Canllaw gwastraff ac ailgylchu yn ymwneud â digwyddiadau

Cynllunio cyn y digwyddiad - lleihau'r gwastraff yn gyntaf lle bo'n bosibl

Gweithiwch gyda rhanddeiliaid, cyflenwyr, a chyfranogwyr posib i gynhyrchu rhestr o ba fathau o wastraff fydd yn cael ei gynhyrchu yn y digwyddiad.

A oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i'w leihau neu ei atal?

Gofynnwch i stondinwyr am eu gwastraff, ac unrhyw gontractau a allai fod ganddyn nhw eisoes ar waith. Os bydd ganddyn nhw wastraff pecynnu a bocsys yn y digwyddiad, a allen nhw fynd â'r rhain yn ôl gyda nhw i gael eu hailgylchu/gwaredu drwy eu contractau eu hunain?

Gofynnwch i stondinwyr osgoi eitemau untro/tafladwy lle bynnag y bo modd, anogwch nhw i beidio â defnyddio eitemau fel:

Pecynnau bach o saws 
Pecynnau bach unigol o laeth/siwgr/coffi

O fis Hydref 2023 bydd yr eitemau canlynol yn cael eu gwahardd yng Nghymru:

Platiau plastig
Cyllyll, ffyrc a llwyau plastig
Ffyn troi dyodydd plastig
Gwellt plastig (heblaw am resymau iechyd ac anabledd)
Ffyn cotwm plastig
Ffyn balwns plastig
Cwpanau polystyren
Bocsys bwyd polystyren

Yn hytrach:

Hyrwyddwch y defnydd o gynwysyddion ailgylchadwy mwy o faint neu y gellir eu hail-lenwi.
Defnyddiwch gwpanau, gwydrau, llwyau a gwellt y gellir eu hailddefnyddio lle bo'n bosibl.
Anogwch bobl i ddod â'u rhai eu hunain lle bo hynny'n briodol.
Edrychwch ar gyfleoedd marchnata ar gyfer gwerthu cwpanau y gellir eu hailddefnyddio neu gytleri cludadwy/teithio yn y digwyddiad.

Ystyriwch gynllun blaendal a dychwelyd e.e. ar gyfer gwydrau cwrw y gellir eu hailddefnyddio, er mwyn osgoi defnydd sengl.

Gallai llogi llestri a gwydrau fod yn opsiwn ar gyfer rhai digwyddiadau. Mae rhai archfarchnadoedd yn cynnig gwasanaeth llogi yn lleol, neu chwiliwch ar-lein am fusnesau llogi yn lleol.

Sefydlwch orsaf(oedd) ail-lenwi dŵr ac anogwch gyfranogwyr i ddod â'u potel ail-lenwi eu hunain. Ar gyfer digwyddiadau mwy, mae'n bosib y gall Dŵr Cymru helpu.

A fydd bwyd yn cael ei werthu neu'n dod i'r digwyddiad? - gellir dim ond ailgylchu bwyd pan nad oes unrhyw ddeunydd pecynnu wedi'i gymysgu ag ef. Cydweithiwch gydag unrhyw stondinwyr i addysgu cwsmeriaid am hyn os ydych chi'n cael biniau ailgylchu bwyd. Os ydy pobl yn dod â'u bwyd eu hunain, gallwch eu hannog nhw i gael cinio diwastraff ac, o bosib, mynd ag unrhyw wastraff adref gyda nhw.


Oeddech chi'n gwybod bod pobl yn cael eu hannog i beidio â rhyddhau balwnau a lanternau awyr a hyd yn oed eu gwahardd mewn rhai ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin? Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen we Iechyd yr Amgylchedd.