Canllaw gwastraff ac ailgylchu yn ymwneud â digwyddiadau

Marchnata a hyrwyddo'r digwyddiad

Ystyriwch gynnwys negeseuon gwastraff mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd cyn y digwyddiad e.e., dewch â'ch eitemau eich hun y gellir eu hailddefnyddio. Ceisiwch leihau gwastraff ac ailgylchu popeth arall posibl a galwch e'n ddigwyddiad diwastraff.

Er mwyn tynnu sylw at y ffaith bod hyd yn oed gweithredoedd bach yn gallu cael effaith fawr, gallech chi gynnwys ffeithiau fel:

Gall ailgylchu 1 croen banana gynhyrchu digon o ynni i wefru 2 ffôn clyfar!

Gall un cadi llawn gwastraff bwyd gynhyrchu digon o drydan i bweru oergell am 18 awr!

Yn ystod y digwyddiad, cyfathrebwch negeseuon gwastraff yn rhagweithiol drwy gyhoeddiadau a chyfryngau cymdeithasol i gyfranogwyr.

Gallwch gael rhagor o gyngor ar farchnata a hyrwyddo eich digwyddiad ar dudalen Pecyn Offer Cymunedol y Cyngor.