Rhoi gwybod am berygl baglu

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/02/2024

Os oes problem o ran un o'r canlynol ar y palmant / ffordd / llwybr beicio, gallwch roi gwybod inni:

  • Slab yn siglo
  • Slab wedi torri
  • Slab ar goll
  • Slab wedi'i godi/suddo
  • Gorchuddion y cwteri ar goll
  • Craciau ar balmant
  • Diffygion o ran lôn feicio

I roi gwybod am unrhyw broblem, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
  • Lleoliad y broblem - a yw yng nghanol y ffordd neu'n agos at y palmant/wrth ei ymyl a pha ochr i'r ffordd
  • Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho

RHOI GWYBOD AM BERYGL BAGLU

I roi gwybod am argyfwng, cysylltwch â ni yn ystod oriau swyddfa ar 01267 234567 neu y tu allan i oriau swyddfa arferol ar 0300 333 2222. Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau mewn trefn flaenoriaeth.

Sylwer: Bydd materion a adroddir y tu allan i oriau swyddfa yn cael eu hadolygu y diwrnod gwaith nesaf, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio