Gwastraff busnes

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/04/2024

Mae'n ddyletswydd ar bob busnes i gadw ei wastraff yn ddiogel ac i gael gwared ag ef neu ei ailgylchu drwy ddefnyddio contractwr gwastraff trwyddedig. 

O 6 Ebrill 2024, bydd rheolau newydd Llywodraeth Cymru yn dod i rym. Bydd angen i bob eiddo annomestig wahanu deunyddiau ailgylchadwy o wastraff arall.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i gytundeb ffurfiol â CWM Environmental Ltd ar gyfer darparu gwasanaeth casglu gwastraff masnach.

Dylid cyfeirio pob ymholiad ynghylch trefnu casgliad newydd, gwastraff sydd heb ei gasglu, biniau wedi'u difrodi neu newid i'r trefniadau at CWM Environmental drwy ffonio 01267 225520 neu drwy fynd i wefan CWM Environmental.

Os hoffech drefnu casgliad gwastraff masnach, bydd rhaid i chi gwblhau contract casglu gwastraff busnesau cyn i CWM ddechrau casglu eich gwastraff. Bydd eich contract yn cael ei adnewyddu'n awtomatig bob blwyddyn a byddwch yn cael gwybod ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i'r prisiau. 

Nid ydym yn darparu casgliadau gwastraff clinigol neu hylendid ar gyfer cwsmeriaid masnachol.

Mae casgliad ar wahân ar gyfer gwastraff swmpus busnesau. Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn costio £288 am hyd at 10 eitem. Cysylltwch a ni am rhagor o wybodaeth.

Yn ôl Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, y diffiniad o wastraff busnes yw gwastraff o safle a ddefnyddir ar gyfer masnachu neu fusnes, neu at ddibenion chwaraeon, hamdden neu adloniant. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno 'dyletswydd gofal' y mae'n rhaid i bob busnes gydymffurfio â hi.

Rhaid ichi gymryd pob cam rhesymol i gadw gwastraff yn ddiogel a'i waredu'n briodol. Os byddwch yn rhoi eich gwastraff i rywun arall, rhaid ichi sicrhau bod ganddynt drwydded i'w waredu yn unol â'r ddyletswydd gofal.

Rydych chi'n gyfrifol am eich gwastraff busnes a rhaid ichi reoli'r modd y mae'n cael ei storio a'i waredu. Rhaid ichi sicrhau:

  • Bod yr holl wastraff yn cael ei gadw'n ddiogel mewn cynhwysydd addas.
  • Bod gan bwy bynnag y byddwch yn rhoi eich gwastraff iddo awdurdod i fynd ag ef, h.y. cludwr gwastraff cofrestredig.
  • Pan fydd eich gwastraff yn cael ei drosglwyddo, bod nodyn trosglwyddo gwastraff yn mynd gydag ef.
  • Rhaid cadw nodiadau trosglwyddo gwastraff am 2 flynedd a rhaid iddynt fod ar gael i swyddog awdurdodedig ar gais.
  • Os ydych yn gwaredu eich gwastraff eich hun, mae'n rhaid i chi ddefnyddio cyfleuster trwyddedig megis Gorsaf Drosglwyddo Nant-y-caws, Caerfyrddin. Gellir dod o hyd i safleoedd trwyddedig preifat ar-lein drwy chwilio am 'gorsafoedd trosglwyddo gwastraff yn fy ardal’. Mae'n rhaid eich bod wedi cofrestru fel cludwr gwastraff er mwyn cludo'ch gwastraff, i gael rhagor o fanylion ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dylech wneud y canlynol:

  • Prynu neu logi biniau addas i storio eich gwastraff.
  • Storio eich gwastraff yn ddiogel — mewn cynhwysydd fel na all y cyhoedd, anifeiliaid neu fermin fynd iddo.
  • Trefnu contract gyda chludwr gwastraff cofrestredig, a fydd yn darparu biniau storio, gwasanaeth casglu a'r gwaith papur angenrheidiol.
  • Rhowch wybod i'ch holl staff sut y dylent waredu sbwriel yn gyfreithlon – yn ysgrifenedig os oes modd.

NID oes gennych hawl i wneud y canlynol:

  • Mynd â'ch gwastraff busnes adref a'i roi yn y bin yn eich cartref.
  • Mynd â'ch gwastraff busnes i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref y Cyngor.
  • Rhoi eich gwastraff busnes mewn unrhyw fin sbwriel cyhoeddus neu fanc ailgylchu cyhoeddus.

Gallai methu â chydymffurfio arwain at erlyniad a dirwy.

Mae CWM Environmental yn darparu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu masnachol, gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 01267 225520 neu ewch i'w gwefan.