Canllaw gwastraff ac ailgylchu yn ymwneud â digwyddiadau

Glanhau ar ôl y digwyddiad

Bydd angen i chi lanhau unrhyw sbwriel a gynhyrchir yn sgil y digwyddiad a gwaredu'r gwastraff hwnnw'n briodol hefyd. Felly, rhaid cynllunio hyn yn y trefniadau gwastraff cyffredinol ar gyfer eich digwyddiad.

Os ydych yn grŵp cymunedol, efallai y byddwch yn gallu benthyg offer codi sbwriel ar gyfer eich digwyddiad o ganolfan casglu sbwriel. Defnyddiwch y ddolen isod i ddod o hyd i un yn agos atoch chi.

CADWCH GYMRU'N DACLUS

Mae sbwriel sy'n cael ei chwythu y tu allan i ardal y digwyddiad yn gallu cael effaith ar fywyd gwyllt a mynd i mewn i gyrsiau dŵr. Mae pobl yn cael eu hannog i beidio â rhyddhau balwnau a lanternau awyr a hyd yn oed eu gwahardd mewn rhai achosion yn Sir Gaerfyrddin gan eu bod yn niweidiol i fywyd gwyllt ac mae lanternau yn risg tân.

Cofiwch, i gael eu hailgylchu mae angen i eitemau fod yn weddol lân. Dylai poteli fod yn wag, a dim gwastraff bwyd wedi'i gymysgu ag unrhyw ddeunydd pecynnu.