Rhoi gwybod am anifail sydd wedi marw ar y ffordd

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/06/2020

Rydym ni'n gyfrifol am waredu anifeiliaid sydd wedi marw (anifeiliaid gwyllt a domestig) o ardaloedd a ffyrdd cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cynnwys cathod, cŵn, moch daear, llwynogod ac anifeiliaid mwy, fel ceirw. Byddant yn cael eu symud cyn pen 72 awr ar ôl cael gwybod amdanynt.

Fel rheol, dim ond y gwasanaeth sgubo strydoedd arferol fyddai’n ymdrin ag anifeiliaid llai, megis gwiwerod a chwningod sydd wedi marw.

Mae angen y manylion canlynol arnom:

  • lleoliad (e.e. cyfeiriad cyfagos/gerllaw) yr anifail sydd wedi marw;
  • manylion byr am yr anifail, e.e. pa anifail ydyw, ei liw, ei faint; ac
  • yr amser y gwelsoch yr anifail.

Os dewch o hyd i anifail sydd wedi’i anafu ond sydd dal yn fyw ar y briffordd, ffoniwch yr RSPCA 0300 1234 999. Gallwch hefyd rhoi gwybod i ni am gi sy'n crwydro neu ar goll.

Rhoi gwybod am anifail sydd wedi marw ar y ffordd Rhoi gwybod am gi sy'n crwydro

Teithio, Ffyrdd a Pharcio