Cofrestru fel Pleidleisiwr Tramor (dinesydd y DU sy'n byw dramor)

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/03/2024

Os ydych chi'n ddinesydd Prydeinig sy'n byw dramor, gallwch wneud cais i fod yn bleidleisiwr tramor.

Os ydych chi'n ddinesydd y DU sy'n byw dramor, gallwch wneud cais i fod yn bleidleisiwr tramor os ydych chi wedi'ch cofrestru i bleidleisio yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. (Bydd y terfyn 15 mlynedd hwn yn cael ei ddileu yn ystod 2024, er mwyn galluogi "pleidleisiau am oes").

Os ydych chi’n ddinesydd y DU ac os oeddech yn rhy ifanc i gofrestru pan wnaethoch adael y DU, gallwch gofrestru fel pleidleisiwr tramor o hyd. Gallwch wneud hyn os oedd eich rhiant neu warcheidwad wedi'i gofrestru i bleidleisio yn y DU, cyn belled â'ch bod wedi gadael y DU ddim mwy na 15 mlynedd yn ôl. (Bydd y terfyn 15 mlynedd hwn yn cael ei ddileu yn ystod 2024, er mwyn galluogi "pleidleisiau am oes").

 

Etholiadau lle gall pleidleiswyr tramor bleidleisio

Fel pleidleisiwr tramor, rydych ond yn gymwys i bleidleisio mewn Etholiadau Seneddol y DU a Refferenda.

I gael gwybod mwy am gofrestru pleidleiswyr tramor, ewch i wefan Comisiwn Etholiadol.

 

Cofrestru i bleidleisio ar-lein

Cofrestrwch i bleidleisio, ewch i Gov.uk

 

Gwybodaeth bwysig ychwanegol i bleidleiswyr tramor

Os byddwch yn dewis pleidleisio drwy'r post, cofiwch efallai na fydd eich pleidlais bost yn cael ei hanfon atoch tan yn agos iawn i'r etholiad, yn enwedig os na fyddwch yn gwneud cais tan yn agos at y dyddiad cau. Rhaid i chi ystyried hyn os ydych i ffwrdd cyn dyddiad yr etholiad, neu wedi gofyn i'r bleidlais bost gael ei hailgyfeirio dramor. 

Rhaid i bleidleiswyr tramor gofio gwneud cais ar wahân i bleidleisio drwy'r post (Pleidlais drwy'r Post) neu wneud cais i rywun bleidleisio ar eu rhan (Pleidlais drwy Ddirprwy), oni bai eu bod yn bwriadu dychwelyd adref i bleidleisio yn bersonol.

Fel arfer, anfonir papurau pleidleisio drwy'r post at bleidleiswyr tramor 2-3 wythnos cyn y diwrnod pleidleisio. RHAID i bleidleiswyr tramor fod yn sicr y bydd eu papur pleidleisio drwy'r post wedi'i farcio (slip pleidleisio) yn ein cyrraedd cyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio, neu ni fydd yn cael ei gyfrif.

Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a all eich papur pleidleisio drwy'r post gael ei ddychwelyd atom erbyn y diwrnod pleidleisio, dylech ystyried gwneud cais i rywun bleidleisio ar eich rhan (Pleidlais drwy Ddirprwy).

 

Rhagor o wybodaeth ac ymholiadau

Am ragor o wybodaeth ac ymholiadau, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Etholiadol