Addysg Sir Gâr 2022-2032

Cyswllt â'r amcanion llesiant

Bydd ein Blaenoriaethau Strategol yn helpu i fynd i'r afael ag Amcanion Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin a ymgorfforir yn Strategaeth Gorfforaethol 2018-2023 sef:

  • Dechrau gorau mewn bywyd - Helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a gwella ei brofiadau yn gynnar mewn bywyd
  • Helpu plant i ddilyn ffordd iach o fyw - Bydd ffordd iach o fyw yn helpu plant I gyflawni eu potensial a chwrdd â dyheadau addysgol.
  • Cefnogi a gwella cynnydd a chyflawniad i bawb - Cefnogi a gwella cynnydd, cyflawniad a chanlyniadau I bob dysgwr.
  • Trechu tlodi - Trechu tlodi drwy wneud popeth o fewn ein gallu i'w atal, gan helpu pobl i gael gwaith a gwella bywydau'r rheiny sy'n byw mewn tlodi
  • Amgylchedd - Ymagwedd ledled y Cyngor tuag at gefnogi Heneiddio’n Dda yn Sir Gaerfyrddin.
  • Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru - Hyrwyddo'r bywiogrwydd yr iaith Gymraeg ynghyd â chyfoeth diwylliant a hanes Cymru yn Sir Gaerfyrddin.