Parc Gelli Werdd
Mae Parc Gelli Werdd yn ddatblygiad newydd a chynaliadwy o weithdai a swyddfeydd o'r radd flaenaf sydd wedi'u lleoli ar safle Dwyrain Cross Hands.
Mae'r datblygiad blaenllaw yn cynnwys tri adeilad masnachol, cyfanswm o 32,500 tr2. Mae gan y safle ganiatâd cynllunio ar gyfer defnyddiau B1 a B8, ond byddwn yn ceisio defnydd B1 yn bennaf. Mae prydlesi ar gael i denantiaid addas y sector preifat.
Bydd y tri adeilad yn cynnwys:
Adeilad 1 – Swyddfeydd as Unedau Hybrid
Adeilad 2 – Unedau Hybrid
Adeilad 3 – Unedau Diwydiannol Ysgafn
Mae rhai o'r unedau wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg fel y gellir eu defnyddio ar gyfer defnyddiau diwydiannol ysgafn neu fel swyddfeydd
Yn allanol, bydd y datblygiad yn cynnwys digon o le parcio ceir, pwyntiau gwefru trydan, iard wasanaeth a siop feiciau yn ogystal â thirlunio helaeth.
Mwy o wybodaeth