Gwella Gwytnwch Gwledig

Ymgeisydd y prosiect: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - Ysgol Fusnes Caerfyrddin

Teitl y prosiect: Nodi'r Heriau o ran Gwella Gwytnwch Gwledig drwy'r Economi Gylchol

Rhaglen Angor: Cronfa Arloesi Gwledig

Lleoliad: Sir Gâr

Mae'r prosiect hwn yn seiliedig ar ymchwil ac mae'n canolbwyntio ar botensial yr economi gylchol i wella gwytnwch gwledig, gan gyfrannu at ddyfodol sero net ar yr un pryd.

Bydd ymgeisydd y prosiect yn ymgysylltu â mentrau gwledig ledled Sir Gaerfyrddin i asesu eu dull o fabwysiadu arferion economi gylchol ac i gael dealltwriaeth o'r heriau a'r rhwystrau sy'n wynebu mentrau gwledig, rhai gwirioneddol a chanfyddedig, wrth ymwneud ag egwyddorion yr economi gylchol.