Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021 - 2024

Forewords from Chief Executive and Deputy Leader

Rhagair gan Brif Weithredwr y Cyngor

Croeso i Strategaeth Trawsnewid Digidol Cyngor Sir Caerfyrddin 2021-2024. Mae pandemig Covid-19 wedi atgyfnerthu pwysigrwydd sicrhau y gellir darparu ein gwasanaethau yn effeithiol ac yn effeithlon ar-lein i drigolion Sir Gaerfyrddin a gweithwyr yr Awdurdod. Mae ein Strategaeth Trawsnewid Digidol dros y pedair blynedd diwethaf yn ein rhoi mewn sefyllfa ragorol i fynd i'r afael â heriau'r pandemig ac mae'n rhaid i ni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw wrth i ni edrych ymlaen at ddatblygu ffyrdd newydd o weithio a manteisio ar ddatblygiad technolegau newydd a chyffrous yr ydym yn awyddus i'w croesawu fel Awdurdod.
Mae'r strategaeth ddigidol hon yn parhau i adeiladu ar yr atebion arloesol a fabwysiadwyd ac yn sicrhau ymagwedd uchelgeisiol at drawsnewid ein gwasanaethau ymhellach a'r ffordd rydym yn eu cyflwyno i drigolion Sir Gaerfyrddin. Mae angen i ni ganolbwyntio ar gynllunio prosesau ac atebion digidol gyda phwyslais cryf ar brofiad defnyddwyr a hwylustod. Bydd cyfranogiad ein cymunedau ym mhob agwedd ar ein gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau yn sicrhau trawsnewid gwirioneddol gynaliadwy. Byddwn yn trawsnewid ac yn integreiddio'r gwasanaeth a ddarperir o'r dechrau i'r diwedd drwy holl daith y gwasanaeth. Mae'n rhaid i hon fod yn daith sy'n cwmpasu pobl a diwylliant, proses a thechnoleg.
Bydd y Strategaeth Trawsnewid Digidol yn cael ei hadolygu bob blwyddyn a byddwn yn nodi ein cynnydd o ran cyflawni ein prosiectau allweddol yn ein Hadroddiad Blynyddol.

Wendy Walters
Prif Weithredwr

Rhagair gan Ddirprwy Arweinydd y Cyngor

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd Technoleg Ddigidol yn ystod Pandemig Covid-19. Rydym wedi gweld nifer o wasanaethau'n manteisio ar dechnolegau digidol arloesol sydd eisoes ar waith yn y Cyngor i drawsnewid a chyflwyno elfennau allweddol ar-lein i drigolion Sir Gaerfyrddin. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn benderfynol o barhau i groesawu arloesi digidol newydd wrth i ni ymdrechu i roi cyfle i breswylwyr ymgysylltu a chael mynediad at ein gwasanaethau ar-lein os dymunant.
Mae ein Strategaeth Trawsnewid Digidol newydd ar gyfer 2021-2024 yn cyflwyno nifer o brosiectau arloesol a fydd yn effeithio ar bron popeth a wnawn fel Cyngor. Disgrifiwyd “Trawsnewid Digidol" yn newid sy'n gysylltiedig â rhoi technoleg ddigidol ar waith ym mhob agwedd ar gymdeithas. Mae angen i Gyngor Sir Caerfyrddin barhau i fanteisio ar lwyfannau digidol newydd er mwyn hwyluso cysylltiadau gwirioneddol â thrigolion a busnesau a sicrhau mynediad cyfleus i wasanaethau cyhoeddus. Mae'r ddogfen bwysig hon yn amlinellu sut y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i ddatblygu tuag at sefydliad digidol modern.

Y Cynghorydd Mair Stephens
Dirprwy Arweinydd


Ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin

“Sir Gaerfyrddin sydd wedi'i galluogi'n ddigidol”

Er mwyn cyflawni'r weledigaeth fentrus hon, mae'n rhaid i ni wneud y canlynol:  

  • Darparu gwybodaeth a gwasanaethau trafodiadol ar-lein mewn modd sy'n hawdd ei ddefnyddio ac yn gynhwysol.
  • Hwyluso ac ategu cyfranogiad cymunedau a busnesau ym mhopeth a wnawn.
  • Newid y ffordd y mae gwasanaethau wyneb yn wyneb traddodiadol yn cael eu darparu, gan alluogi gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon ar gyfer ein trigolion.
  • Datblygu a gwella ein gweithlu digidol gan sicrhau arferion gweithio ystwyth a symudol a defnyddio'r technolegau mwyaf priodol i gefnogi darparu gwasanaethau.
  • Gweithio tuag at sicrhau cysylltedd digidol cyflym a dibynadwy i'n holl Ddinasyddion a Chymunedau.
  • Cefnogi busnesau i gystadlu yn yr economi ddigidol drwy gysylltedd symudol a band eang o'r radd flaenaf.
  • Gwella'r defnydd o dechnoleg ddigidol i gydweithio â phartneriaid yn ddi-dor, gan gynnwys rhannu a defnyddio data'n effeithiol.
  • Datblygu gwasanaethau digidol effeithlon drwy arloesi.
  • Dadansoddi data a gwybodaeth busnes er mwyn gwneud penderfyniadau strategol yn seiliedig ar dystiolaeth.

Beth yw Strategaeth Trawsnewid Digidol?

Roedd ein Strategaeth Trawsnewid Digidol gyntaf ar gyfer 2017-2020 yn nodi blaenoriaethau a dyheadau digidol strategol y Cyngor ac roedd wedi sicrhau, pan ddechreuodd y pandemig, ein bod ni fel awdurdod mewn sefyllfa gref iawn. Mae'r Strategaeth Trawsnewid Digidol hon ar gyfer 2021-2024 yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed dros y pedair blynedd diwethaf wrth i ni amlinellu’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin Ddigidol. Dangosodd ein dibyniaeth ar dechnoleg drwy gydol y pandemig i ddarparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol pa mor eang yw technoleg ddigidol ar draws pob sector a sut y mae wedi'i hintegreiddio'n llawn mewn sawl agwedd ar ein bywydau. Mae angen Strategaeth Trawsnewid Digidol arloesol a chyffrous ar Gyngor Sir Caerfyrddin oherwydd profwyd y gall technoleg ddigidol drawsnewid y Sir a bywydau pobl yn ogystal â chreu arbedion tymor hir ar gyfer y Cyngor.

Mae'r Cyngor, drwy'r tîm Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC), yn parhau i hybu prosiectau newid gwasanaethau trawsnewidiol. Mae'r Grŵp Llywio Trawsnewid Digidol wedi'i ad-drefnu i flaenoriaethu a monitro'r gwaith o gyflawni'r prosiectau allweddol a nodwyd yn y strategaeth hon ac mae'r holl ffrydiau gwaith perthnasol a sefydlir bellach yn adrodd i'r grŵp llywio hwn. Er mwyn gwireddu'n llawn y manteision y gall technoleg ddigidol eu cynnig a sicrhau bod gwasanaethau'r Cyngor yn ariannol gynaliadwy yn y dyfodol, byddwn yn parhau i gynyddu cwmpas ac, mewn rhai meysydd, gyflymder ein gwaith o ran technoleg ddigidol.

Mae trawsnewid digidol yn herio ac yn gwella sut y caiff pethau eu gwneud heddiw. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i groesawu newid a bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol a sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed yn y meysydd hyn dros y pedair blynedd diwethaf.

Rydym yn cydnabod bod gan ysgolion anghenion eithriadol o ran TGCh, ac i roi mwy o sylw i hyn, bydd Strategaeth Ysgolion Digidol ddiwygiedig yn cael ei datblygu sy'n cyd-fynd â Fframwaith Cymhwysedd Digidol Llywodraeth Cymru, Safonau Digidol Addysg a'r Grant HWB newydd. Bydd y strategaeth hon yn adlewyrchu'r ffyrdd newydd o weithio a nodwyd drwy'r pandemig a'r angen i wella'r model dysgu cyfunol mewn addysg.


Adeiladu Sylfeini Digidol yn Sir Gaerfyrddin

Sir Gaerfyrddin yw'r sir drydedd fwyaf yng Nghymru, ac mae'n cwmpasu rhyw 2,365 cilometr sgwâr. Mae Sir Gaerfyrddin yn sir o wrthgyferbyniadau. Mae economi a thirwedd amaethyddol cefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn cyferbynnu ag ardal drefol a diwydiannol y rhan dde-ddwyreiniol. Mae'r sir yn datblygu'n economi fodern sy'n cynnwys diwydiannau peirianneg ysgafn, gwasanaeth a thechnoleg newydd ynghyd â mentrau busnes eraill.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Nod cynnig Bargen Ddinesig Bae Abertawe yw helpu i roi'r rhanbarth ar flaen y gad yn yr oes ddigidol mewn byd ôl-Covid-19, drwy ganolbwyntio ar ddatblygu seilwaith digidol y Genhedlaeth Nesaf, gan gynnwys gwelliannau i ehangu'r ddarpariaeth o alluoedd Wi-Fi, 4G/5G a band eang cyflym iawn sefydlog all ymdopi â gigabit er budd ardaloedd trefol a gwledig y rhanbarth. Bydd gwell seilwaith digidol yn galluogi'r rhanbarth i arloesi, treialu a masnacheiddio atebion clyfar ar y rhyngrwyd yn fyd-eang a fydd yn trawsnewid yr economi mewn meysydd fel ynni, gweithgynhyrchu a gwyddorau bywyd. Bydd hyn yn effeithiol o ran cefnogi gweithio gartref ar raddfa fawr, gwella mynediad i swyddi, codi lefelau cynhyrchiant yn yr economi leol, helpu i fynd i'r afael â phroblemau lleol o ran tagfeydd yn ogystal â chefnogi arloesi/gwelliannau o ran y ddarpariaeth prif ffrwd. Bydd y mewnfuddsoddiad hwn yn helpu i wella cysylltedd digidol yn ardaloedd gwledig y Sir.

  • Fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain ar dair Rhaglen a Phrosiect mawr.
  • Rhaglen o fuddsoddiad Seilwaith Digidol ar draws y rhanbarth, cyfanswm cost y prosiect fydd £55M (£25 miliwn Bargen Ddinesig, £30 miliwn cyllid y Sector Cyhoeddus a'r Sector Preifat).
  • Yn y Clwstwr Digidol Creadigol yn Yr Egin, bydd prosiect â chyfanswm cost o £24 miliwn (£5 miliwn Bargen Ddinesig + £16 miliwn Sector Cyhoeddus £3 miliwn Sector Preifat) yn cael ei roi ar waith gan greu mwy na 200 o swyddi dros y 15 mlynedd nesaf.
  • Cyfanswm cost y prosiect fydd £200 miliwn (£40 miliwn Bargen Ddinesig, £32 miliwn Cyllid Sector Cyhoeddus a £127 miliwn Sector Preifat) a bydd yn creu mwy na 1800 o swyddi dros y 15 mlynedd nesaf yn natblygiad Pentref Awel.

Yr Iaith Gymraeg

Mae'r iaith Gymraeg yn rhan allweddol o'n bywydau pob dydd yn Sir Gaerfyrddin ac mae 50.3% o'r boblogaeth dros 3 oed yn siaradwyr Cymraeg. Mae'n rhaid i'n gwasanaethau ar-lein gael eu darparu'n ddwyieithog a'u hyrwyddo i'n trigolion yn unol â Mesur y Gymraeg, 2011.

Awdurdod Carbon Sero-Net

Ar 20 Chwefror 2019, penderfynodd Cyngor Sir Caerfyrddin yn unfrydol gefnogi Rhybudd o Gynnig i ddatgan argyfwng hinsawdd ac i fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030.

Cymeradwywyd Cynllun Sero-net ar 12 Chwefror 2020.

Mae gennym rôl bwysig i'w chwarae o ran lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ein hunain ymhellach a darparu'r arweiniad i annog trigolion, busnesau a sefydliadau eraill i gymryd camau i leihau eu hôl troed carbon eu hunain.

Mae gan dechnoleg rôl gynyddol i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r heriau hyn. Nod y strategaeth drawsnewidiol hon yw ategu cynllun gweithredu'r Awdurdod a chyda datblygiadau technolegol pellach dros y blynyddoedd nesaf, bydd o gymorth mawr i'r Awdurdod o ran cyflawni'r ymrwymiad hwn. Drwy gydol y pedwar maes Blaenoriaeth Allweddol ceir atebion a dulliau gweithredu arloesol a fydd yn gyrru'r agenda hwn yn ei flaen ac yn ategu'r gwaith sylweddol a wnaed eisoes i wella hyblygrwydd ac ystwythder ein gweithlu a'n hystâd.


Sut y gwneir cynlluniau – Yr hierarchaeth gynllunio

“Y Gacen Briodas a’r Edau Euraidd”

Bydd y Strategaeth Trawsnewid Digidol yn sicrhau bod modd cyflawni nifer o'r canlyniadau disgwyliedig a nodwyd yn Strategaeth Gorfforaethol ddiwygiedig y Cyngor (Ebrill 2021) a fydd yn ei dro yn ategu cyflawni ein Hamcanion Llesiant. Bydd cynlluniau gweithredu yn cael eu datblygu i gyflawni'r prosiectau allweddol a nodwyd a bydd y rhain yn cael eu monitro drwy'r System Rheoli Perfformiad a chyflwynir adroddiadau yn eu cylch bob blwyddyn. Bydd pob prosiect yn cael ei gynllunio a'i gyflawni yn unol â'r 5 Ffordd o Weithio.

How we deliver Planning Hierarchy Level Applicable
Well-being of future generations (Wales) Act 2015 Welsh Government National
Well-being Plan / Well-being Assessment Public Service Board Community Planning Community county wide
Corporate Strategy (incorporating well-being objectives) Strategic Planning
Service / Enabling Planning
Carmarthenshire County Council
Annual Reports / Improvement Plan Strategic Planning
Service / Enabling Planning
Carmarthenshire County Council
Various Service Specific Strategies Strategic Planning
Service / Enabling Planning
Carmarthenshire County Council
Consultation Surveys Strategic Planning
Service / Enabling Planning
Carmarthenshire County Council
Digital Transformation Strategy Strategic Planning
Service / Enabling Planning
Carmarthenshire County Council
Business Plans Operational Planning Service
Appraisals HPP
Personal development plans
Individual Plans / Objectives Individuals

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

7 well-being goals: Amore equal Wales, Ahealthier Wales, A resilient Wales, A prosperous Wales, A globally responsible Wales, A Wales of vibrant culture and thriving Welsh Language, A Wales of cohesive communities
7 Well-being Goals

Pwrpas cyffredinol y Ddeddf yw sicrhau bod trefniadau llywodraethu cyrff cyhoeddus ar gyfer gwella llesiant Cymru, yn ystyried anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r Ddeddf wedi'i llunio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy. Yn ôl y gyfraith:

  1. Bod yn rhaid i ni ddatblygu'n gynaliadwy, gan wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Yr egwyddor datblygu cynaliadwy yw: ‘... bod yn rhaid i'r corff cyhoeddus weithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb effeithio ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.’
  2. Mae'n rhaid i ni ddangos defnydd o'r 5 ffordd o weithio: Tymor hir, integredig, cynhwysol, cydweithredol ac ataliol.
  3. Mae'n rhaid i ni weithio tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant cenedlaethol sydd yn y Ddeddf. Gyda'i gilydd, maent yn creu gweledigaeth a rennir y gall cyrff cyhoeddus weithio tuag ati.

Cymru oedd wlad gyntaf i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n darparu gweledigaeth a rennir y gall pob corff cyhoeddus yng Nghymru weithio tuag ati. Fel corff cyhoeddus mae'n ofynnol i ni, yn unol â'r Ddeddf, bennu a chyhoeddi Amcanion Llesiant sy'n sicrhau ein bod yn cyfrannu cymaint â phosibl i'r Amcanion Llesiant. Rydym wedi cynnwys yr Amcanion Llesiant hyn yn Strategaeth Gorfforaethol y cyngor.


Strategaeth Trawsnewid Digidol - Meysydd Blaenoriaeth Allweddol

Mae pedwar maes blaenoriaeth allweddol a fydd yn ein galluogi i gyflawni ein gweledigaeth gyffredinol.

Key Priorities: Connectivity, Involvement, Innovation, Workforce

Aelodau Etholedig

Mae ein haelodau etholedig yn allweddol o ran croesawu'r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf a byddwn yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth digidol cynhwysol i'n trigolion. Byddwn yn parhau i alluogi ein haelodau etholedig i weithio mewn modd effeithlon a symudol yn eu cymunedau gan ddefnyddio'r dechnoleg ddigidol fwyaf priodol sydd ar gael.

Yr adnoddau sydd eu hangen

Mae'r Awdurdod yn buddsoddi swm sylweddol o adnoddau i sicrhau ei fod yn cyflawni blaenoriaethau allweddol a chanlyniadau Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021-2024:

  • £600k i drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau ar-lein.
  • Buddsoddi £440k i adnewyddu seilwaith technoleg sy'n heneiddio i gefnogi gweithle digidol.
  • £400 i wella a datblygu ein rhwydwaith (llais a data) a gofynion lled band cynyddol.
  • £270k i wrthsefyll risgiau seibrdroseddu a gwella diogelwch ar-lein.
  • £114k o gyllid ar gyfer hyfforddiant i staff i sicrhau y gall Cyngor Sir Caerfyrddin fanteisio i'r eithaf ar y technolegau diweddaraf.

Key priorities: Cyfranogiad

Galluogi dinasyddion i gael y gwasanaethau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar-lein"

Beth mae'n ei olygu?

  • Darparu gwybodaeth a gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n hawdd eu defnyddio ar-lein i drigolion.
  • Darparu mwy o fynediad digidol 24/7 i wasanaethau sy'n ddwyieithog ac yn hwylus i'r cwsmer.
  • Darparu gwasanaeth digidol personol ac ymateb i anghenion cwsmeriaid drwy ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'u cynnwys yn y gwaith o gynllunio ein gwasanaethau a gwelliannau i'r gwasanaeth.
  • Byddwn yn sicrhau ein bod yn apelio at holl ddemograffeg y sir ac yn cynnwys pawb; gan ganolbwyntio ar hygyrchedd a thechnoleg ddigidol i gefnogi anghenion defnyddwyr.

Pam y mae hyn yn bwysig?

  • Bodloni gofynion cwsmeriaid ac ymateb i ddisgwyliadau cynyddol cwsmeriaid.
  • Gwella ymgysylltu â chwsmeriaid gyda mynediad i wasanaethau a gwybodaeth wedi'i phersonoli.
  • Gyda mwy o ddefnydd o dechnoleg symudol, darparu mynediad i wasanaethau ar-lein pan fydd yn gyfleus i gwsmeriaid; ‘unrhyw bryd, unrhyw le’ 24/7.

Sut y byddwn yn sicrhau Cyfranogiad Digidol?

  • Byddwn yn moderneiddio'r gwasanaethau a ddarperir drwy ddefnyddio technoleg newydd ac arloesol i ddarparu gwasanaethau ar-lein.
  • Byddwn yn parhau i wella gwefan y Cyngor gan sicrhau bod pob dyfais symudol yn cael mynediad llawn i wasanaethau'r Cyngor.
  • Gwella'r ffordd yr ydym yn dylunio ac yn creu systemau TG gan roi anghenion a phrofiad y cwsmer wrth wraidd sut y bydd systemau newydd yn gweithredu ac yn gweithio.
  • Byddwn yn datblygu gwell dealltwriaeth o'r sianeli digidol a ffefrir gan gwsmeriaid ar gyfer cyfathrebu â'r Cyngor.
  • Byddwn yn sicrhau diogelwch gwybodaeth cadarn er mwyn diogelu ein data am ddinasyddion a busnesau rhag camddefnydd a bygythiadau seibr a diogelu hunaniaethau digidol.
  • Byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu hailddylunio a'u bod yn ddigidol yn ddiofyn; gan sicrhau eu bod yn bodloni ac yn rhagori ar ganllawiau a safonau presennol o ran hygyrchedd.

 

Key projects timeline

 

  • 2021

    e-Filio a Rheoli Cyfrifon Gwasanaethau'r Dreth Gyngor

    Canlyniadau Allweddol:

    Gall cwsmeriaid dderbyn eu biliau treth gyngor a gohebiaeth yn electronig ar-lein yn lle drwy'r post yn y modd traddodiadol; rheoli eu Debydau Uniongyrchol a gwneud cais am wahanol wasanaethau cysylltiedig.

  • a

    Trefnu Apwyntiadau yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

    Canlyniadau Allweddol :

    Datblygu'r system Trefnu Apwyntiadau yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ymhellach i gynnwys trefnu apwyntiad ar yr un diwrnod.  

  • a

    Archebion a Thaliadau Ar-lein am wasanaethau sydd ar gael ym Mharc Gwledig Pen-bre

    Canlyniadau Allweddol

    Darparu ystod ehangach o wasanaethau drwy'r system archebu ar-lein ar gyfer y parc.

  • 2022

    Rhoi gwybod am Atgyweiriadau Tai

    Canlyniadau Allweddol

    Gall tenantiaid roi gwybod am atgyweiriadau a chadw cofnod ohonynt ar-lein 24/7 drwy 'Fy Nghyfrif Hwb' 

  • 2024

    Darparu Gwasanaethau Trafodiadol

    Canlyniadau Allweddol

    Darparu mwy o wasanaethau ar-lein i gwsmeriaid.

  • a

    Manteisio ar sgwrsfot HWB a Sgwrs Fyw ar draws y cyngor

    Canlyniadau Allweddol

    Darparu gwasanaethau'r cyngor drwy dechnoleg arloesol i ategu'r gwasanaethau a ddarperir ar-lein drwy wefan y Cyngor a 'Fy Nghyfrif HWB'.

  • a

    Gwella gwasanaethau'r cyngor gyda mwy o gyfleusterau archebu a thalu ar-lein

    Canlyniadau Allweddol

    Cynyddu'r incwm a gynhyrchir ar draws ystod ehangach o wasanaethau'r cyngor a symud tuag at gyngor 'heb arian parod'.  

  • a

    Ailddatblygu Traeth Pentywyn - Eco Hostel, Amgueddfa, Maes Parcio

    Canlyniadau Allweddol

    Darparu atebion digidol a chysylltedd ar gyfer datblygu a gweithredu'r gwahanol wasanaethau ym Mhentywyn yn barhaus.

  • a

    Parhau i ddatblygu gwefan y Cyngor a 'Fy Nghyfrif Hwb' i gwsmeriaid

    Canlyniadau Allweddol

    Darparu gwasanaethau'r cyngor drwy un pwynt mynediad personol canolog sydd ar gael 24/7 ac sy'n hawdd ei ddefnyddio. 


Key priorities: Y Gweithlu

Cynnwys a chyfathrebu â staff ym mhopeth a wnawn. Helpu ein gweithlu i fabwysiadu arferion gweithio hyblyg er mwyn perfformio cystal ag y bo modd wrth ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol sydd o safon

Beth mae'n ei olygu?

  • Gweithlu digidol sy'n ymatebol ac yn hyblyg.
  • Gweithlu sy'n wybodus, yn gysylltiedig ac y cyfathrebir ag ef.
  • Bod yn ymatebol i anghenion ein dinasyddion drwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus da a bod yn hyblyg o ran lle mae'r gwaith yn cael ei wneud.
  • Hyblygrwydd ar gyfer ein staff yw'r gallu i weithio o leoliadau gwahanol, ar amserau gwahanol a defnyddio'r dechnoleg fwyaf effeithiol.

Pam y mae hyn yn bwysig?

  • Mae sicrhau bod ein gweithlu yn cymryd rhan ac y cyfathrebir ag ef yn hanfodol i lwyddiant ein sefydliad.
  • Mae ystwythder a symudedd yn arwain at arbedion effeithlonrwydd a gwell cynhyrchiant drwy ffyrdd gwell o weithio.
  • Mae'n gwella ein gallu i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ar gyfer ein gweithlu sy'n iach ac yn fuddiol i'r naill ochr a'r llall. Mae hyn yn cynyddu ein gallu i ddenu'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer ein gweithlu.
  • Mae'n caniatáu inni wella prosesau, gweithdrefnau a llif gwaith yn sylweddol, gan ddileu gwastraff a manteisio i'r eithaf ar arbedion effeithlonrwydd drwy wneud defnydd da o ddata a dadansoddi.

Sut y byddwn yn sicrhau Gweithlu Digidol?

  • Bydd uwch-reolwyr ar draws yr Awdurdod yn croesawu'r agenda trawsnewid digidol.
  • Bydd staff a rheolwyr yn cynnwys ac yn cyfathrebu â'r holl staff ar bob lefel yn aml ac yn gyson.
  • Bydd staff a rheolwyr yn cael eu hannog a'u cefnogi i weithio mewn modd ystwyth sy'n helpu i ddarparu gwell gwasanaethau.
  • Byddwn yn creu gweithlu gwirioneddol ddigidol, gan sicrhau bod y cymwysiadau a'r wybodaeth iawn gan y defnyddiwr iawn, ar y dyfeisiau iawn, ar yr adeg iawn ac yn y lleoliad iawn.
  • Byddwn yn datblygu hyder a sgiliau digidol ein gweithlu fel eu bod yn gallu bod yn gynhyrchiol ac yn rhagweithiol wrth ddefnyddio technoleg i ysgogi ffyrdd gwell o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
  • Byddwn yn sicrhau bod ein polisïau a'n strategaethau allweddol yn cael eu hintegreiddio â'n huchelgais digidol, yn enwedig ym meysydd cynllunio gwasanaethau, caffael, twf economaidd a chomisiynu.
  • Byddwn yn datblygu Hyrwyddwyr Digidol ym mhob maes gwasanaeth i hyrwyddo a chefnogi'r gweithlu gydag atebion digidol ac anghenion technegol.

 

Key projects timeline

 

  • 2021

    Hwyluso gweithio ystwyth / o bell pellach i staff

  • 1

    Dulliau i staff dderbyn a gwneud galwadau drwy eu dyfeisiau gwaith 'softphones'.

    Canlyniadau Allweddol

    Gwella dulliau telathrebu a chydweithio ar gyfer staff.

  • 2

    Hwyluso'r gwaith o gyflwyno Ffonau Clyfar ar draws y cyngor i alluogi 'Gweithlu Symudol'

    Canlyniadau Allweddol

    Caniatáu i staff gael mynediad cyflymach a gwell at ddata a systemau cefn swyddfa (staff sy'n gweithio mewn swyddfeydd a staff nad ydynt yn gweithio mewn swyddfeydd). Gwella ymgysylltiad â holl weithwyr y cyngor.  

  • 2024

    Manteisio ar offer a gwasanaethau Office 365; SharePoint, Teams, Stream, Planner

    Canlyniadau Allweddol

    Mwy o gynhyrchiant i staff drwy fanteisio ar offer Microsoft ac atebion allweddol o ran meddalwedd.

  • a

    Defnyddio Power BI (Gwybodaeth Busnes) ar gwmwl ar gyfer defnyddiwr ar draws y cyngor

    Canlyniadau Allweddol

    Galluogi'r cyngor i ddeall a dadansoddi data yn well er mwyn helpu i wella'r broses o wneud penderfyniadau.


Key priorities: Cysylltedd

“Galluogi trigolion a busnesau yn y Sir i ddefnyddio technoleg ddigidol i wella eu bywydau”

Beth mae'n ei olygu?

  • Gweithio i helpu i sicrhau cysylltedd digidol cyflym a dibynadwy i'n Dinasyddion a'n Cymunedau.
  • Cefnogi busnesau i gystadlu yn yr economi ddigidol drwy gysylltedd symudol a band eang o'r radd flaenaf.
  • Cydweithio â'r Llywodraeth, Diwydiant a Phartneriaid i sicrhau Cysylltedd Digidol sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
  • Helpu i ysgogi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wasanaethau symudol a band eang cyflym ac ysgogi mabwysiadu'r gwasanaethau hyn.
  • Sicrhau bod trigolion a busnesau yn manteisio i'r eithaf ar y dechnoleg ddigidol ddiweddaraf i wella eu bywydau.
  • Galluogi busnesau i ddefnyddio cyfrifiadura cwmwl i gyflymu amser i werth, hybu mabwysiadu technolegau newydd, a chysylltu'r gwasanaethau a gynigir mewn amser real.
  • Darparu Gwasanaethau Sector Cyhoeddus Digidol i'n Dinasyddion a'n busnesau drwy seilwaith cysylltedd o'r radd flaenaf.

Pam y mae hyn yn bwysig?

  • Bydd Sir Gaerfyrddin sydd wedi'i chysylltu'n llawn yn annog busnesau newydd i fuddsoddi yn y Sir, gan gefnogi'r economi leol a denu cyflogaeth gynaliadwy.
  • Bydd Sir Gaerfyrddin sydd wedi'i chysylltu'n llawn yn annog busnesau presennol i arloesi a manteisio ar gyfleoedd newydd.
  • Sicrhau bod ein plant yn byw mewn cymunedau sydd wedi'u cysylltu'n ddigidol a bod y technolegau digidol diweddaraf ar gael iddynt er mwyn rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd iddynt.
  • Dylai pawb sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin allu cael mynediad i wasanaethau 'ar lein' y gellir eu defnyddio i wella eu 'hansawdd bywyd'.

Sut y byddwn yn sicrhau Cysylltedd Digidol?

  • Byddwn yn creu amgylchedd agored a hyblyg ar gyfer arloesi digidol sy'n croesi ffiniau ac yn rhoi hwb i dwf economaidd ar gyfer y rhanbarth.
  • Fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe byddwn yn elwa o fewnfuddsoddi sylweddol i greu Sir Gaerfyrddin wirioneddol gysylltiedig.
  • Byddwn yn buddsoddi yn ein cymunedau a'n pobl ifanc i sicrhau cymdogaethau cynaliadwy drwy wella mynediad i dechnoleg ddigidol mewn ardaloedd lle mae'r angen mwyaf.
  • Defnyddio ffyrdd o annog pobl ifanc i gyfathrebu â ni'n ddigidol ac annog cyflogadwyedd yn y sir.
  • Byddwn yn datblygu gwell hyder a sgiliau digidol ymysg ein grwpiau agored i niwed a'r rhai dros 65 oed.
  • Ein nod fydd cael cyllid i ddatblygu gweithgareddau digidol cynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin er mwyn cyrraedd y rhai sy'n gallu elwa fwyaf o'r byd digidol’; ar draws busnesau, cymunedau a thrigolion.

Key projects

 

  • 2022

    Manteisio ar GovRoam ar draws holl adeiladau'r sector cyhoeddus

    Canlyniadau Allweddol

    Galluogi mwy o gydweithio ar gyfer gweithlu'r sector cyhoeddus.

  • a

    Cynnal Digwyddiadau Cymunedol Cysylltedd Digidol 10 Tref, gan rannu gwybodaeth, a chyfeirio at gymorth ac adnoddau perthnasol

    Canlyniadau Allweddol

    Cymunedau gwybodus sy'n deall effeithiau a manteision cymdeithasol ac economaidd cysylltedd da.  

    Cymunedau sy'n cael eu grymuso a'u cefnogi i fynd i'r afael â materion cysylltedd symudol a band eang gwael eu hunain.

  • 2024

    Lleihau nifer y safleoedd ledled Sir Gaerfyrddin sydd heb gysylltiad cyflym iawn

    Canlyniadau Allweddol

    Gwella cysylltedd ar gyfer adeiladau preswyl a busnes ledled Sir Gaerfyrddin.

    Cynyddu cydraddoldeb o ran mynediad at wasanaethau ac adnoddau ar-lein.

    Lleihau allgáu digidol.  

  • a

    Cynyddu nifer y safleoedd ledled Sir Gaerfyrddin sydd â mynediad at gwibgyswllt ffibr llawn.

    Canlyniadau Allweddol

    Mwy o safleoedd gyda mynediad i gysylltedd digidol o'r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif ac wedi'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol.

  • a

    Cynyddu cwmpas cysylltedd symudol 3/4/5G a mwy o ddewis o werthwyr cysylltedd symudol ledled Caerfyrddin.

    Canlyniadau Allweddol

    Gwell capasiti a chwmpas i ddarparu gwasanaethau digidol i bawb, ym mhobman.

    Mwy o ddewis a chystadleuaeth i drigolion a busnesau o ran cysylltedd symudol.

  • a

    Cynyddu'r nifer sy'n mabwysiadu gwasanaethau band eang cyflym iawn a gwibgyswllt ymhlith y dinasyddion a'r busnesau hynny sy'n gallu defnyddio'r gwasanaethau hyn.

    Canlyniadau Allweddol

    Economi Ddigidol ffyniannus ar draws y Sir.

  • a

    Uwchraddio asedau'r sector cyhoeddus (Safleoedd Hwb) ar draws y Sir i ffibr llawn.

    Canlyniadau Allweddol

    Mwy o gapasiti i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus digidol o'r asedau hynny ac i'r asedau hynny.

    Rhai o'r safleoedd busnes a phreswyl cyfagos yn cael ffeibr llawn ar unwaith fel "budd damweiniol" o'n gwaith.

    Cynyddu dichonoldeb masnachol gwneud gwaith gosod ffibr llawn pellach i gymunedau a busnesau cyfagos.

  • a

    Defnyddio gwibgyswllt ffibr llawn yn ein Parciau Busnes yn Cross Hands.

    Canlyniadau Allweddol

    Bod yn un o'r parciau busnes â chysylltiadau da sydd â'r cysylltedd cyflymaf yn y Deyrnas Unedig.

  • a

    Develop Web based support resources for citizens and businesses, helping them to achieve better connectivity.

    Canlyniadau Allweddol

    Un lleoliad i rannu adnoddau, cyfeirio, helpu a hysbysu.

    Adnodd ar-lein ar y we sy'n rhannu ac yn hyrwyddo defnyddio astudiaethau achos o fanteision a defnydd Cysylltedd Digidol gan godi ymwybyddiaeth ynghylch pam mae gwell cysylltedd mor bwysig a sut y gellir ei ddefnyddio i helpu dinasyddion a busnesau ledled Sir Gaerfyrddin.

  • a

    Prosiectau Cymunedol Gwledig. Nodi ein cymunedau gwledig sydd wedi'u gwasanaethu waethaf a gweithio i dreialu prosiectau cymunedol gwledig, gan ddod â chysylltedd da i'r gymuned honno.

    Canlyniadau Allweddol

    Cymunedau Gwledig â Gwell Cysylltiadau.  

    Cydraddoldeb Cymdeithasol a Digidol i gymunedau gwledig.


Key priorities: Arloesi

Bydd atebion digidol arloesol yn galluogi mwy o gydweithio

Beth mae'n ei olygu?

  • Rhannu gwybodaeth yn well gyda phartneriaid a sefydliadau eraill.
  • Cynyddu rhannu llwyfannau meddalwedd a chaledwedd ar draws y rhanbarth.
  • Defnyddio'r atebion digidol diweddaraf ac arloesol ar draws y cyngor i wella profiad cwsmeriaid ymhellach a symleiddio swyddogaethau cefn swyddfa.

Pam y mae hyn yn bwysig?

  • Mae arloesi'n sail i 4 maes blaenoriaeth allweddol y strategaeth hon - 'Cyfranogi', 'Gweithlu', 'Cysylltedd' ac 'Arloesi'.
  • Mae'n helpu i faethu cydlyniant mewn timau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i dimau sy'n wasgaredig gan fod timau cydlynol yn llawer mwy cynhyrchiol.
  • Mae'n creu awyrgylch o fod yn agored gan fod staff yn cael mynediad i'r newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf.
  • Mae'n symleiddio'r ffordd yr ydym yn rhannu data gyda phartneriaid a sefydliadau eraill gan sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn rhan o un tîm sy'n gweithio ar amcanion cyffredin.
  • Mae arloesi yn gatalydd ar gyfer galluogi adrannau i ganolbwyntio ar sicrhau bod y dinesydd wrth wraidd yr hyn y maent yn ei wneud.

Sut y byddwn yn sicrhau Arloesi Digidol?

  • Byddwn yn sicrhau bod gan staff y dulliau cydweithio angenrheidiol i wella cynhyrchiant a llesiant.
  • Byddwn yn diogelu preifatrwydd drwy reoli gwybodaeth yn effeithiol yn ogystal â sicrhau bod trefniadau rhannu data priodol ar waith gyda'r holl sefydliadau a phartneriaid.
  • Byddwn yn manteisio'n llawn ar ffyrdd newydd o weithio a thechnolegau newydd, gan gynnwys atebion ffynhonnell agored.
  • Byddwn yn hyblyg o ran ein lleoliadau ac yn creu amgylchedd sy'n meithrin cydweithio a chreadigrwydd.
  • Byddwn yn datblygu atebion newydd gyda phartneriaid gan ddefnyddio technoleg ddigidol i integreiddio gwasanaethau ar draws ffiniau swyddogaethol a daearyddol fel eu bod yn rhannu gwybodaeth yn fwy effeithlon.
  • Byddwn yn cydweithio'n rhanbarthol ac yn genedlaethol i gaffael meddalwedd a gwasanaethau ar gwmwl er mwyn sicrhau gwell gwerth am arian a mwy o amrywiaeth o atebion.

 

Key projects

 

  • 2023

    Gweithredu System Wybodaeth Gofal Cymunedol newydd ar gwmwl (Gofal Cymdeithasol).

    Canlyniadau Allweddol

    Er mwyn galluogi staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol i rannu gwybodaeth yn ddiogel ac i helpu i ddarparu gwell gofal a chymorth i bobl ledled Sir Gaerfyrddin.

  • 2024

    Rhoi atebion ar waith gan ddefnyddio technoleg Roboteg Gyfrifiadurol

    Canlyniadau Allweddol

    Cynorthwyo o ran symleiddio ac awtomeiddio prosesau i helpu i ysgogi rhagor o arbedion effeithlonrwydd ar draws swyddogaethau cefn swyddfa.

  • a

    Cynnwys y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial

    Canlyniadau Allweddol

    Technoleg i helpu i wella diogelwch a gwytnwch seiber.

  • a

    Manteisio ar dechnolegau adnabod lleferydd a llais gan gynnwys atebion arddweud

    Canlyniadau Allweddol

    Gwella gwasanaeth cwsmeriaid, cynhyrchiant cefn swyddfa ac arbedion effeithlonrwydd.

  • a

    Parhau i hwyluso'r gwaith o fudo systemau etifeddol ar y safle i wasanaethau a reolir ar gwmwl a ddarperir gan werthwyr.

    Parhau i hwyluso'r gwaith o fudo systemau etifeddol ar y safle i wasanaethau a reolir ar gwmwl a ddarperir gan werthwyr.

    • Adnoddau Dynol/y Gyflogres
    • Tai
    • Refeniw a Budd-daliadau
    • Atgyweiriadau Tai
    • Priffyrdd
    • Hawlenni Parcio i Breswylwyr
    • Rheoli Mynediad i Gefn Gwlad
    • Gwasanaethau Etholiadol
    • Amgueddfeydd (Archifau)

    Canlyniadau Allweddol

    Darparu rhagor o wytnwch ar gyfer gwasanaethau a systemau; a chaniatáu mwy o fynediad at ddata i alluogi 'Gweithlu Symudol'.

  • a

    Defnyddio rhwydwaith arloesi "Rhyngrwyd Pethau" ar draws rhannau allweddol o'r Sir.

    Canlyniadau Allweddol

    Rhwydwaith arloesi agored i'r cyngor a'n partneriaid dreialu amrywiol achosion defnydd o ran y Rhyngrwyd Pethau a thrawsnewid gwasanaethau.

  • a

    Datblygu treialon ac achosion defnydd o ran "y Rhyngrwyd Pethau" ar draws gwasanaethau cyhoeddus a ddewiswyd.

    Canlyniadau Allweddol

    Prosiectau Prawf Cysyniad y gellir eu datblygu, eu profi a'u rhoi ar waith o bosibl ar draws y Sir a'r Rhanbarth.  

  • a

    Prosiectau o ran y Fargen Ddinesig

    Bydd Sir Gaerfyrddin yn darparu'r prosiectau canlynol o ran y Fargen Ddinesig:

    • Clwstwr Digidol Creadigol - Yr Egin - trwy greu seilwaith newydd i ddenu mentrau bach a chanolig eu maint i gychwyn neu ehangu.
    • Datblygiad Pentre Awel - drwy gyfuniad o ddatblygu busnesau, addysg, mentrau llesiant, ymchwil a datblygu a mentrau gofal iechyd.
    • Byddwn hefyd yn darparu menter sgiliau a thalent ranbarthol ar ran Rhanbarth Bae Abertawe.

    Canlyniadau Allweddol

    Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir.  

    Cydweithio â phartneriaid ym maes iechyd a'r trydydd sector i drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl ac i wella mynediad i wybodaeth, cyngor, gwasanaethau ataliol, a gwasanaethau argyfwng yn Sir Gaerfyrddin.