Gosod posteri'n anghyfreithlon

Diweddarwyd y dudalen ar: 19/01/2023

Mae gosod posteri'n anghyfreithlon yn cynnwys arddangos arwyddion, posteri a sticeri hysbysebu heb ganiatâd mewn mannau cyhoeddus. Yn aml maent yn cael eu gosod ar y briffordd, er enghraifft ar bolion lampau, rheiliau, pontydd, arwyddion ffyrdd a chelfi stryd eraill.

Mae'n ddyletswydd statudol arnom i gadw'r sir yn lân. Mae gosod posteri'n anghyfreithlon yn gwneud i ardal edrych yn anniben ac os nad ydynt yn cael eu tynnu i lawr maent yn pydru'n araf, sy'n golygu eu bod yn edrych yn fwy diolwg ac yn achosi sbwriel. Maent hefyd yn gallu tynnu sylw gyrwyr gan achosi gwrthdrawiadau ar y ffyrdd; heb sôn am y baich ychwanegol ar gyllideb y Cyngor. Yn ogystal, mae'r busnesau dan sylw yn cael mantais annheg ar eu cystadleuwyr sy'n cydymffurfio â'r gyfraith gan nad ydynt yn talu am le hysbysebu.

Beth ydym ni’n ei wneud ynghylch y mater?

Bydd unrhyw arwyddion sy'n cael eu gosod heb ganiatâd ar y priffyrdd ac mewn mannau cyhoeddus eraill yn cael eu gwaredu. Gallai pobl sy'n cael eu dal yn gosod posteri'n anghyfreithlon dderbyn hysbysiad cosb benodedig o £75 neu fel arall gallent gael eu herlyn yn y llys a chael dirwy o hyd at £2,500.

Eithriadau

Gellir caniatáu i grwpiau cymunedol, elusennau cofrestredig a sefydliadau di-elw hysbysebu ar y briffordd gyhoeddus am gyfnod cyfyngedig yn unig, yn amodol ar rai telerau ac amodau a nodir isod:

Mae'n rhaid cydymffurfio â'r canlynol wrth osod arwyddion/posteri/baneri ar ein ffyrdd:

  • Rhaid rhoi gwybod i'r Adain Gwaith Stryd ar ffurf neges e-bost gofalstrydoedd@sirgar.gov.uk o leiaf 10 diwrnod ymlaen llaw, a chyflwyno lluniau o'r arwyddion a mesuriadau ar eu cyfer, ynghyd â chynllun lleoliad o'r lleoliadau arfaethedig. Bydd yr Adain Gwaith Stryd yn ymgynghori â'r Tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol / y Swyddfa Ranbarthol / y Staff Rheoli Traffig. Goddefir yr arwyddion os na ddaw unrhyw wrthwynebiad i law. Fodd bynnag os bydd unrhyw un o'r staff priffyrdd o'r farn bod yr arwyddion yn beryglus, cedwir yr hawl i'w tynnu ar bob achlysur.
  • Bod o leiaf 2.1 metr yn uwch nag unrhyw droedffordd neu lwybr troed.
  • Bod o leiaf 0.45 metr o ymyl y ffordd gerbydau.
  • Bod o ansawdd derbyniol.
  • Cael eu gosod am hyd at 14 diwrnod yn unig cyn digwyddiad.
  • Bod yn llai na thair milltir o fan cynnal y digwyddiad.
  • Yn gyffredinol, cael eu gwaredu dri diwrnod ar ôl y digwyddiad.

Ni ddylai posteri:

  • Hyrwyddo busnes neu weithgarwch busnes.
  • Peri tramgwydd.
  • Bod yn berygl i gerbydau neu gerddwyr oherwydd eu safle neu eu lleoliad.
  • Achosi difrod i gelfi stryd ac adeiladwaith priffyrdd (e.e. arwyddion stryd).
  • Cael eu gosod ar bolion lampau heb ganiatâd penodol Peiriannydd Goleuadau'r Cyngor. Pan geir y fath ganiatâd, ni ddylai arwyddion fod yn fwy na 50cm o led na 60cm o ddyfnder.

Os ydych yn poeni bod rhywun yn gosod posteri'n anghyfreithlon, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Rhoi gwybod am posteri anghyfreithlon