pentre Awel sef Phentref Llesiant Llanelli. Pendine, Llanelli YMCA, Neuadd Farchnad Llandeilo, Safle cyflogaeth strategol Dwyrain Cross Hands.

Fodd bynnag, nid yw'r sectorau canlynol yn gymwys i gael cymorth:  - cynhyrchu amaethyddol sylfaenol, coedwigaeth, dyframaethu, pysgota a gwasanaethau statudol e.e. Iechyd ac addysg sylfaenol      

Mae'r gronfa ar gael i fusnesau o bob maint sy'n anelu at ymgymryd ag ymchwil a datblygu cychwynnol o ran datblygu cynnyrch, prosesau a/neu wasanaethau fel rhan o'u cynlluniau twf ac adfer. Felly mae'n rhaid i'r ymgeiswyr ddangos eu cynlluniau twf (a darparu tystiolaeth lle bo'n berthnasol) yn ystod y broses ymgeisio.

Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos yn glir bod y prosiect arfaethedig yn gysylltiedig ag arloesi, Ymchwil a Datblygu a/neu brosiectau diogelu at y dyfodol a chyfeirio at y Strategaeth Arloesedd Leol. https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/1231400/local-innovation-strategy.pdf

Rhaid prynu a hawlio'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant o fewn 4 mis i ddyddiad y llythyr cymeradwyo neu ddim hwyrach na 30 Medi 2024, pa un bynnag sydd gynharaf. Ni fydd estyniadau yn cael eu rhoi am gyflwyno ceisiadau.

Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw'r hawl i fonitro a chynnal tystiolaeth yn 1, 3 a 5 mlynedd o dderbyn y cais.