Pecyn Adnoddau ynghylch Baw Cŵn

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/01/2024

Dog Fouling pack

Mae tua 34% o gartrefi'n berchen ar o leiaf un ci yn y DU. Mae ein hanifeiliaid anwes annwyl yn cynhyrchu mwy na 1,000 tunnell o ysgarthion bob dydd, ac mae'r rhan fwyaf yn cael ei wneud mewn mannau cyhoeddus. Gall perchnogion cŵn roi'r gwastraff hwn mewn bag a'i roi yn unrhyw un o finiau sbwriel y Cyngor pan fyddant yn mynd â'u hanifeiliaid anwes am dro, ond mae llawer o berchnogion anghyfrifol yn ei adael ar ôl ac mae modd rhagweld beth yw goblygiadau hyn. Ni all ein Swyddogion Gorfodi ddal pawb sydd wrthi felly, i'r rhai ohonom sydd wedi cael llond bol ar gael baw ar ein hesgidiau, rydym wedi creu pecyn adnoddau i helpu cymunedau i weithredu yn eu hardal.

Mae ein pecyn adnoddau ynghylch baw cŵn yn cynnwys: 

2 x can chwistrellu sialc pinc
1 x stensil bagio a binio
1 x stensil pawennau ci
1 x stensil olion traed
10 x sticeri baw cŵn
1 x canllaw i berchnogion cŵn yn Sir Gaerfyrddin
1 x taflen ynghylch côd i'r rheiny sy'n mynd â'u cŵn am dro.
10 x poster

Yn seiliedig ar ymchwil gan Cadwch Gymru'n Daclus, nod y pecyn yw atgoffa pobl i waredu eu gwastraff cŵn a'u tywys at y bin sbwriel agosaf. Bydd arweiniad a chymorth yn cael ei roi ynghylch sut i ddefnyddio'r pecyn a sut i gofnodi eich cynnydd. Cofiwch ddefnyddio #BagioBinio ar eich cyfryngau cymdeithasol.

Cysylltu â ni