Bws Bach y Wlad

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o lansio Bws Bach y Wlad, menter newydd sydd â'r nod o wella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig ledled y rhanbarth.

Rydym yn ymateb ar ôl i'r gwasanaeth Bwcabus ddod i ben oherwydd diffyg cyllid gan y llywodraeth, gan adael bwlch yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin o ran gwasanaethau trafnidiaeth.

Bydd Bws Bach y Wlad, sy'n mynd o bentref i bentref, yn rhoi buddion i breswylwyr drwy roi mwy o gyfleoedd iddynt ar gyfer teithio cyfleus a fforddiadwy. Gan weithredu fel cynllun peilot am 9 mis, pum niwrnod yr wythnos, bydd y gwasanaeth yn cynnig teithio rhatach am ddim a chyfraddau gostyngol i bobl ifanc, gan ei wneud yn fwy hygyrch i ystod ehangach o aelodau'r gymuned.

Gan ganolbwyntio i ddechrau ar ardaloedd cyfagos Llanybydder a Chastellnewydd Emlyn, fel y nodwyd yn adroddiad 'Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen' y Cyngor, nod y prosiect yw cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth ehangach 'Hwb Bach y Wlad' Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r Cyngor yn cydnabod lleihad yn y gwasanaethau yn yr ardaloedd hyn ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod gan breswylwyr opsiynau trafnidiaeth dibynadwy a chyfleus.

Er mwyn osgoi dyblygu a manteisio ar y rhwydwaith cyffredinol, bydd tîm y prosiect yn cydweithio'n agos â darparwyr Trafnidiaeth Cymunedol, Dolen Teifi. Nod y bartneriaeth strategol hon yw sicrhau bod gwasanaethau'r dyfodol yn ategu'r rhwydwaith a fwriadwyd, gan gynnig ateb trafnidiaeth di-dor ac integredig er budd y gymuned gyfan.

Sicrhaodd y prosiect gyllid hanfodol y Gronfa Ffyniant Gyffredin, gan arddangos ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i fynd i'r afael â heriau trafnidiaeth mewn cymunedau gwledig. Prif nod y fenter yw cysylltu preswylwyr gwledig â lleoliadau lle mae cyfleoedd economaidd yn bodoli, gan feithrin twf a datblygiad yn y rhanbarth. Bydd y gwasanaeth hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu preswylwyr lleol wrth gael mynediad at wasanaethau hanfodol fel gofal iechyd, addysg, cyflogaeth a siopa.

Mae gwasanaeth Bws Bach y Wlad yn gam sylweddol tuag at wella cysylltedd gwledig, mynd i'r afael â bylchau trafnidiaeth, a hyrwyddo datblygiad economaidd yng Ngorllewin Cymru.

Bydd Bws Bach y Wlad yn cael ei lansio ar 29 Ebrill 2024. Gellir gweld manylion yr amserlen yma

Teithio, Ffyrdd a Pharcio