Hysbysiadau Tâl Cosb

Diweddarwyd y dudalen ar: 10/10/2023

Mae Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor yn mynd ar batrôl o amgylch y dref i atal gyrwyr rhag cyflawni tramgwyddau parcio ac i gadw Sir Gaerfyrddin yn symud.

Mae yna hefyd Gerbyd Gorfodi Parcio. Mae'r cerbyd gorfodi parcio wedi'i nodi'n glir. Mae ganddo gamera a thechnoleg adnabod platiau rhif yn awtomatig (ANPR) i ddal unrhyw drosedd parcio.

Bydd unrhyw gerbydau y canfyddir eu bod wedi cael eu parcio yn groes i reoliadau parcio Sir Gaerfyrddin yn cael Hysbysiad Tâl Cosb (HTC).

Y gosb fydd naill ai £50.00 neu £70.00 yn dibynnu ar y math o drosedd. Bydd hyn yn cael ei leihau 50% os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod.

Os byddwch yn derbyn HTC yna mae'n rhaid i chi benderfynu a ydych am dalu’r gosb ynteu apelio.

Os byddwch yn anwybyddu'r HTC yna bydd y gosb yn cynyddu a bydd y Cyngor yn gwneud cais i gofrestru'r swm sy'n weddill gyda'r Ganolfan Gorfodi Traffig fel dyled, fydd wedyn yn mynd yn adenilladwy fel pe bai'n daladwy dan orchymyn llys sirol. Bydd hyn yn achosi costau cyfreithiol pellach.

Talu dirwy parcio Gwrthwynebu dirwy parcio

Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael dirwy barcio yn anghywir ac yn dymuno herio, bydd arnoch angen:

  • Rhif yr Hysbysiad Tâl Cosb
  • Rhif Cofrestru’r Cerbyd
  • Cyfeiriad E-bost/Cartref

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried unrhyw her anffurfiol yn erbyn cosb parcio o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y tramgwydd. Os derbynnir her anffurfiol ar ôl 28 diwrnod, efallai na fydd yn cael ei hystyried.

Cofiwch, er mwyn herio'ch Hysbysiad Tâl Cosb, rhaid i chi wneud hynny'n ysgrifenedig, drwy ein porth heriau ar-lein neu drwy'r post. Fel arall, gallwch herio drwy ein e-bost Parking@sirgar.gov.uk. Ni fydd her yn cael ei hystyried dros y ffôn.

Peidiwch â thalu os ydych yn bwriadu herio'r HTC. Ni fydd y gosb yn cynyddu tra caiff eich her ei hadolygu.

Unwaith y byddwn wedi cydnabod derbyn eich her, bydd yr achos yn cael ei ohirio wrth ddisgwyl am benderfyniad gan swyddog achos, a gaiff ei anfon atoch fel arfer o fewn 4-12 wythnos. Peidiwch â chysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwn.

Os bydd eich her anffurfiol yn aflwyddiannus, neu os na fyddwch yn ymateb i'ch Hysbysiad Tâl Cosb o fewn 28 diwrnod, byddwn yn rhoi 'Hysbysiad i Berchennog'. Bydd yn esbonio sut i dalu neu wneud her ffurfiol.

Os byddwch yn dymuno herio ar yr adeg yma, cewch gyflwyno achos ar-lein. Argymhellir eich bod yn darparu tystiolaeth ategol bellach i gefnogi eich apêl neu efallai mai’r un canlyniad a gewch.

Mae perchennog y cerbyd yn parhau i fod yn atebol hyd yn oed os nad oedd yn gyrru ar adeg y tramgwydd. Os ydych wedi gwerthu eich cerbyd bydd angen i chi roi gwybod i'r DVLA a herio'ch HTC. Bydd angen i chi gadarnhau i bwy y gwerthwyd y cerbyd (enw a chyfeiriad) a phryd. Byddai unrhyw dystiolaeth ategol y gellwch ei darparu o fudd i'r her/apêl.

Mae'n cymryd 24 awr i fanylion y ddirwy ymddangos ar ein system barcio. Ar ôl i'r 24 awr fynd heibio, byddwch yn gallu herio neu dalu’r ddirwy ar-lein.

Cewch dalu eich dirwy barcio (Hysbysiad Tâl Cosb):

  • Trwy ein Gwasanaeth ar-lein
  • Drwy'r Post – I sylw’r Gwasanaethau Parcio, Cyngor Sir Caerfyrddin, Blwch Post 90, Caerfyrddin, SA31 3WR
  • Trwy ymweld â'ch hwb lleol

I dalu dirwy barcio bydd angen:

  • Rhif yr Hysbysiad Tâl Cosb (edrychwch am y rhif HTC ar y tocyn)
  • Rhif cofrestru eich cerbyd
  • Cerdyn debyd neu gredyd dilys

Caiff y tâl cosb ei ostwng drwy ddisgownt o 50% os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod. Mae'r cyfnod o 14 diwrnod yn dechrau ar y dyddiad y cyflwynwyd yr Hysbysiad Tâl Cosb.

Os na allwch dalu eich dirwy barcio mewn un taliad, e-bostiwch parcio@sirgar.gov.uk i ofyn am cynllun talu am swm fforddiadwy i chi. Cofiwch gynnwys:

  • Rhif yr Hysbysiad Tâl Cosb
  • Cofrestriad Eich Cerbyd
  • Cyfeiriad e-bost/cartref
  • Y swm yr hoffech ei dalu dros gyfnod o amser (e.e. £10 y mis am 5 mis) a dyddiad dechrau
  • Y dull talu y dymunwch, naill ai archeb sefydlog, trosglwyddiad uniongyrchol neu daliadau ffôn

Unwaith y byddwn wedi cydnabod derbyn eich cais bydd yr achos yn cael ei ohirio a byddwch yn derbyn ymateb. Rhaid i chi wedyn drefnu archeb sefydlog gyda'ch banc. Os methwch â gwneud y taliadau y cytunwyd arnynt bydd y gosb yn cynyddu.

Isod mae rhestr o rai o'r Cyfyngiadau Parcio a beth maen nhw'n ei olygu, i'ch atal rhag derbyn dirwy.

01 –Llinellau Melyn Dwbl - Parcio mewn stryd gyfyngedig yn ystod oriau penodedig

  • Cewch stopio tra bydd teithwyr yn mynd i mewn neu allan o'r cerbyd, ond ni ddylid gadael y cerbyd heb neb i ofalu amdano.
  • Cewch ddadlwytho a llwytho os gwelir yn gyson bod llwytho neu ddadlwytho'n digwydd.
  • Caiff deiliaid bathodyn glas barcio am hyd at dair awr, heb ddychwelyd o fewn awr, gyda bathodyn glas dilys wedi'i arddangos yn glir a’r cloc amser wedi'i osod yn gywir (cyfeiriwch at y llyfryn).
  • Does dim angen arwydd ar gyfer y cyfyngiad.
  • Mae’r llinellau melyn hefyd yn berthnasol i'r palmant neu'r briffordd neu ymyl.
  • Dim aros ar unrhyw adeg.

Llinellau Melyn Sengl

  • Y tu allan i'r amseroedd hyn nid yw cyfyngiad y llinell felen yn berthnasol.
  • Yn ystod amseroedd gweithredu fel y dangosir ar y plât amser, mae'r marciau hyn yn gweithredu fel llinellau melyn dwbl.

02 / 02J – Wedi Parcio ar Gyfyngiad Llwytho – Parcio neu lwytho/dadlwytho mewn stryd gyfyngedig lle mae cyfyngiadau aros a llwytho/dadlwytho mewn grym

Cyfyngiadau llwytho:

  • Caiff cerbydau stopio tra bydd teithwyr yn mynd i mewn neu allan o'r cerbyd, ond dim aros a rhaid i'r gyrrwr aros yn y cerbyd.
  • Nid oes angen amser arsylwi i orfodi'r tramgwydd hwn.
  • Mae llinellau melyn (blipiau) ar ymyl y palmant neu ar ymyl y ffordd gerbydau yn dangos bod cyfyngiad llwytho.
  • Mae un blip ar ymyl y palmant yn golygu dim llwytho rhwng yr amseroedd a nodir ar y plât amser (plât gwyn - gall amseroedd amrywio a rhaid edrych ar y plât amser).
  • Mae blipiau melyn dwbl ar ymyl y palmant yn golygu dim llwytho na dadlwytho ar unrhyw adeg.
  • Ni chaiff deiliaid bathodyn glas barcio ar gyfyngiad llwytho.
  • Efallai y gorfodir y cyfyngiad hwn drwy gamera ac felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen ond bydd yn cael ei anfon yn y post yn lle hynny.

11– Parcio heb dalu’r tâl parcio

  • Rhaid i docynnau Talu ac Arddangos gael eu harddangos yn glir ar y dangosfwrdd neu daliad a wneir drwy'r ap 'Mipermit' neu'r wefan.
  • Rhaid i docynnau gael eu gosod y ffordd gywir i fyny a dangos manylion cofrestru’r cerbyd cywir.
  • Rhoddir Hysbysiad Tâl Cosb os yw cerbyd yn cael ei barcio mewn man parcio heb arddangos tocyn neu hawlen ddilys neu daliad heb ei wneud.

12 – Parcio mewn Man Parcio i Breswylwyr heb hawlen – Parcio mewn man parcio i breswylwyr, neu ddefnydd a rennir, heb arddangos yn glir naill ai hawlen neu Fathodyn Glas dilys i’r Anabl.

  • Cewch barcio i ddibenion llwytho a dadlwytho. Rhaid i lwytho a dadlwytho'n barhaus ddigwydd a rhaid i swyddog arsylwi arno, yna rhaid symud y cerbyd i fan parcio anghyfyngedig.
  • Ni ddylech barcio mewn man parcio i breswylwyr yn ystod ei gyfnod gweithredu heb hawlen ddilys neu fathodyn glas i'r anabl sy'n cael ei arddangos yn glir. Bydd y cyfnod gweithredu yn cael ei ddangos ar yr arwydd cyfagos.

22 – Dychwelyd i fan parcio aros cyfyngedig o fewn yr amseroedd rhagnodedig – Parcio yn yr un man neu barth parcio o fewn awr (neu amser penodedig arall) i adael

  • Caiff deiliaid bathodyn glas barcio’n hwy na’r amser a ddangosir ar yr arwyddion gyda bathodyn glas wedi ei arddangos yn glir, oni fydd yn arwyddion yn datgan yn wahanol. Ond unwaith y caiff y cerbyd ei symud, yna bydd y rheol ‘dim dychwelyd’ yn berthnasol.
  • Mae’r wybodaeth ‘dim dychwelyd’ wedi ei harddangos ar yr arwydd. Mae hyn yn golygu nad oes caniatâd i chi ddychwelyd i’r man parcio aros cyfyngedig o fewn yr amser a ddangosir. Bydd swyddogion gorfodi parcio yn cofnodi pob cerbyd sydd wedi ei barcio mewn man parcio aros cyfyngedig er mwyn sicrhau nad yw yn goraros nac yn dychwelyd i’r man parcio o fewn yr amserlen benodedig.

25 – Parcio mewn man llwytho yn ystod oriau cyfyngedig heb lwytho

Mannau llwytho:

  • Ni chewch wneud dim ond llwytho a dadlwytho yn y mannau hyn ac unwaith y byddwch wedi cwblhau rhaid i chi symud eich cerbyd o’r man llwytho. Efallai y rhoddir Hysbysiad Tâl Cosb os bydd swyddog yn sylwi nad oes llwytho na dadlwytho’n digwydd.
  • Mannau a ddynodir ‘llwytho yn unig’ neu ‘man llwytho’.
  • Efallai y bydd y mannau hyn wedi eu cyfyngu i fathau arbennig o gerbydau, megis cerbydau nwyddau.
  • Os nad oes amseroedd wedi eu nodi, yna mae’r man yn weithredol drwy’r amser.

27 – Parcio yn ymyl troedffordd isel

  • Nid oes angen amser arsylwi.
  • Rhoddir Hysbysiad Tâl Cosb pan fydd cerbyd wedi ei barcio yn rhannol neu’n llawn ar draws cwrb isel.
  • Gall parcio wrth ochr cwrb isel ac yn y blaen achosi anghyfleustra sylweddol a gosod defnyddwyr ffordd, agored i niwed, mewn perygl difrifol. Gall parcio wrth gwrb isel wrth fynediad i adeilad achosi niwsans sylweddol i yrwyr sydd eisiau mynd i mewn neu adael y safle.
  • Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn cynghori gyrwyr “PEIDIWCH AG AROS NA PHARCIO ….lle mae’r cwrb yn isel er mwyn cynorthwyo defnyddwyr cadeiriau olwyn a cherbydau symudedd peiriannol neu lle y byddai’n rhwystro beicwyr rhag defnyddio cyfleusterau beicio...ac eithrio pan gewch eich gorfodi gan draffig llonydd”.

40 – Parcio mewn man a ddynodwyd ar gyfer person anabl heb arddangos bathodyn person anabl dilys yn glir

  • Pan fyddwch yn parcio mewn man sydd ar gyfer deiliaid bathodyn anabledd yn unig rhaid arddangos bathodyn glas dilys yn glir ac yn gywir bob amser.
  • Nid oes angen amser arsylwi i orfodi'r tramgwydd hwn.
  • Rhaid i chi beidio â pharcio mewn mannau parcio sydd wedi eu neilltuo ar gyfer defnyddwyr penodedig megis deiliaid bathodyn glas os nad oes gennych hawl i wneud hynny.

45 / 45J – Parcio mewn Safle Tacsis

  • Nid oes angen amser arsylwi i orfodi'r tramgwydd hwn.
  • Rhaid i chi beidio â pharcio mewn safle tacsis yn ystod ei amser gweithredu. Dangosir y cyfnod gweithredu ar yr arwyddion gerllaw. Os nad oes amseroedd ar yr arwyddion yna mae’r safle tacsis yn weithredol drwy’r amser.
  • Efallai y gorfodir y cyfyngiad hwn drwy gamera ac felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen ond bydd yn cael ei anfon yn y post yn lle hynny.

47 / 47J – Aros mewn arosfan neu safle bws cyfyngedig

  • Rhaid i fysiau beidio â defnyddio arosfan bws i ddim ond i ganiatáu i deithwyr ddod i mewn neu allan. Fodd bynnag, caniateir iddynt aros yn hwy er mwyn cadw at amserlen neu i newid gyrwyr.
  • Nid oes angen amser arsylwi i orfodi'r cyfyngiad hwn.
  • Ni chaniateir i gerbyd aros mewn arosfan/safle bws ond Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus; nid yw hyn yn cynnwys tacsis.
  • Efallai y gorfodir y cyfyngiad hwn drwy gamera ac felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen ond bydd yn cael ei anfon yn y post yn lle hynny.

48 / 48J – Aros ar Farciau Igam-Ogam Ysgol

Marciau igam-ogam melyn:

  • Nid oes angen amser arsylwi i orfodi'r tramgwydd hwn.
  • Pan fydd y marciau hyn y tu allan i ysgol byddant yn dynodi’r rhan o’r ffordd lle na ddylech aros, dim hyd yn oed i godi neu ollwng eich plant neu deithwyr eraill.
  • Lle bydd arwydd wedi ei osod i fyny, mae aros yn cael ei wahardd yn ystod yr amseroedd a ddangosir.
  • Gosodir y marciau hyn y tu allan i ysgolion er mwyn sicrhau bod plant yn gweld ac yn cael eu gweld yn glir pan fyddant yn croesi’r ffordd.
  • Efallai y gorfodir y cyfyngiad hwn drwy gamera ac felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen ond bydd yn cael ei anfon yn y post yn lle hynny.
  • Maent yn dal yn berthnasol yn ystod gwyliau’r ysgol oni ddangosir fel arall.


Yr Heddlu sy’n gyfrifol am y canlynol:

  • Rhwystrau ar y briffordd
  • Cyrbau isel (cerbydau’n croesi) a lle mae rhwystrau’n broblem
  • Parcio ar y palmant

Yr Heddlu yw’r unig awdurdod sydd â’r grym i symud cerbyd sy’n achosi rhwystr.

Rhoi gwybod am boblem i'r heddlu 

 

Teithio, Ffyrdd a Pharcio