Ganiatâd i wneud gwaith insiwleiddio allanol dros briffordd

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/03/2024

1. Caniatâd Cynllunio

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen ar-lein hon i wirio a oes angen caniatâd cynllunio arnoch a fydd yn cael ei adolygu gan swyddog cynllunio a byddant yn rhoi ymateb anffurfiol i chi o fewn 20 diwrnod gwaith.

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

  • Eich manylion
  • Manylion y safle
  • Bydd angen i chi nodi ar y ffurflen a yw'r eiddo mewn ardal gadwraeth
  • Bydd angen i chi nodi ar y ffurflen a yw'r eiddo yn adeilad rhestredig
  • Gwybodaeth am y gwaith arfaethedig gan gynnwys:
  • y deunyddiau yr ydych yn bwriadu eu defnyddio
    • dimensiynau mewn metrau
    • lleoliad o gymdogion/ffordd
    • braslun manwl yn dangos unrhyw goed ar y safle

Ymestyn / newid eich cartref

2. Rheoli Adeiladu

Bydd angen i chi hefyd gwblhau cais rheoli adeiladu ar gyfer y gwaith hwn

Cais am elfennau thermol

3. Caniatâd i weithio ar y briffordd

Os nad oes gardd flaen gan eich eiddo, a'i fod yn ffinio â'r palmant, dylech wneud cais am ganiatâd gennym cyn gwneud gwaith insiwleiddio allanol. Mewn lleoliadau priodol, caniateir codi adeilad dros briffordd a gynhelir gennym.

I wneud cais bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol:

  • Cyfeiriad yr eiddo y bydd y gwaith arfaethedig yn effeithio arno
  • Rhif y ffordd (os yw'n hysbys)
  • Nodi'r rhannau o'r briffordd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt - ymyl/llwybr troed/ffordd gerbydau/lôn gefn
  • Disgrifiad o'r gwaith
  • Amcangyfrif o faint fydd y gwaith yn para
  • Dyddiad dechrau arfaethedig y gwaith
  • Dyddiad cwblhau arfaethedig y gwaith
  • Lled y llwybr troed/ffordd gerbydau presennol (bras amcan)
  • Lled y gwaith (bras amcan)
  • Estyniad dros y briffordd (bras amcan)
  • Ardal glir uwchben lefel y briffordd
  • Enw, cyfeiriad a rhif ffôn y contractwr
  • Rhif polisi ar gyfer yswiriant sydd ag indemniad o £10 miliwn (o leiaf) a'r dyddiad y mae'n dod i ben
  • Cynllun y safle - yr eiddo a'r gwaith arfaethedig ar raddfa o 1/500 o leiaf
  • Cynllun y lleoliad mewn perthynas â'r hyn sydd o'i amgylch ar raddfa o 1/1250 neu 1/2500 neu 1/10,000 o leiaf

Y ffi ar gyfer gwneud cais yw £51 (yn ddilys tan 31 Mawrth 2025).

Gofynnir i chi ganiatáu rhwng 6 ac 8 wythnos i'ch cais gael ei asesu.

lawrlwytho ffurflen gais (.pdf)

Teithio, Ffyrdd a Pharcio