Terfynau Cyflymder 20mya

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth 23 Ebrill 2024 yn amlinellu ei chynlluniau ar gyfer terfynau cyflymder 20mya, rydym yn derbyn awgrymiadau ynghylch pa ffyrdd y credwch y dylid eu heithrio o'r terfyn cyflymder cenedlaethol 20mya yng Nghymru.

Gofynnir i chi lenwi'r arolwg isod neu anfon e-bost atom (cyfryngaucyflymder20mya@sirgar.gov.uk) gan nodi eich awgrymiadau (ynghyd â rhesymau dilys) ynghylch pam y dylid eithrio ffordd o'r terfyn cyflymder cenedlaethol 20mya yng Nghymru a byddwn yn cofnodi eich adborth ac yn ei adolygu pan fydd canllawiau eithriadau newydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn disgwyl derbyn y canllawiau hyn erbyn yr haf.  Yn y cyfamser, byddem hefyd yn ddiolchgar o gael eich cyfeiriad post i'n cynorthwyo yn y broses adolygu.

Ni fyddwn yn gallu cofnodi unrhyw sylwadau cyffredinol am y Polisi Cenedlaethol 20mya, gan mai mater i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yw hynny.

Os yw eich adborth yn ymwneud â chefnffordd, nid Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am y rhain, felly anfonwch e-bost at TrunkRoads20mph@gov.wales.

Mae rhagor o wybodaeth am gefnffyrdd ar gael ar Fap Data Cymru.

Os ydych chi'n cefnogi 20mya ar ffordd lle rydych chi'n byw, hoffem glywed gennych chi hefyd. Ebost: terfynaucyflymder20mya@sirgar.gov.uk

Byddwn yn derbyn awgrymiadau tan ddiwedd mis Gorffennaf.

Dweud eich dweud

Rhoi Gwybod am Bryderon ynghylch Goryrru 

Yr Heddlu a Gan Bwyll sy'n gyfrifol am y rôl o orfodi'r terfyn cyflymder presennol yn hytrach na'r Cyngor Sir, gan nad oes gennym unrhyw bwerau gorfodi yn hyn o beth. Gallwch roi gwybod i Gan Bwyll yn uniongyrchol am eich pryder ynghylch goryrru yn y gymuned, ac fe wnawn nhw ymchwilio i'r mater.

Adrodd pryder cymunedol

Gallwch ddysgu mwy am sut mae'r Heddlu a Gan Bwyll yn gorfodi'r terfyn 20mya yma:

GanBwyll - 20mya  

Teithio, Ffyrdd a Pharcio