Negeseuon atgoffa am gasgliadau ar e-bost/neges destun

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/02/2024

Gallwch bellach gofrestru i dderbyn naill ai e-bost neu neges destun i’ch atgoffa am eich casgliadau ailgylchu a bagiau du.
Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn cael ei lansio ym mis Ionawr 2023 ar yr un pryd ag y byddwn yn gwneud rhai newidiadau i'ch casgliadau ailgylchu a bagiau du.

O 23 Ionawr 2023 ymlaen:

  • Byddwn yn casglu gwydr o gartrefi bob tair wythnos
  • Bydd eich bag glas yn cael ei gasglu bob wythnos, ynghyd â'ch bin bwyd gwyrdd
  • Bydd bagiau du hefyd yn cael eu casglu bob tair wythnos, uchafswm o dri bag

Mae hyn yn golygu y gallai eich diwrnodau casglu newid hefyd.

Er mwyn gwneud hyn yn haws, rydym yn lansio'r gwasanaeth atgoffa hwn i roi gwybod i chi beth sy'n cael ei gasglu a phryd.

Mae hefyd yn cynnwys negeseuon atgoffa am wastraff hylendid/cewynnau a gwastraff gardd os ydych wedi cofrestru am y gwasanaethau hyn.

Sut mae cofrestru?

Os nad oes gyda chi gyfrif Hwb yn barod, bydd angen i chi greu un. Ticiwch y blwch i dewiswch naill ai negeseuon atgoffa ar e-bost neu neges destun wrth i chi fynd drwy'r broses gofrestru.

Creu cyfrif

Os oes gennych gyfrif Hwb eisoes, bydd angen mewngofnodi a newid eich dewisiadau.

I wneud hyn:

  • Cliciwch ar eich enw yn y gornel dde uchaf ac yna
  • Dewiswch 'Golygu Proffil’.
  • Cliciwch ar 'Dewisiadau' ac yna ticiwch y blwch ar gyfer negeseuon atgoffa am gasgliadau biniau a dewiswch naill ai e-bost neu neges destun.

Mae'n costio i ni anfon negeseuon testun, ond mae e-byst am ddim, felly byddem yn eich annog i ddewis yr opsiwn hwn os yn bosib.

Er mwyn dad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar gyfer y gwasanaeth hwn:

  • Mewngofnodwch i'ch cyfrif Hwb
  • Cliciwch ar eich enw ar y gornel dde uchaf
  • Dewiswch 'Golygu Proffil'
  • Cliciwch ar 'Dewisiadau' a dileu'r tic o'r blwch/diwygio

Os ydych wedi newid cyfeiriad ers sefydlu eich cyfrif Hwb, dylech wirio a diweddaru eich manylion er mwyn derbyn y wybodaeth gywir.