Cau ffordd ar gyfer gwaith sydd wedi'i gynllunio

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/04/2024

Cau ffyrdd wedi'u cynllunio

Mae angen rhoi wyth wythnos o rybudd cyn y disgwylir i'r gwaith ffordd ddechrau ar gyfer ceisiadau i gau ffordd am fwy na phum diwrnod.

Mae angen rhoi chwe wythnos o rybudd cyn y disgwylir i'r gwaith ffordd ddechrau ar gyfer ceisiadau i gau ffordd am hyd at bum diwrnod.

Mae angen cyflwyno ceisiadau o leiaf 8 wythnos cyn pryd rydych chi'n disgwyl i'r gwaith ffordd ddechrau. Os gallwch gynnal lled ffordd o 3.2 metr neu fwy, nid oes angen i chi wneud cais am gau ffordd ond bydd angen i chi ein hysbysu o'r gwaith ac yn dibynnu ar natur y gwaith ffordd efallai y bydd angen i chi wneud cais am oleuadau traffig cludadwy a'r drwydded gwaith stryd berthnasol.

 

Ffioedd cau ffyrdd wedi'u cynllunio

Codir y canlynol arnoch i wneud cais. Os cymeradwyir eich cais, anfonir dyfynbris atoch hefyd am gost hysbysebu cau'r ffordd ac unrhyw ffioedd gweithredu.

  • Hyd at 5 diwrnod - £1150.00
  • Dros 5 diwrnod - £1850.00. Yn ogystal, codir tâl am hysbysebu yn ddiweddarach; bydd y costau hyn yn amrywio ond byddant oddeutu £700.00.

Rydym yn derbyn taliadau cardiau debyd / credyd. Ni ellir ad-dalu ffioedd cais.

Gallwn hefyd ddarparu arwyddion ar gyfer y llwybr amgen am gost ychwanegol o £263.00.

Os cymeradwyir eich cais am 5 diwrnod, anfonir anfoneb atoch hefyd am gost hysbysebu cau ffyrdd.

Tâl am newidiadau i'r gorchmynion a'r hysbysiadau presennol, i gynnwys newidiadau mewn dyddiadau - £400.00

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am gau ffordd wedi'i gynllunio, bydd angen i chi ddarparu:

  • Tystiolaeth ffotograffig a / neu ysgrifenedig. Bydd methu â darparu tystiolaeth ddigonol yn arwain at yr angen i gynnal cyfarfod safle cyn y gellir cychwyn ar y gwaith.
  • Llwybr amgen addas y gellir ei ddefnyddio.
  • Cynllun lleoliad y cau.
  • Ffioedd

Dim ond ar ôl i chi dderbyn e-bost yn cadarnhau cymeradwyaeth y dylai'r gwaith ddechrau.

Ymgeisio am gau ffordd ar gyfer gwaith sydd wedi'i gynllunio

Teithio, Ffyrdd a Pharcio