Ymunwch â'n cymuned o Arwyr Sbwriel
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â'n cynllun 'Arwr Sbwriel'. Mae ymhell dros 1,000 o wirfoddolwyr ar draws y sir yn codi sbwriel ac yn gwneud gweithgareddau eraill i wella eu hamgylchedd lleol.
Mae ein cynllun gwirfoddoli anffurfiol yn darparu cymorth, gan gynnwys offer a chyngor i unrhyw un sydd am gasglu sbwriel a helpu i gadw Sir Gaerfyrddin yn lân. Gall hyn fod ar eich pen eich hun, gyda'ch teulu a'ch ffrindiau neu gydag Arwyr Sbwriel eraill. Mae llawer o fanteision ynghlwm wrth wirfoddoli; yn ogystal â mynd allan i'r awyr iach, gallwch hefyd gwrdd â phobl eraill o'r un anian, gwneud ffrindiau newydd a theimlo'n dda am eich cymdogaeth.
Rydym yn darparu:
Gwasgod lachar adlewyrchol
Teclyn codi sbwriel
Menig
Bagiau
Casglu gwastraff
Beth ydym yn gofyn i chi ei wneud
Iechyd a Diogelwch
Mae diogelwch ein holl wirfoddolwyr o'r pwys mwyaf i ni ac fel Arwr Sbwriel bydd gofyn i chi wrando ar gyflwyniad byr ynghylch diogelwch. Bydd hyn yn sicrhau eich bod wedi’ch diogelu o dan gynllun yswiriant yr awdurdod ac mae'r cyflwyniad wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer arwyr cofrestredig yn unig.
Os hoffech arwain grŵp neu os ydych yn rhan o grŵp o wirfoddolwyr sydd eisoes yn bodoli, anfonwch e-bost at: prideinyourpatch@sirgar.gov.uk a byddwch yn cael gwybodaeth am gael yswiriant grŵp.
Bob tro y byddwch yn codi sbwriel, chi fydd yn gyfrifol am asesu'r amodau ar y diwrnod. Gallai hyn gynnwys amodau rhewllyd, gwelededd gwael, gwyntoedd cryfion ac ati. Os oes gennych unrhyw bryderon, peidiwch â bwrw ati i gasglu sbwriel.
Gallwn roi arweiniad a chyngor i chi, ond chi fydd yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun, felly peidiwch â chymryd unrhyw risgiau heb angen.
Rhannu gwybodaeth
Gofynnwn i chi gofnodi pryd, ble a faint o sbwriel rydych yn ei gasglu gan roi gwybod i ni. Mae'r wybodaeth hon yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae eich gwaith yn ei chael sy'n ein galluogi i barhau i ddarparu cymorth i wirfoddolwyr. Mae eich gwybodaeth yn ein helpu i adnabod unrhyw dueddiadau sbwriel yn y Sir ac i ddatblygu ymgyrchoedd wedi'u targedu i fynd i'r afael â nhw.
Helpwch ni i hyrwyddo'r cynllun ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Mae preswylwyr yn aml yn cydnabod y gwaith gwych rydych yn ei wneud mewn dim o dro, ac rydym am sicrhau eu bod yn gwybod pa mor falch ydyn ni o'n holl wirfoddolwyr. Mae rhannu eich stori gyda ni ac eraill, yn rhan hanfodol o’r broses ac yn ffordd llawer mwy effeithiol o gyflwyno ein hystadegau a’n ffigurau. Eich straeon personol a’ch lluniau chi sy’n helpu i hyrwyddo’r cynllun ac yn helpu i amlygu pwysigrwydd gofalu am ein Sir Gaerfyrddin.
Os yw hyn yn berffaith i chi a'ch bod yn 18 oed neu'n hŷn, yna cysylltwch â ni. Ar gyfer y rhai sydd dan 18 oed, gofynnwn i riant neu warcheidwad gofrestru ar gyfer eich cartref a mynd gyda chi ar sesiynau codi sbwriel.
CYSYLLTWCH Â NI