Biker Down! Cymru
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/07/2025
Gan fod beicwyr modur yn dueddol o yrru mewn grwpiau neu barau, pan fydd un wedi cael damwain, beiciwr modur arall fel arfer fydd y cyntaf yno. Nod 'Biker Down!' yw lleihau nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ffyrdd, a chaiff y cynllun ei weithredu gan Ddiffoddwyr Tân Gweithredol / Tîm Beiciau Modur Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae’r cwrs yn cynnwys tri modiwl:
- Rheoli Lleoliad Damwain
- Cymorth Cyntaf
- Y Wyddoniaeth o Gael eich Gweld
Bydd y cwrs yn rhoi gwell dealltwriaeth i’r cyfranogwyr o beth i’w wneud os ydynt yn gweld damwain traffig ar y ffordd a sut i reoli’r sefyllfa yn ddiogel.
Beth yw pris y cwrs?
Diolch i Grant Diogelwch Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru, mae’r cwrs ar gael AM DDIM. Ar ôl cwblhau’r cwrs, caiff y cyfranogwyr pecyn cymorth cyntaf am ddim.
Pryd mae’r cwrs ar gael
- Dydd Mercher 30 Gorffennaf 2025, am 6:30pm, Gorsaf Dan Rhydaman
- Dydd Sul 31 Awst 2025, am 1:30pm, Un1t 7, Llanelli