Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/02/2024

Mae grŵp cynghori ar ddiogelwch digwyddiadau Sir Gaerfyrddin yn cynnig cyngor i'r rhai sy'n trefnu digwyddiadau canolig neu fawr eu maint yn y Sir. Gyda chynrychiolwyr o'r Cyngor Sir (priffyrdd/rheoli traffig, iechyd yr amgylchedd, trwyddedu, marchnata), Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, gall trefnwyr fanteisio ar feddyliau a phrofiad prif sefydliadau'r sector cyhoeddus sydd eu hangen i gynnal digwyddiad yn llwyddiannus, yn gynnar yn y broses gynllunio.

Er bod y pandemig a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig wedi arwain at ganslo a/neu ohirio nifer fawr o ddigwyddiadau (ffeiriau Nadolig cymunedol bach ynghyd â gwyliau byd-enwog), rydym yn sylweddoli bod llawer yn gwneud cynlluniau ar gyfer 2024 a thu hwnt, gan edrych ar atebion amgen a meddwl am ddigwyddiadau mewn ffordd wahanol i’r arfer

Mae cyfyngiadau amser yn berthnasol i rai o'r materion hyn, megis cau ffyrdd a thrwyddedu, felly croesawn drafodaeth cyn gynted â phosibl, anfonwch e-bost i

EventSafetyAG@sirgar.gov.uk