Beicio Modur

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023

Trwy weithio gyda sefydliadau partner, ein nod yw lleihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd trwy ddarparu amrywiaeth o ymyriadau, mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys hyfforddiant lefel uwch i feicwyr modur, rheoli safleoedd gwrthdrawiad a hyfforddiant cymorth cyntaf, rhoi cerdyn CRASH i feicwyr modur, a rhoi gwybodaeth ychwanegol i feicwyr modur dibrofiad, i’w cadw’n fwy diogel ar y ffyrdd.

Byddwn ni hefyd yn targedu’r cyhoedd ehangach sy’n defnyddio’r ffyrdd trwy dynnu sylw at y pethau sy’n gwneud beicwyr modur yn agored i niwed yn Sir Gaerfyrddin.

Mae unrhyw un sy'n gyrru beic modur neu sgwter yn gwybod y gallant fod y dull cyflymaf o deithio. Mae eu gyrru yn brofiad gwefreiddiol hefyd. Fodd bynnag, mae'n bwysicach nag erioed eich bod yn gallu delio â'r annisgwyl oherwydd amodau traffig y dyddiau hyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod:

  • yn rhagweld symudiadau gyrwyr beiciau modur.
  • yn wyliadwrus ac yn graff bob amser. Mae hyn yn bwysig wrth gyffyrdd neu gylchfannau, a phan fydd angen arnoch gadw llygad am ddefnyddwyr ffyrdd eraill sy'n agored i niwed.
  • yn gyrru ar gyflymder a fydd yn eich galluogi i arafu a stopio mewn da bryd. Gall yr annisgwyl ddigwydd.
  • yn mynd heibio i rywun yn ddiogel. A allwch chi weld unrhyw beryglon? A oes cyffordd neu dro yn y ffordd? A allwch chi fynd heibio heb gyflymu neu wyro'n ormodol?
  • yn cymryd cipolwg hollbwysig dros eich ysgwydd cyn symud bob tro - gallai achub eich bywyd.
  • yn weledig. Gall gostwng y goleuadau, hyd yn oed mewn golau dydd da, eich helpu i fod yn weledig.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio