Carden CRASH Beiciau Modur

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/01/2024

Rywbryd neu'i gilydd yn ystod eich cyfnod ar gefn beic modur, mae'n bosibl y cewch chi 'gwymp annisgwyl' neu efallai byddwch chi yng nghwmni rhywun sy'n cael cwymp annisgwyl. Mae CRASH yn gyfres o gamau hawdd i'w cofio er mwyn eich cadw chi'n ddiogel yn ogystal â'r beiciwr modur anlwcus sydd wedi bod yn rhan o ddamwain.

Sut mae'r garden CRASH yn gweithio?

Mae un ochr y garden yn cynnwys y mnemonig CRASH. Y person sy'n ffonio 999 yw'r person pwysicaf yn y digwyddiad oherwydd mae'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno ganddynt yn pennu ymateb y gwasanaethau brys. Mae'r garden yn dilyn set debyg o gwestiynau i'r rhai sy'n cael eu gofyn yn gyffredinol gan ganolfannau rheoli y gwasanaeth ambiwlans ac yn canolbwyntio ar ddiogelwch, lleoliad y ddamwain a pha mor ddifrifol yw hi.

Ar ochr arall y garden mae'r wybodaeth sy'n cael ei defnyddio gan y gwasanaeth ambiwlans a'r ysbyty gan gynnwys lle i nodi unrhyw feddyginiaethau y mae'r beiciwr modur ag alergedd iddynt, hanes meddygol cyfredol a manylion unrhyw feddyginiaethau maent yn eu cymryd ar hyn o bryd. Yn bwysicach na dim, mae hefyd lle ar y garden i nodi enw a rhif ffôn cyswllt y perthynas agosaf. Mae nifer o ffonau y dyddiau hyn yn gofyn am gôd pin er mwyn cael mynediad at unrhyw wybodaeth, sy'n golygu nad oes modd cael gafael ar unrhyw rifau ffôn ICE sydd wedi'u storio.

Caiff y garden ei gosod yn leinin yr helmed ddamwain oherwydd dyna'r man y bydd y gwasanaethau brys yn chwilio amdani. Yn ogystal, dylid gludo smotyn gwyrdd ar ochr dde yr helmed/sgrin. Mae'r glud wedi cael ei brofi'n drylwyr er mwyn sicrhau bod modd ei ddefnyddio'n ddiogel.

Sut ydw i'n cael Carden CRASH am ddim?

Gallwch wneud cais am Garden CRASH drwy e-bost a darparu eich manylion cyswllt. Ar ôl i ni dderbyn eich cais, byddwn ni'n postio eich Carden CRASH allan ymhen pythefnos.

Gwneud cais am Garden CRASH

 

Teithio, Ffyrdd a Pharcio