Addysg Sir Gâr 2022-2032

Cefndir polisi

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yw'r datganiad mwyaf cyflawn o hawliau plant a gynhyrchwyd erioed. Er bod angen edrych ar bob erthygl gyda'i gilydd oherwydd eu rhyngddibyniaeth a'u gwerth cyfartal, mae erthyglau 3, 12, 13, 14, 19 28, 29 a 31 yn arbennig o berthnasol yn y cyd-destun presennol hwn.
  • Casgliad o 17 o nodau byd-eang a osodwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 2015 yw’r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae Nod 4, 'sicrhau addysg gynhwysol ac o safon i bawb a hyrwyddo dysgu gydol oes' wedi'i ymddiried i UNESCO, fel asiantaeth arbenigol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer addysg. Mae UNESCO yn arwain ac yn cydlynu agenda Addysg 2030. Mae'r Fframwaith Addysg 2030 yn darparu canllawiau ar gyfer gweithredu'r nod a'r ymrwymiadau uchelgeisiol hyn. Bwriad y cyhoeddiad 'Canllaw ar gyfer sicrhau cynhwysiant a thegwch mewn addysg 2017' yw cefnogi llunwyr polisi addysg i wreiddio cynhwysiant a thegwch mewn polisi addysgol. Mae'r canllaw yn helpu i: adolygu pa mor dda y mae cydraddoldeb a chynhwysiant yn bodoli ar hyn o bryd mewn polisïau cyfredol ac yn gymorth i helpu i nodi pa gamau sydd eu hangen i wella a datblygu polisïau. Mae'r canllaw hwn yn llywio syniadaeth yn y maes hwn o bolisi sy'n esblygu.
  • Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, 2018-2023 Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: mae'r strategaeth hon yn nodi'r cyfeiriad ar gyfer yr awdurdod lleol dros y pum mlynedd nesaf, gan ymgorffori ein hamcanion gwella a llesiant fel y’u diffinnir gan ddeddfwriaeth. Mae hefyd yn cynnwys prosiectau a rhaglenni allweddol y Cabinet am y pum mlynedd nesaf, sef set o bron i gant o brosiectau blaenoriaeth a gyhoeddwyd gan yr arweinydd y Cyng. Emlyn Dole yn ei gynllun 'Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin'. Mae'r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y dyfodol mewn 15 amcan newydd o dan bedair thema allweddol - i gefnogi preswylwyr i ddechrau'n dda, i fyw'n dda ac i heneiddio'n dda mewn amgylchedd iach, diogel a llewyrchus.
  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol (2015) wedi cael ei chroesawu gan Sir Gaerfyrddin fel dogfen strategol drosfwaol bwysig, wrth gyflawni ei dyletswyddau lles. Mae amcanion lles Cyngor Sir Caerfyrddin yn mapio ein cynnydd tuag at bob un o'r saith nod lles. Yn adrannol, rydym yn cyfrannu at nifer o'r amcanion lles ac yn cymryd yr awenau mewn nifer, e.e. fel y disgrifir yn y gydran 'dechrau'n dda ' o strategaeth gorfforaethol newydd Cyngor Sir Gâr 2018-2023 (Mehefin 2018). Er enghraifft, mae'r adran addysg a phlant yn arwain ar Amcan Lles 4: lleihau nifer yr oedolion ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
  • Addysg yng Nghymru: cenhadaeth ein cenedl (cynllun gweithredu 2017-21): dyma gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau bod gan bob person ifanc yng Nghymru gyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf drwy'r cwricwlwm trawsnewidiol newydd sy'n cael ei ddatblygu'n genedlaethol ar hyn o bryd. Cynigir pedwar amcan galluogi allweddol i greu cwricwlwm trawsnewidiol. Mae'r galluogwyr hyn yn cael eu trwytho yn ein gwaith adrannol.
  • Mae Adroddiad dyfodol llwyddiannus yr Athro Graham Donaldson (2015) yn darparu'r bensaernïaeth ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru. Mae gwireddu'r fenter hon yn rhan annatod o'r daith ddiwygio y mae Cymru wedi dechrau arni a chyfeirir ati'n gryf yn y genhadaeth genedlaethol ac yng ngwaith yr adran.
  • Mae Cymraeg 2050 yn anelu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin i 2020 yn gosod y sylfeini lleol ar gyfer y ddelfryd hon. Yng nghyd-destun tegwch, mae'r CSyGMA yn dadlau y dylai pob dysgwr ym mhob lleoliad dysgu, gael budd o'r cyfle i ddod yn rhugl ac yn gyfartal ddwyieithog. Ystyrir bod hyn yn gynhwysol i bob dysgwr yn y modd yr ydym yn anelu y gall pawb fanteisio o fod yn ddwyieithrwydd hyderus.
  • Diben Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin yw manylu ar sut rydym yn anelu at gyflawni canlyniadau a thargedau Llywodraeth Cymru fel y'u hamlinellir yn eu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (SACC). Mae'r SACC yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system addysg a hyfforddiant sy'n ymateb mewn ffordd wedi'i chynllunio i'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg. Y nod yw hwyluso cynnydd yn nifer y bobl o bob oedran sy'n gallu defnyddio'r Gymraeg gyda'u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle. Mae CSyGMA Sir Gaerfyrddin yn gyfrwng allweddol ar gyfer creu gwell system gynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
  • Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i rym ar 6ed o Ebrill 2016. Mae'r Ddeddf yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella llesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw:
    • Llais a rheolaeth: rhoi'r unigolyn a'i anghenion, wrth wraidd ei ofal, a rhoi llais iddo, a rheolaeth dros gyrraedd y canlyniadau sy'n ei helpu i gyflawni llesiant.
    • Atal ac ymyrryd yn gynnar: cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned er mwyn lleihau'r angen critigol cynyddol.
    • Lles: cefnogi pobl i gyflawni eu lles eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth.
    • Cyd-gynhyrchu: annog unigolion i gymryd mwy o ran yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.