Cofrestru'n ddienw

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/11/2023

Beth yw cofrestru'n ddienw?

Sefydlwyd cofrestru’n ddienw i helpu unigolion y byddai eu diogelwch mewn perygl (neu lle byddai diogelwch pobl eraill yn yr un cyfeiriad â nhw mewn perygl) pe bai eu henwau neu gyfeiriadau'n cael eu rhestru ar y gofrestr etholiadol - er enghraifft, person sydd wedi ffoi rhag cam-drin domestig.

 

Sut mae cofrestru'n ddienw yn gweithio

Mae'n ofynnol i bob pleidleisiwr roi gwybodaeth bersonol sylfaenol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol er mwyn gwirio ei fod yn gymwys i gofrestru i bleidleisio. Y gwahaniaeth rhwng cofrestru safonol a chofrestru’n ddienw yw sut y mae'r manylion hyn yn ymddangos ar y gofrestr etholwyr a sut rydym yn cyfathrebu â chi.

 

Sut ydw i'n gwneud cais i gofrestru'n ddienw?

I gofrestru'n ddienw, cysylltwch â ni: gwasanaethauetholiadaol@sirgar.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01267 228889 a byddwn yn anfon cais atoch.  Nid oes modd cwblhau ceisiadau i gofrestru'n ddienw ar-lein ar hyn o bryd.

Bydd angen i chi egluro'n fyr pam y byddai eich diogelwch chi (neu ddiogelwch rhywun yn yr un cartref â chi) mewn perygl pe bai eich enw neu'ch cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr etholwyr (er enghraifft, rydych yn ofni y gallai unrhyw ddatgeliad o'ch cyfeiriad gynyddu eich risg). Hefyd bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gyd-fynd â'ch cais, sy’n cynnwys naill ai:

  1. gorchymyn llys; neu
  2. ardystiad ysgrifenedig

 

Pa dystiolaeth ategol sydd angen ei darparu gyda chais i gofrestru'n ddienw?

Rhaid i bob cais gynnwys tystiolaeth y byddai diogelwch yr ymgeisydd neu ddiogelwch rhywun yn ei aelwyd yn cael ei roi mewn perygl pe bai ei enw a'i gyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr. Mae rhestr o'r dogfennau ategol i'w gweld ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

NEU ardystiad (datganiad) ysgrifenedig sydd wedi'i lofnodi gan swyddog cymwys sy'n cefnogi'r cais. Gall swyddog cymwys fod yn unrhyw un o'r canlynol:

  • rheolwr lloches
  • ymarferydd meddygol cofrestredig e.e. meddyg teulu
  • nyrs neu fydwraig gofrestredig
  • swyddog heddlu ar reng arolygydd neu reng uwch mewn unrhyw heddlu yn y DU
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaethau Diogelwch neu'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
  • Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion neu Wasanaethau Plant yng Nghymru,
  • Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.
  • Prif Weithiwr Cymdeithasol yn yr Alban (a all awdurdodi yn ysgrifenedig person arall i ardystio cais ar gyfer person o dan 16 oed)
  • Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu Gyfarwyddwr Gweithredol Gwaith Cymdeithasol Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Lloegr a Chymru.

 

Pa mor hir y mae'r cofrestriad dienw yn parhau'n ddilys?

Mae'r cofrestriad yn para am 12 mis o'r diwrnod y gwneir y cofnod dienw am y tro cyntaf ar y gofrestr. Ar ôl i'r cyfnod o 12 mis ddod i ben, bydd angen i chi ailgofrestru'n ddienw, ond byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud.

 

Sut mae etholwr sydd wedi cofrestru'n ddienw yn bwrw ei bleidlais mewn etholiad?

Mae gan etholwr sydd wedi cofrestru'n ddienw yr un opsiynau ar gyfer pleidleisio mewn etholiad ag etholwyr eraill. Gall bleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio, neu gall wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy.

Os ydych yn pleidleisio'n bersonol, byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio cyn yr etholiad. Bydd y cerdyn pleidleisio yn cael ei anfon mewn amlen gyda llythyr eglurhaol, ond rhaid i chi fynd â'r cerdyn pleidleisio hwn i'r orsaf bleidleisio ac ni fyddwch yn gallu pleidleisio hebddo.

Os ydych am bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar wahân ar gyfer hyn.
 

Darparu tystiolaeth ffotograffig yn yr Orsaf Bleidleisio

O fis Mai 2023, mae'n ofynnol i etholwyr ddangos prawf adnabod ffotograffig cyn iddynt gael papur pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ar gyfer Etholiadau Seneddol ac Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn unig. Fel etholwr dienw, bydd angen i ni roi Dogfen Etholwr Dienw i chi a fydd yn caniatáu i chi bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ar gyfer y mathau hyn o etholiadau, a bydd angen i chi gwblhau'r broses hon a darparu llun i ni.