Plastig Amaethyddol Cylchol

Ymgeisydd y prosiect: Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru

Teitl y prosiect: Plastig Amaethyddol Cylchol

Rhaglen Angor: Cronfa Arloesi Gwledig

Lleoliad: Sir Gâr

Bydd y prosiect hwn yn ceisio mynd i'r afael â’r broblem gynyddol o ran gwastraff plastig amaethyddol sy'n cronni, llygru cyrsiau dŵr a'r amgylchedd ehangach, a diffyg fframwaith ar gyfer ei gasglu yn Sir Gaerfyrddin. 

Yr allbwn fydd astudiaeth ddichonoldeb a fydd yn cynnwys cynnig ar gyfer cynllun casglu plastig amaethyddol sy'n gynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol yn Sir Gaerfyrddin.