Dragon Rider Cymru
Mae Dragon Rider Cymru yn gwrs hyfforddiant i reidwyr beiciau modur, sy'n cael ei gefnogi gan Gynllun Gwell Beiciwr yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau a chan Thunder Road Motorcycles o Dde Cymru.
Mae Timau Diogelwch Ffyrdd Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Sir Benfro wedi gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r cwrs sgiliau gwell beiciwr hwn, a roddir ar waith gan hyfforddwyr beiciau modur cymwys a phrofiadol sydd wedi'u hachredu gan Gofrestr yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau o hyfforddwyr gyrwyr beiciau modur sydd wedi llwyddo yn eu prawf gyrru. Hefyd mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi'r fenter.
Cynhelir y cyrsiau ar y penwythnos ac maent yn para am ddiwrnod. Bydd y cwrs yn cynnwys sesiwn bore mewn ystafell ddosbarth, a fydd yn cael ei gynnal mewn gorsafoedd tân ac achub dynodedig yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Rhydaman a Hwlffordd. Yn y prynhawn bydd y sesiwn yn digwydd ar amrywiaeth o ffyrdd drwy'r Sir ac mewn siroedd cyfagos er mwyn diwallu anghenion hyfforddiant beiciau modur reidwyr unigol, ar sail llawlyfr gyrru'r Heddlu, Roadcraft.
Anogir reidwyr sydd wedi cwblhau'r cwrs Beiciwr Diogel i ddod â chopïau o'u ffurflenni asesu ar gyfer sesiwn y prynhawn. Ar y ffordd bydd un hyfforddwr yn gyfrifol am ddau reidiwr ar y mwyaf. Caiff yr hyfforddiant ei addasu i ddiwallu anghenion unigol y reidiwr.
Ar ddiwedd y dydd bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cael tystysgrif cymhwysedd a gydnabyddir gan amrywiaeth eang o gwmnïau yswiriant ac a allai olygu gostyngiad.
Faint mae'r cwrs yn ei gostio?
Mae'r cwrs yn RHAD AC AM DDIM i bobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro oherwydd cyllid drwy Grant Diogelwch Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru
Gallwch wneud cais ar-lein a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi i gadarnhau eich dewis ddyddiad cyn pen 5 diwrnod gwaith.
Dyddiadau Cwrs
- 9fed Chwefror 2020, 9am yng Ngorsaf Dân Caerfyrddin
- 8fed Mawrth 2020, 9am yng Ngorsaf Dân Llanelli
Teithio, Ffyrdd a Pharcio
Ymgeisio am...
- Gau ffordd o ganlyniad waith brys
- Cau ffordd ar gyfer gwaith sydd wedi'i gynllunio
- Hysbysu am gwaith yn y ffyrdd
- Ymgeisio am addurniadau tymhorol ar/uwchben y briffordd
- Arwyddion rhybuddio marchogaeth
- Arwyddion traffig cludadwy
- Arwyddion twristiaeth brown
- Marciau i warchod mynediad preifat (Bar H)
- Mynediad i lleoedd parcio i'r anabl
- Mynediad i gerbydau i dramwyfeydd (cyrbau isel)
- Ganiatâd i wneud gwaith insiwleiddio allanol dros briffordd
- Cynllun parcio i breswylwyr
- Tystysgrif hepgor gollyngiad
Beicio modur
- Dillad a Helmed Beicio Modur
- Hyfforddiant Beic Modur
- Biker Down! Cymru
- Dragon Rider Cymru
- Carden CRASH Beiciau Modur
Ceir Cefn Gwlad
Ceir trydan - Pwyntiau gwefru
Diogelwch ffyrdd
Mwy ynghylch Teithio, Ffyrdd a Pharcio