Dillad a Helmed Beicio Modur

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/03/2024

Prynwch y dillad cywir cyn gyrru eich beic modur.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Helmed gymeradwy sy'n ffitio'n ddiogel. Os ydych yn meddwl bod yr helmed yn ddiffygiol, newidiwch hi. Gall helmed wen neu liwgar iawn eich helpu i fod yn weledig.
  • Dillad da - ac mae hynny'n golygu siaced, trowseri ac esgidiau. Mae'r rhai gorau wedi'u marcio â CE a gallant eich amddiffyn rhag cael anaf os ydych yn disgyn. Dylent fod yn fflwroleuol yn ystod y dydd ac yn adlewyrchol yn ystod y nos.
  • Bydd y dillad sy'n eich amddiffyn yn briodol rhag y tywydd nid yn unig yn gwneud i chi deimlo'n fwy cyfforddus, byddant hefyd yn eich galluogi i hoelio mwy o sylw ar eich gyrru.

Gwnewch yn siŵr nad yw eich fisor yn frwnt neu wedi'i grafu a chofiwch beidio â gwisgo goglau neu fisor arlliwedig yn ystod y nos.

Er bod yr holl helmedau beiciau modur sydd ar werth yn y DU yn gorfod bodloni'r gofynion cyfreithiol lleiaf, mae profion wedi dangos bod gwahaniaeth sylweddol ym mherfformiad diogelwch yr helmedau beiciau modur sydd ar gael.

Er mwyn ceisio mynd i'r afael â hyn, cafodd y ‘Rhaglen Asesu a Sgrinio Helmedau Diogelwch’ (SHARP) ei sefydlu yn 2007 gan yr Adran Drafnidiaeth er mwyn galluogi gyrwyr beiciau modur i ddewis helmed yn haws sy'n diwallu eu hanghenion.

Bydd SHARP yn rhoi i ddefnyddwyr asesiad annibynnol o berfformiad diogelwch yr helmedau sy'n cael eu gwerthu yn y DU. Mae'r Sgôr SHARP yn adlewyrchu perfformiad pob model helmed yn dilyn cyfres o brofion manwl yn labordy SHARP a bydd yr helmedau yn cael sgôr rhwng 1-5 o sêr.

Mae gwefan SHARP yn rhoi cyngor a gwybodaeth i yrwyr beiciau modur hefyd ynghylch dewis helmed ac yn cynnwys arddangosiadau ynghylch sut mae'r profion SHARP yn cael eu gwneud a sut i wneud yn siŵr fod helmed yn ffitio'n briodol.

Mae ymchwil SHARP wedi dangos y gellid achub hyd at 50 o fywydau gyrwyr beiciau modur bob blwyddyn pe byddai pawb yn gwisgo helmed sy'n sgorio'n uchel yn system brofi SHARP. 

ewch i Wefan SHARP

Teithio, Ffyrdd a Pharcio