Chwiliadau personol o'r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol

Diweddarwyd y dudalen ar: 25/03/2024

Gallwch bellach chwilio ein cofrestr pridiannau tir lleol eich hun, yn rhad ac am ddim. Fel arall, gallwn gynnal y chwiliad hwn (LLC1) ar eich rhan am £6 a byddwn yn rhoi tystysgrif o’r canlyniad i chi.

Noder bod y wybodaeth yn y gofrestr yn aml yn hanesyddol ei natur, a dim ond yn Saesneg y mae ar gael ar hyn o bryd.

Nid yw ein system yn cael ei diweddaru mewn amser real. Felly, mae angen 48 awr o rybudd arnom i sicrhau bod y wybodaeth ar y gofrestr yn gyfredol pan fyddwch yn chwilio.  Gallwch roi gwybod i ni am eich chwiliad drwy anfon e-bost at celandcharges@sirgar.gov.uk.

Noder bod yr Awdurdod yn defnyddio Rheol 7 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 1977 sy'n golygu bod yr holl ganiatâd cynllunio amodol a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Awst 1977 [yr ystyrir eu bod yn bridiannau tir lleol] i'w gweld yn y Gofrestr Gynllunio statudol. Mae unrhyw wybodaeth am ganiatâd cynllunio amodol a fyddai wedi'i chanfod yn hanesyddol yn y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol i'w gweld drwy'r Gofrestr Gynllunio. Mae'n bwysig eich bod yn cael mynediad i'r wybodaeth hon i gwblhau eich chwiliad personol.

Os ydych am wirio ceisiadau cynllunio, gallwch chwilio drwy'r gofrestr gynllunio ar-lein o 1996 ymlaen, neu ddefnyddio'r map chwilio ar-lein ar gyfer ceisiadau a ddaeth i law ers 2007.  Noder y bydd y cyfeiriad a gasglwyd yn y gronfa ddata ar gyfer eiddo neu ddatblygiadau newydd yn wahanol i'r hyn y maent yn ei ddefnyddio ar ôl cael eu hadeiladu (e.e: tir neu lain gyfagos i), a hefyd mae'n bosibl bod enw tŷ wedi newid.  

O ran unrhyw chwiliadau personol, fe'ch cynghorir i gysylltu â planningsearches@sirgar.gov.uk neu os yw'r eiddo ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dylech gysylltu â planning@beacons-npa.gov.uk neu 01874 624438 i gael mwy o gyfarwyddiadau os oes angen i chwiliadau fynd yn ôl ymhellach na'r dyddiadau hyn.