Torri ymylon priffyrdd

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023

Bob haf rydym yn torri'r borfa wrth ymyl y ffyrdd yr ydym yn gyfrifol amdanynt.

Mae'r gwaith hwn wedi'i ddatblygu'n ofalus i wneud yn siŵr fod y briffordd yn ddiogel a bod ardaloedd pwysig o gynefin yn ddiogel.

Mae gennym gyfrifoldeb i gynnal diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer pob defnyddiwr, sicrhau bod modd gweld yn glir, darparu mannau i gerddwyr allu camu oddi ar y ffordd gerbydau os nad oes llwybrau troed ac atal rhywogaethau dieisiau rhag ymsefydlu.

Fodd bynnag, rydym yn torri'r isafswm sy'n ofynnol yn unig. Yn y rhan fwyaf o leoedd, caiff y borfa ei thorri mewn swatiau un metr yn unig lle mae tyfiant yn effeithio ar allu defnyddwyr ffyrdd i weld yn glir ac yn achosi perygl i gerddwyr. Mae llawer o'r ymylon yn cael eu torri yn gynharach neu'n hwyrach yn y tymor er mwyn caniatáu i rywogaethau brodorol ffynnu.

Y tirfeddiannwr cyfagos sydd â chyfrifoldeb dros wrychoedd a choed ffin a dylid eu harchwilio a'u cynnal yn rheolaidd. Os nad yw coed a pherthi yn cael eu rheoli'n gywir gallant amharu ar ddiogelwch ffyrdd, yn enwedig ger cyffyrdd neu droeon lle gallant beryglu gwelededd hanfodol.

 

Rydym yn torri ymylon y ffyrdd, yn bennaf, am resymau diogelwch er mwyn sicrhau:

  • bod defnyddwyr y ffordd yn gallu gweld yn glir wrth gyffyrdd ac ar droeon, ac er mwyn sicrhau nad yw llystyfiant sy'n ymledu yn achosi perygl i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr eraill y ffordd.
  • bod yna le diogel ar ochr y ffordd gerbydau i ddefnyddwyr y ffordd a allai fod angen camu oddi ar y ffordd gerbydau lle nad oes troedffyrdd
  • nad yw rhywogaethau diangen yn ymsefydlu gan y gall achosi problemau eraill.

Fel arfer rydym yn torri swatiau, o un metr o leiaf i sicrhau nad yw tyfiant o'r ymyl yn cyfyngu ar led y briffordd. Mewn pentrefi lle mae terfyn cyflymder o 30mya a 40 mya, torrir holl led yr ymylon. 

 Mae llystyfiant sy'n ymledu yn cael ei dorri i sicrhau bod modd gweld arwyddion yn glir wrth gyffyrdd priffyrdd; y tu mewn i droeon er mwyn gweld yn glir; o amgylch ffensys diogelwch, polion golau ac o amgylch arwyddion priffyrdd.

Efallai y byddwn hefyd yn torri o amgylch seddi, cerrig milltir a nodweddion eraill ar ochr y ffordd gan gynnwys canllawiau pontydd, ac ar hyd rhai darnau, lle mae'r ymyl yn gul neu heb fod yn bodoli, mae'r clawdd yn cael ei dorri.

Os ydych chi'n berchen ar dir ger y briffordd, gweler ein Canllawiau ar gyfer Tirfeddianwyr Cyfagos a'r Briffordd Gyhoeddus (1MB, pdf)

Rydym yn rheoli rhwydwaith priffyrdd o dros 3,500 km o ffyrdd yn y sir ac mewn sir wledig yn bennaf, bydd angen inni gynnal a chadw ymylon ar ddwy ochr y ffordd yn aml iawn.

Na, mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru yn rheoli'r A40, A48, A477 a'r A483. Weithiau bydd tirfeddianwyr hefyd yn torri ymyl y ffyrdd pan fyddant yn tocio'r gwrychoedd. Weithiau bydd preswylwyr hefyd yn torri ymylon y ffyrdd ger eu heiddo at ddibenion esthetig yn yr amgylchedd trefol a gwledig.

Rydym yn gweithio gyda chontractwyr lleol i dorri'r borfa ar y llwybrau rydym yn gyfrifol amdanynt.

Mae llwybrau fel arfer yn cael eu torri unwaith y flwyddyn, ond gall rhai ymylon gael eu torri ddwywaith y flwyddyn os bydd angen sicrhau diogelwch ar y ffyrdd.

Mae logisteg torri'r borfa mewn ardal mor fawr yn golygu bod y gwaith yn dechrau ym mis Mehefin ac yn para hyd at oddeutu Medi/Hydref.

Caiff y borfa wrth ymyl y ffyrdd ei dorri gan ddefnyddio tractor a ffust ac nid yw'n ymarferol nac yn economaidd gasglu, cludo a chael gwared ar y borfa.

Ydyn. O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 mae'n rhaid i ni geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth ym mhob maes o'n gwaith, gan gynnwys rheoli ymylon ffyrdd.

Mae ymylon ffyrdd yn darparu ystod gyfoethog ac amrywiol o gynefinoedd ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan ddarparu bwyd a chysgod. Maent yn aml yn cynnwys olion o gynefinoedd pwysig sydd wedi dod yn fwyfwy prin yn nhirwedd fwy amaethyddol heddiw. Maent yn gweithredu fel coridorau bywyd gwyllt a gallant helpu i gysylltu'r rhwydwaith o gynefinoedd ledled y sir.

Maent yn aml yn digwydd ar y cyd â chynefinoedd pwysig eraill ar gyfer bywyd gwyllt, e.e. gwrychoedd, ffosydd a choetiroedd ac yn cyfrannu at apêl weledol o ran tirwedd y sir.

Mae yna nifer o ymylon wedi'u nodi fel rhai sy'n cael eu ‘torri’n hwyr’ gan y cyhoedd gan eu bod yn llawn rhywogaethau. Rydym yn cofnodi'r ymylon hyn mewn cronfa ddata ac nid yw iechyd a diogelwch yn broblem yn achos y rhain gan eu bod yn cael eu torri ddiwethaf. Caiff yr ymylon hyn eu hadolygu i asesu buddion y rheolaeth hon.

Rydym yn trin y chwyn ymledol hyn yn rheolaidd bob blwyddyn gan y gall gymryd sawl blwyddyn i ddileu'r planhigyn yn llwyr o'r man heintiedig. Y modd mwyaf effeithiol o drin Clymog Japan yw chwynladdwr ac mae modd torri Balsam Himalaya â pheiriant ar yr adeg briodol.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio