Cyngor Diogelwch Ffyrdd

Diweddarwyd y dudalen ar: 20/02/2024

Mae'r Tîm Diogelwch Ffyrdd yn hybu ymgyrchoedd lleol, cenedlaethol a Chymru gyfan. Rydym yn cefnogi ymgyrchoedd megis y rheiny sy'n targedu defnyddio ffonau symudol, peidio â gwisgo gwregysau diogelwch, diogelwch ffyrdd ar gyfer plant, Cerdded i'r Ysgol, goryrru, gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, a llawer mwy.

Os ydych yn bwriadu yfed, peidiwch â mentro gyrru - trefnwch dacsi, defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus, arhoswch dros nos, trefnwch bod rhywun sydd ddim yn yfed yn gyrru.

Gall unrhyw faint o alcohol effeithio ar eich gallu i yrru'n ddiogel trwy amharu ar yr amser mae'n ei gymryd i chi ymateb a'ch gallu i fesur pellter a chyflymder. Yr unig lefel diogel sicr yw dim alcohol.

Y ffactorau sy'n effeithio ar eich gallu i amsugno alcohol:

  • Eich pwysau
  • Eich rhyw
  • Eich oedran
  • Eich metaboledd
  • Eich lefelau straen
  • Yr hyn yr ydych wedi ei fwyta
  • Faint o alcohol a'i fath

Ar hyn o bryd, y terfyn cyfreithiol ar gyfer gyrru o dan ddylanwad alcohol yng Nghymru yw 80mg o alcohol i 100ml o waed.

Yr unig opsiwn diogel yw peidio ag yfed os ydych yn bwriadu gyrru a pheidio â chynnig diodydd i'r rheiny sy'n gyrru.

Mae'n drosedd bellach i yrru â lefel benodedig o gyffuriau penodol yn eich gwaed. Mae hyn yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon megis cocên, ecstasi, heroin a chanabis yn ogystal â rhai cyffuriau sydd ar gael ar bresgripsiwn megis cyffuriau sydd wedi'u seilio ar forffin neu opiad e.e. codeine, diazepam, temazepam.

Mae'r cosbau ar gyfer gyrru o dan ddylanwad cyffuriau yr un peth â'r rhai ar gyfer yfed a gyrru. Os cewch eich dyfarnu'n euog gallwch ddisgwyl:

  • cael eich gwahardd rhag gyrru am o leiaf blwyddyn
  • cael cofnod troseddol
  • cael dirwy heb gyfyngiad
  • hyd at 6 mis yn y carchar
  • cael ardystiad ar eich trwydded yrru am 11 mlynedd

Mae ffôn symudol yn ddyfais werthfawr iawn mewn argyfwng, yn ogystal â gwneud i bobl deimlo'n fwy diogel mewn ardaloedd anghysbell ac ati.

Er eu bod yn werthfawr, gall defnyddio ffonau symudol wrth yrru fod yn gyfuniad marwol o bosibl.

Y gosb ar gyfer defnyddio ffôn symudol yn eich llaw wrth yrru yw £200 a chael chwe phwynt cosb ar eich trwydded yrru.

Mae'r gyfraith yn berthnasol pan fyddwch yn aros wrth oleuadau traffig neu'n llonydd mewn traffig, wrth dderbyn neu wneud galwadau, wrth anfon neu dderbyn lluniau a negeseuon testun ac wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Yn ogystal gall gyrrwr gael ei erlyn am ddefnyddio dyfais lawrydd os nad oes ganddo reolaeth briodol ar ei gerbyd wrth ddefnyddio'r ddyfais. Yr un yw'r cosbau - dirwy o £100 a thri phwynt cosb ar eich trwydded yrru.

Oeddech chi'n gwybod, os nad ydych chi'n gwisgo gwregys ac rydych chi'n cael damwain, gallech anafu eich hun yn ddifrifol a phobl eraill yn y cerbyd?

Y gosb ar gyfer peidio â gwisgo gwregys yw dirwy benodedig o £100.

Cyfrifoldeb y gyrrwr yw sicrhau bod pob teithiwr o dan 14 oed yn defnyddio gwregys priodol ar gyfer eu hoedran, eu pwysau a'u taldra.

Mae gyrru dros y terfyn cyflymder yn erbyn y gyfraith. Y gosb leiaf ar gyfer goryrru yw dirwy o £100 a thri phwynt cosb ar eich trwydded yrru.

Os oes gennych eisoes nifer penodol o bwyntiau ar eich trwydded yrru, ni fyddwch yn cael dirwy a byddwch yn gorfod mynd i'r llys.

Y terfyn cyflymder yw'r uchafswm llwyr ac nid yw'n golygu ei bod o reidrwydd yn ddiogel gyrru ar y cyflymder hwn heb ystyried yr amodau.

Caiff Hebryngwyr Ysgol eu cyflogi yn bennaf er mwyn helpu plant i groesi’r ffordd yn ddiogel ar eu ffordd i’r ysgol ac ar eu ffordd adref o’r ysgol. Pan fo hebryngydd ysgol yn arddangos yr arwydd stop, mae’n rhaid i fodurwyr stopio. Os nad ydynt yn stopio, maent yn torri’r gyfraith a rhoddir gwybod i’r heddlu amdanynt. Gallant wynebu dirwy o £1,000 a 3 phwynt cosb ar eu trwydded.

Mae gan Hebryngwyr Ysgol yr hawl i stopio traffig i unrhyw un sy’n dymuno croesi’r ffordd cyhyd â’u bod yn gweithredu yn eu safle awdurdodedig ac o fewn eu horiau gwaith awdurdodedig. Hyd yn oed lle darperir Hebryngydd Ysgol, bydd y rhieni’n parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau diogelwch eu plentyn.

Os ydych yn gwybod bod Hebryngydd Ysgol yn gweithio gerllaw, rhowch bob ystyriaeth a chymorth iddo/iddi drwy wneud y canlynol:

  • Parcio’n ddigon pell oddi wrthynt (mae angen iddynt weld ac mae angen i eraill eu gweld nhw).
  • Arafu a bod yn barod i STOPIO!
  • Dilyn eu cyfarwyddiadau pan fyddwch yn cael cyfarwyddyd i STOPIO!
  • Rhoi amser iddynt groesi’r plant yn ddiogel a dychwelyd i’r pafin.

A wyddech chi...

  • Yr arwydd ben i waered – ddim yn barod i groesi’r plant.
  • Yr arwydd ar ei ochr – rhwystr i atal plant rhag croesi.
  • Yr arwydd yn cael ei ddal yn uchel – yn barod i groesi’r plant. Mae’n rhaid i gerbydau fod yn barod i STOPIO!
  • Yr arwydd yn cael ei ymestyn allan – rhaid i bob cerbyd STOPIO!

Gyda’ch cymorth a’ch ystyriaeth chi, bydd y problemau y mae’r plant yn eu hwynebu wrth gyrraedd a gadael yr ysgol yn llai o dipyn.

Gall amodau gyrru yn ystod misoedd y gaeaf fod yn anrhagweladwy a gall y tywydd droi'n wael yn gyflym. Y cyngor gorau ar gyfer tywydd garw yw cadw oddi ar y ffordd. Os oes rhaid i chi yrru, gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi ar gyfer yr amodau.

Yn ystod misoedd y gaeaf, mae'n rhaid i yrwyr a beicwyr ddelio â mwy o lifogydd yn ogystal â rhew, eirlaw, eira, gwyntoedd rhewllyd, ffyrdd rhewllyd, niwl ac, fel arfer, cloeau sydd wedi rhewi a cherbydau sy'n gwrthod tanio.

Un o'r prif bethau sy'n achosi damweiniau yn ystod y gaeaf yw gyrru gwael, nid y tywydd. Rheswm arall dros rwystredigaeth ac oedi diangen yw peidio â pharatoi eich cerbyd a gwneud yn siŵr ei fod yn barod yn fecanyddol ar gyfer y gaeaf.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio