Cwrs ar gyfer Gyrwyr Hŷn

Diweddarwyd y dudalen ar: 18/04/2024

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y 'Cwrs ar gyfer Gyrwyr Hŷn,' mae'n bleser gan yr Uned Diogelwch Ffyrdd ddarparu mwy o sesiynau ymwybyddiaeth.  Rydym am ichi barhau i allu mynd a dod fel y mynnoch, bod yn annibynnol a bod yn hyderus wrth y llyw.

Beth am fanteisio ar y sesiwn anffurfiol a hamddenol hwn sy'n para diwrnod yng nghwmni  Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy hollol gymwys?

Nid oes angen ichi ddod â'ch car i gael budd o'r sesiwn hwn – fe ddarparwn ni'r ceir.  

Roedd cyfranogwyr yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddod i sesiynau ymarferol a theori a dyma beth ddywedodd rai ohonynt:

“Rwyf wedi ailddysgu llawer o bethau y dylwn i fod wedi gwybod ond rwyf wedi eu hanghofio dros y blynyddoedd”

“Gwnaeth hyn wir helpu fy hyder; dylai pawb wneud y cwrs hwn - diolch i bawb”

“Gallaf i yrru o amgylch cylchfan Morrisons yn hyderus nawr."

Hanes y cwrs?

  • Eich helpu chi i yrru'n fwy diogel am gyfnod hirach
  • Y broses o fynd yn hŷn a gyrru'n ddiogel
  • Mynd i'r afael â'ch pryderon personol ynghylch eich gyrru nawr ac yn y dyfodol
  • Nodi arferion gyrru gwael. Efallai eich bod wedi dysgu rhai dros y blynyddoedd!
  • Diweddariadau i Reolau'r Ffordd Fawr

Nid yw'r cwrs yn:

  • Profi eich sgiliau gyrru
  • Asesiad ffurfiol o'ch gyrru

Beth yw cost y cwrs?

Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i bobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin.

Pryd mae’r cwrs ar gael

  • Dydd Llun 13 Mai 2024, 10am - 12:30pm, Parc Myrddin, Caerfyrddin
  • Dydd Iau 12 Medi 2024, 10am - 12:30pm, Neuadd y Dref Llanelli

GWNEWCH GAIS AM LE AR CWRS AR GYFER GYRWYR HŶN 

Teithio, Ffyrdd a Pharcio