Hyfforddiant Beicio Oedolion

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/02/2024

Mae beicio yn cynnig cymaint o fanteision - yn gymdeithasol, iechyd, arbed arian, heb sôn am yr effaith gadarnhaol ar draffig a'r amgylchedd wrth deithio i’r gwaith.

Efallai nad ydych mor hyderus o ran beicio ar y ffyrdd, felly beth am roi cynnig ar hyfforddiant beicio.

A hoffech chi wella eich sgiliau ar y ffyrdd?  Os felly, gallwch archebu sesiwn hyfforddi 1:1 yn rhad ac am ddim gydag un o'n hyfforddwyr cymwysedig. (Rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn i gymryd rhan yn y cwrs

Mae'r sesiynau’n hyblyg. Gellir eu trefnu ar adeg a lle cyfleus sy'n addas i chi ac mae ar gael i feicwyr sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, os ydych yn hyderus yn eich gallu i reoli beic e.e., llywio, brecio, rhoi signalau.

Bydd y cwrs yn -

  • Eich helpu i feicio’n ddiogel mewn unrhyw amgylchiadau – megis eich safle ar y ffordd, rhoi signalau ac ymwybyddiaeth o'r ffordd.
  • Eich helpu i ddatblygu strategaethau uwch ar gyfer ffyrdd trefol.
  • Hybu eich hyder a gwella'r mwynhad o feicio.

Sut mae'n gweithio

  • Rydym yn trefnu taith feicio gyda chi am 1-2 awr a chi fydd yn dewis y daith.
  • Yn aml mae pobl am gael help i gynllunio, yna rhoi cynnig ar deithio i'r gwaith ac yn ôl, neu yn syml teithio i'r siopau, meddyg ac ati.
  • Mae'r sesiwn yn cynnwys amser ar y dechrau a'r diwedd i siarad am y daith.
  • Mae'n RHAD AC AM DDIM yn Sir Gaerfyrddin, ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael!

Archebwch le ar gwrs

Mae gennym ddetholiad o e-Feiciau o wahanol feintiau ar gael i'r rhai a hoffai gymryd rhan yn ein cwrs beicio ar y ffordd am ddim i oedolion.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio